Chwilio am rywbeth i’w wneud dros y Pasg? Ewch draw i'r The Talking Shop©
Mae’r The Talking Shop© bellach ar agor, yng nghanol dinasoedd Casnewydd a Chaerdydd. Mae The Talking Shop©, yn ganolfan wybodaeth ddiwylliannol a democrataidd, a grëwyd gan Omidaze Productions ac a gyflwynir mewn partneriaeth â Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Youth Cymru, Sophie Howe Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a'r Comisiwn Etholiadol ac mewn cydweithrediad â nifer o sefydliadau eraill gan gynnwys Cynghorau Dinas Caerdydd a Chasnewydd a National Theatre Wales.
Mae The Talking Shop© yng Nghasnewydd ar agor drwy gydol mis Ebrill ac mae yn Uned 9 Friars Walk, sy'n cael ei redeg gan Tin Shed Theatre fel gofod celfyddydol a chymunedol amlswyddogaethol. Agorodd The Talking Shop© Caerdydd ar 8 Ebrill 2022 a bydd yno tan o leiaf fis Gorffennaf a gellir ei gweld yn 18 Arcêd y Castell gyferbyn â'r fynedfa i Gastell Caerdydd. Mae’r ddwy siop siarad ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9am a 5pm (ac eithrio Dydd Llun y Pasg) a gwahoddir pawb.
Mae The Talking Shop© yn fan cyhoeddus am ddim i bawb, sy'n annog ac yn hyrwyddo cyfranogiad diwylliannol a democrataidd. Mae'n lle i'r cyhoedd, artistiaid a phobl greadigol ddod at ei gilydd, cyd-daro, sgwrsio, cysylltu, cydweithio a chreu. Galwch heibio ac eistedd ar y soffa, cael paned o de, rhannu syniadau, cael eich ysbrydoli a'ch hysbysu.
Mae The Talking Shop yn Ofod Diwylliannol Beth sydd Ymlaen lle gallwch chi ddod i wybod am bethau. Darganfyddwch pa theatr, cerddoriaeth, arddangosfeydd celf neu ddigwyddiadau byw sy'n digwydd yn eich cymuned leol ac yn ninasoedd Caerdydd a Chasnewydd. Dyma le i alw heibio a darganfod pethau. I ychwanegu at. I fod yn rhan ohono! Mae'n ofod "Beth sydd Ymlaen" corfforol y mae pawb yn helpu i'w guradu.
Mae The Talking Shop yn Ganolfan Wybodaeth Ddemocrataidd lle byddwch yn dod o hyd i The Deomcracy Box© www.thedemocracybox.co.uk. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol, mae'n ymwneud â sut rydym yn sicrhau bod PAWB yn deall hanfodion ein democratiaeth yn y DU.
Mae'n ymwneud â sut y gallwn lywio a cynnwys POB cenhedlaeth yn ein democratiaeth yn y DU. Mae mynediad, ymgysylltu a chyfiawnder cymdeithasol yn allweddol. Mae'n lle i drafod, dadlau a sgwrsio. Cwestiynau mawr y tu mewn i un siop fach.
Mae Omidaze yn gweithio gyda phobl ifanc 16-26 oed, wedi’u geni neu’n byw yng Nghymru, fel cyd-grewyr cyflogedig. Mae The Talking Shop© yn fan cyhoeddus lle mae pobl o bob oed yng Nghasnewydd a Chaerdydd yn cael eu hannog i alw heibio i ddysgu mwy am ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol diddorol, gofyn cwestiynau, cofrestru i bleidleisio a chael trafodaethau agored am ddim am ddemocratiaeth a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt, cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022. Bwrwch olwg ar y ffilm fer hon gan Gyngor Ieuenctid Casnewydd i gael gwybod mwy am yr hyn i'w ddisgwyl pan fyddwch yn mynd i The Talking Shop yng Nghasnewydd; https://youtu.be/Q49xcJmxg-M
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
"Mae wedi bod yn agoriad llygad gweithio gydag Omidaze Productions a The Democracy Box i ddarganfod mwy am sut mae rhai o'n pobl ifanc dalentog eisiau gweld Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei defnyddio i greu Cymru sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn cael cyfle i lunio eu dyfodol a bod gwleidyddion yn gwrando arnyn nhw, ac mae The Talking Shop yn fenter wych a fydd, gobeithio, yn annog hyd yn oed mwy o bobl ifanc i deimlo'n gyfforddus yn defnyddio eu hawl ddemocrataidd i fynnu mwy gan y rhai sy'n rhedeg y wlad - ar gyfer Cymru wyrddach a mwy cyfartal, nawr ac yn y dyfodol."
Dywedodd Emily Mae Jones (18), cyd-grëwr ifanc The Democracy Box©:
"Ro’n i eisiau dysgu mwy am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth ond allwn i ddim dod o hyd i esboniad clir mewn ffordd ro’n i’n gallu ei deall nes i fi ymuno â'r prosiect hwn. Yn ogystal â datblygu fy ngwybodaeth fy hun, dwi’n cael y pleser pur o addysgu pobl eraill am Ddemocratiaeth y DU a thynnu sylw at y ffaith nad oes unrhyw gywilydd mewn peidio â gwybod - oherwydd do’n i ddim chwaith.
Mae fy agwedd wedi newid yn llwyr ar Ddemocratiaeth y DU. Dwi o’r diwedd yn teimlo'n hyderus yn dechrau sgyrsiau am ddemocratiaeth a hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau.
Gwahoddir holl artistiaid, pobl greadigol a chyhoedd Casnewydd a Chaerdydd a'r cyffiniau i ddefnyddio'r lle i weithio, i feddwl, i siarad, i ddarganfod pethau, i rannu ac i fod gyda'i gilydd. Gyda'n gilydd rydym yn trawsnewid un sgwrs ddiwylliannol a democrataidd ar y tro.
"Mae’r Talking Shop yn fodel gwych ar gyfer ymgysylltu'n uniongyrchol â'r posibiliadau y mae meddwl a gweithredu ar y cyd yn eu creu. Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar ein gilydd, mae'r Talking Shop yn ffordd wych o wneud i hyn ddigwydd." Lorne Campbell Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wale
Mae'r treial mis o hyd yng Nghasnewydd ac un mis o Talking Shop Caerdydd wedi bod yn bosibl drwy gymorth gan Wasanaeth Etholiadau Adran Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru ac mae dau fis ychwanegol yng Nghaerdydd wedi bod yn bosibl drwy fuddsoddiadau gan Cares Family, UnLtd a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Mae Omidaze bellach yn gweithio mewn partneriaeth â Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ac yn creu fideos cerddoriaeth Democracy Box newydd a phenodau podlediadau sy'n esbonio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r cynnwys newydd hwn yn cael ei sgrinio yn Talking Shop yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Dyma enghraifft https://www.youtube.com/watch?v=9sTv1h8eWow