Gwyliau a Digwyddiadau
Mae Glan yr Afon yn cynnal nifer o wyliau a digwyddiadau yn yr adeilad ac ar draws dinas Casnewydd drwy gydol y flwyddyn. Ymhlith y digwyddiadau blynyddol pwysig mae dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth, y Sblash Mawr ym mis Gorffennaf a Chelf ar y Bryn ym mis Tachwedd.
Mae Glan yr Afon hefyd wedi cynnal digwyddiadau i Ŵyl Ffilmiau WOW, Mis Hanes Pobl Dduon a Chasnewydd yn Codi.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nglan yr Afon
Bob mis Mawrth rydyn ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nglan yr Afon gyda pherfformiadau campus a sesiynau blasu am ddim.
Bydd gwybodaeth am IWD 2021 ar gael yn fuan!
Sblash Fawr
Y Sblash Mawr yw hoff ŵyl theatr stryd a chelfyddydau Casnewydd a gynhelir bob blwyddyn ym mis Gorffennaf, ychydig cyn gwyliau’r haf. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yng Nglan yr Afon, sy’n cael ei droi yn hyb teuluol, ac mae hefyd yn gweddnewid strydoedd y ddinas yn llwyfan awyr agored enfawr.
Mae’r digwyddiadau a’r perfformiadau am ddim i deuluoedd a phlant mawr yn cynnwys perfformiadau cyffrous, profiadau ymdrochol a digon o chwerthin, y cyfan yn digwydd yn y llefydd mwyaf annisgwyl!

Celf ar y Bryn
Bob blwyddyn ym mis Tachwedd mae Celf ar y Bryn, gŵyl benwythnos, yn dathlu cymuned greadigol Casnewydd a’i gwaith. Dros y penwythnos, caiff Glan yr Afon ei thrawsnewid yn ganolfan gymdeithasol sy'n llawn gweithgareddau crefftau am ddim a stondinau cyffrous i bob oedran.
Mae Celf ar y Bryn 2020 yn digwydd o Dydd Gwener 27 i Dydd Sul 29 Tachwedd.
Cymryd rhan
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o'n gwyliau neu ddigwyddiadau fel gwirfoddolwr neu berfformiwr, mynnwch gip ar ein hadran Celfyddydau Cymunedol.
Mwy o wybodaeth