Yn dilyn datganiad diweddar Llywodraeth Cymru, o ddydd Llun 27  Rhagfyr bydd rhai newidiadau i'n cyfleusterau a'n gwasanaethau, ac maent i'w gweld isod.

Rydym yn dilyn Canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru, UK Active ac UK Theatre ar draws ein gwasanaethau a’n cyfleusterau i helpu i’ch cadw chi a’n cwsmeriaid eraill, ein staff a’n gwirfoddolwyr yn ddiogel. Gallwch weld y mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith ynghyd â’r canllawiau y bydd angen i chi eu dilyn yma

Mae eich diogelwch yn bwysig iawn i ni ac rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein cyfleusterau’n cynnig amgylchedd diogel. Os ydych yn nerfus ynghylch ymweld â ni, cysylltwch â ni.

Oriau Agor

Ni fydd y newidiadau'n effeithio ar ein horiau agor, sydd i'w gweld yma: Oriau Agor | Oriau Agor ar gyfer lleoliadau a chyfleusterau Casnewydd Fyw

Ein Gwasanaethau

Campfeydd

Mae’r campfeydd yn parhau ar agor yn y Ganolfan Byw’n Actif, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, Canolfan Casnewydd ac yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol. 

Mae sesiynau yn y gampfa yn para awr, a rhaid eu harchebu ymlaen llaw.  Bydd mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith yn ein campfeydd gan gynnwys mwy o ymbellhau cymdeithasol a llai o gapasiti.

 

Archebwch Nawr

Dosbarthiadau Ymarferion Grŵp

Mae dosbarthiadau ymarferion grŵp ar gael yn y Ganolfan Byw’n Actif, Felodrom Cenedlaethol Cymru, Geraint Thomas, Canolfan Casnewydd a'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol. 

Rhaid cadw lle o flaen llaw ar gyfer dosbarthiadau.  Bydd mesurau ychwanegol yn cael eu gweithredu yn ein dosbarthiadau gan gynnwys mwy o ymbellhau cymdeithasol a llai o gapasiti a allai olygu bod lleoliad eich dosbarth wedi newid.

Bydd dosbarthiadau ar-lein hefyd yn cael eu cyflwyno o 4 Ionawr.

Archebwch Nawr

Cyrtiau a Gwersi Tenis

Mae cyrtiau tenis ar gael i’w harchebu a bydd gwersi tenis yn dychwelyd o 4 Ionawr yng Nghanolfan Tenis Casnewydd. Bydd un o'n tîm mewn cysylltiad os bydd y canllawiau newydd yn effeithio ar eich gwers chi neu wers eich plentyn.

Archebwch Nawr

Beicio

Mae Beicio i Blant a Beicio Trac ar gael yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Bydd mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys mwy o ymbellhau cymdeithasol a llai o gapasiti.

Archebwch Nawr

Nofio

Mae nofio cyhoeddus ar gael yn y Ganolfan Byw’n Actif a’r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol. 

Dim ond nofio lôn fydd ym mhrif byllau’r ddau leoliad. Bydd angen i chi drefnu sesiwn ar gyfer y lôn sy'n berthnasol i'ch cyflymder nofio. Bydd y sesiynau'n uchafswm o 60 munud o amser pwll i ganiatáu i'n staff lanhau. Bydd mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith gan gynnwys mwy o ymbellhau cymdeithasol a llai o gapasiti. Bydd angen i chi gyrraedd yn barod i nofio a gofynnwn i chi ddefnyddio ystafell newid ar ôl i chi nofio ddim ond os yw'n hanfodol. Bydd newid wrth ochr y pwll ar gael o hyd.

Mae nofio i deuluoedd hefyd ar gael yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol

Archebwch Nawr

Gwersi Nofio

Bydd gwersi nofio yn parhau yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ac yn y Ganolfan Byw'n Actif o 2 Ionawr 2022.  Ni fydd rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwylio.

Bydd angen i nofwyr ddod i nofio'n barod a byddant yn cael eu cyfarch gan aelod o'n tîm hamdden yn y dderbynfa a'u cymryd i wersi.

Bydd angen i nofwyr yn y prif bwll yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol newid ar ochr y pwll ar ôl iddynt nofio a gadael drwy'r drws ochr. Gall rhieni a gwarcheidwaid gefnogi â newid eu plentyn os yw hyn yn hanfodol.

Gall nofwyr yn y Pwll Addysgu yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a'r pwll yn y Ganolfan Byw’n Actif barhau i ddefnyddio ystafelloedd newid. Gall rhieni a gwarcheidwaid gefnogi â newid eu plentyn os yw hyn yn hanfodol.

Plant Bach

Nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw newidiadau i sesiynau’r plant bach ond cadwch lygad ar ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol am y manylion diweddaraf.

Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon

Rydym yn adolygu canllawiau mewn perthynas â pherfformiadau yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a byddwn yn rhannu diweddariad manylach cyn gynted ag y gallwn. Os ydych i fod i fynychu perfformiad yn ystod mis Ionawr, bydd rhywun yn cysylltu â chi ym mis Ionawr os effeithir ar eich archeb. 

Rydym yn gobeithio y bydd perfformiadau yn ystod mis Chwefror yn gallu mynd rhagddynt yn ôl y bwriad a byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid sydd â thocynnau ar gyfer unrhyw berfformiadau y mae'r canllawiau newydd yn effeithio arnynt.

Bydd ein sinema a'n gweithdai yn mynd rhagddynt yn ôl y bwriad gyda mwy o ymbellhau cymdeithasol a chapasiti cyfyngedig.

Perfformiadau wedi'u haildrefnu

Ar hyn o bryd dim ond y perfformiadau canlynol sydd wedi'u haildrefnu:

  • Mae Supreme Queen a oedd i fod i gael ei chynnal ddydd Sadwrn 15 Ionawr 2022 wedi'i aildrefnu i ddydd Gwener 25 Chwefror 2022

  • Mae Richard & Adam a oedd i fod i gael ei gynnal ddydd Gwener 28 Ionawr 2022 wedi'i aildrefnu i ddydd Sadwrn 24 Medi 2022

Bydd yr holl docynnau ar gyfer yr hen ddyddiad yn parhau'n ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Bydd ein tîm swyddfa docynnau yn cysylltu â llyfrwyr dros y dyddiau nesaf i drafod y newid a'ch opsiynau felly gofynnwn am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn ac aros i ni gysylltu â chi.

Archebwch Nawr

Caffis

Bydd ein caffis yng Nglan yr Afon a'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol yn parhau ar agor.

Archebion a Digwyddiadau a Archebwyd Ymlaen Llaw

Os oes gennych archeb gyda ni yn ystod mis Ionawr 2022 a’r canllawiau diweddaraf yn effeithio arni, bydd rhywun yn cysylltu â chi i drefnu trosglwyddo eich archeb i ddyddiad ac amser cyfleus ac i drafod eich opsiynau. Os yw eich archeb yn rhan o 'archebiad bloc' neu 'ddigwyddiad', bydd un o'n tîm mewn cysylltiad i drafod hyn gyda chi.

Gofynnwn i gwsmeriaid fod yn amyneddgar gyda ni a byddwn yn cysylltu cyn gynted â phosibl, byddwn yn dechrau cyfathrebu â chwsmeriaid yn nhref dyddiad eu harcheb.

Aelodaeth a Debydau Uniongyrchol

Gan fod disgwyl i’n holl wasanaethau barhau, ni fydd unrhyw newidiadau i'r drefn casglu debydau uniongyrchol a chredydau nofio.

Os oes disgwyl effaith ar eich gwersi chi neu wersi eich plentyn, bydd aelod o'r tîm yn cysylltu.

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar ein cwestiynau cyffredin cyn cysylltu â ni. 

Gweld y Cwestiynau Cyffredin

Os oes angen i chi gysylltu â’r tîm, anfonwch e-bost i enquiries@newportlive.co.uk neu ffoniwch 01633 656757.

 

Diolch

Hoffem ddiolch i'n holl gwsmeriaid am eu hadborth cadarnhaol a’u cefnogaeth.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen nad yw’n dosbarthu elw, rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus. Dysgwch sut gallwch chi ein cefnogi yn http://www.casnewyddfyw.co.uk/cy/Amdanom-ni/Cefnogwch-ni/  

Yn olaf, dymunwn Nadolig a Blwyddyn Newydd hapus ac iach i chi!  Edrychwn ymlaen at eich croesawu'n ôl i Casnewydd Fyw yn 2022 ac unwaith eto eich ysbrydoli i fod yn actif ac yn greadigol gyda'n gilydd.