Drag queen dressed in turquoise sparkly outfit and turquoise wig   Drag Queen dressed in blue outfit and blue wig

 

Ar ôl gwella o'r diwedd o'i hangover Nadolig, mae Dragma a'i hwyresau styfnig ddiawledig o'r House of Deviant yn dychwelyd i Lan yr Afon am noson wallgof arall o beli  bingo a bŵs boncyrs!

Bachwch eich dabbwyr bingo a rhowch herc cam a naid  lawr i Theatr Glan yr Afon Ddydd Gwener 22 Ebrill a rhowch gynnig ar ennill gwobrau eithaf unigryw yn y noson hynod gynhwysol hon na fyddwch yn ei hanghofio.

Yn dilyn llwyddiant ei sioe Nadolig fyw a sioe wythnosol Late Night Natterbox ar Sofa Share Wales yn ystod cyfnodau clo 2020, mae'r perfformiwr drag Ernie Sparkles yn dychwelyd i theatr Glan yr Afon gyda hoff nain ddrag Cymru, Dragma. Yn ymuno â hi mae ei hwyresau drag 'The House of Deviant', sef y prif griw drag cynhwysol gydag anableddau dysgu yng Nghymru wrth iddynt ddychwelyd i Lan yr Afon gyda'u golwg unigryw a herfeiddiol ar noson allan yn y bingo!

Mae The House of Deviant yn brosiect wedi'i gyd-gynhyrchu yn ne Cymru sy'n defnyddio sgiliau perfformio drag fel offeryn i archwilio hunan-barch ac annibyniaeth gydag oedolion ag anableddau dysgu a all fel arall gael anawsterau gyda materion fel ynysigrwydd cymdeithasol a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed

Ers ei ffurfio yn yr hydref 2020, mae The House of Deviant wedi bod yn lledaenu agwedd ac ysblander anhygoel mewn digwyddiadau ar-lein ledled y gwledydd Prydain gan gynnwys Theatr Glan yr Afon, Canolfan Gelfyddydau'r Chapter, digwyddiadau Pride, Electric Umbrella TV a Gig Buddies.

Er eu bod yn dal i fod yng nghamau cynnar ei ffurfio, mae Breninesau’r House of Deviant eisoes wedi canfod eu bod yn gweld eu hunain mewn golau mwy cadarnhaol ac yn teimlo y gallant fod yn fwy pendant wrth sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Dywedodd y perfformiwr drag, Ernie Sparkles (Dragma), a helpodd i sefydlu The House of Deviant: 

"Mae'r breninesau yma wastad yn fy synnu! Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud ar y llwyfan ac ar-lein yn heriol iawn nid yn unig o ran sut maen nhw'n gweld eu hunain, ond hefyd sut mae cymdeithas yn gweld pobl ag anableddau. Maen nhw'n troi pob carreg bosib drosodd ac mae'r canlyniad yn waith doniol a chyffrous iawn. Mae llawer ennyd wedi bod pan ‘wy wedi cael trafferth anadlu drwy'r chwerthin sy’n dod yn eu sgil!

Nid yw'r sioe wedi ei sgriptio o gwbl a'r hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei weld yw comedi byrfyfyr go iawn. Yn y sioe Nadolig cawsom ddawnsio pengwin rhywiol digymell ac ymwneud gwyredig gyda'r teulu brenhinol. Rydw i bob amser yn rhyfeddu at y pethau maen nhw'n ei ddweud!

"Mae llawer o bobl yn meddwl na all pobl ag anableddau wneud llawer o bethau, ac mae The House of Deviant yn chwalu’r syniad yna a phrofi nad oes raid i ddiagnosis fod yn rhwystr.

Mae un o’r merched, Nicole Bird yn mwynhau perfformio mewn drag fel Flossie Sunshine. Mae hi'n teimlo bod drag yn ei helpu i archwilio gwahanol bersonâu:

"Mae bod yn The House of Deviant yn gyflawniad anhygoel gan fy mod yn teimlo fy mod yn berson gwahanol, rwy'n dod yn berson sassy."

Mae Sophie Scheeres, aka Mae Miss Shade, yn teimlo bod perfformio mewn drag wedi rhoi mwy o hyder a chyfleoedd iddi gymdeithasu:

"Mae'n fy helpu i gymdeithasu ac yn rhoi hyder i mi. Mae'n teimlo’n wych i ddysgu gwneud colur a dawnsio a newid fy llais."

Am weithio gyda The House of Deviant, ychwanega Ernie Sparkles:

"Mae gweithio gyda'r breninesau ffyrnig hyn wedi bod yn fraint absoliwt, maent yn hynod o sassy ac yn naturiol ddoniol ac maent bob amser yn fy ngadael yn gegrwyth o ran eu parodrwydd i ddatblygu, i berfformio ac i herio canfyddiadau ynghylch yr hyn y gall pobl ag anableddau dysgu ei wneud."

Bydd Blwch Bingo Hwyr yn Nos Dragma ynghyd â’r House of Deviants yn strafagansa gwych o fingo na ddylech ei fethu! Mae tocynnau i'r digwyddiad un-tro hwn ar Lan yr Afon Ddydd Gwener 22 Ebrill ar gael nawr o https://www.newportlive.co.uk/en/events/5fbdd527-aaa3-ec11-80e5-00505601006a/ neu drwy ffonio 01633 656757.