Mae Ystafell Bŵts Casnewydd yn brosiect a sefydlwyd gan dîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw i roi cyfle i aelodau o'r gymuned leol brynu bŵts a threinyrs ail-law am ddim ond £5.00.

Mae'r bŵts/treinyrs yn cael eu rhoi mewn cyflwr ‘da i ardderchog’, eu glanhau, eu ffotograffio a'u rhoi ar werth ar dudalen Facebook Datblygu Chwaraeon Casnewydd Fyw. Bydd yr holl elw’n cael ei ddefnyddio i gefnogi plant a theuluoedd ledled Casnewydd i gael mynediad i gyfleoedd gweithgarwch corfforol a chwaraeon.  

Gellir prynu nwyddau o Stadiwm Casnewydd ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd a'u talu mewn arian parod neu gyda cherdyn.

Oes gennych chi hen fŵts pêl-droed neu rygbi neu dreinyrs yn creu annibendod yn eich cartref?

Os felly, rydym yn eich annog i'w rhoi i brosiect Ystafell Bŵts Casnewydd. Mae biniau rhoi ar gyfer Ystafell Bŵts Casnewydd wedi'u lleoli'n gyfleus mewn nifer o leoliadau Casnewydd Fyw, gan gynnwys:

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio NewportBootRoom@newportlive.co.uk neu ein dilyn ar Facebook yn @nlsportsdevelopment.