Mae Casnewydd Fyw a Glan yr Afon wrth eu bodd o ddod â gŵyl Sblash Mawr yn ôl i Gasnewydd ar 23 a 24 Gorffennaf.
Rydym yn chwilio am grwpiau ac artistiaid cymunedol a hoffai berfformio ar y llwyfan cymunedol!
Os ydych chi'n gôr lleol, grŵp dawns, cerddor neu berfformiwr arall a hoffai fod ar y llwyfan cymunedol yna cysylltwch â ni gan y byddem wrth ein bodd o gael eich cyflwyno chi neu'ch sefydliad.
Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i gynrychioli cymunedau mor amrywiol â phosibl. Yn benodol, rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob rhyw, ystod oedran neu ag anableddau a chynrychiolwyr o gymunedau LHDTC+ a mwyafrifoedd byd-eang.
Byddwn ni’n darparu:
-
Gofod perfformio – Llwyfan dan do Prolyte 6x4 gyda decin dur 1.2m
-
System Sain a Monitro
-
Goleuadau Sylfaenol
-
Darperir offer sylfaenol (ond rhaid archebu’r rhain ymlaen llaw)
-
Cit Drymiau, Bass Combo, Combos Gitâr 2x, Allweddellau
Bydd yn ofynnol i bob perfformiwr sicrhau;
-
Yswiriant dilys a digonol
-
Asesiad risg
-
Gwiriad DBS dilys os ydyw’n gweithio gyda phobl ifanc neu bobl sy'n agored i niwed
-
Os yw plant yn perfformio, bydd angen y drwydded briodol arnoch (Cymeradwyaeth Corff o Bersonau)
-
Rhaid i unrhyw offer fod wedi cael prawf PAT
Caiff pob perfformiwr berfformio am 15-45 munud Dylech fod ar gael ar 23ain neu 24ain Gorffennaf 2022.
I wneud cais, anfonwch amlinelliad byr o'ch perfformiad arfaethedig at Danielle.rowlands@newportlive.co.uk erbyn Dydd Llun 11 Gorffennaf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad e-bost a nodwyd uchod.