Newport Centre Leisure Consultation Sketch

 

Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno y dylid creu canolfan hamdden a lles newydd yng nghanol y ddinas.

Byddai’r ganolfan bwrpasol newydd, gyda chyfleusterau modern, wedi'i lleoli ar safle allweddol ar lan yr afon a byddai'n disodli Canolfan Casnewydd, sy'n dechrau heneiddio.

Cymeradwyodd y Cabinet hefyd gynnig i drosglwyddo safle Canolfan Casnewydd i Goleg Gwent er mwyn iddo allu bwrw ‘mlaen â’i uchelgais i gael campws yng nghanol y ddinas mewn adeiladau newydd sy'n cynnig amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf.

Cafwyd mwy na 1,000 o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion gyda'r mwyafrif llethol yn cefnogi'r datblygiadau newydd arfaethedig.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rwyf wrth fy modd bod cynifer o bobl nid yn unig wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ond yn rhannu ein barn bod y rhain yn gynigion cyffrous y mae croeso mawr iddynt.

"Gyda'i gilydd, bydd ganddynt fanteision pellgyrhaeddol i drigolion, addysg bellach a'r economi leol, yn enwedig canol y ddinas. Bydd cwsmeriaid presennol a newydd yn cael eu denu i'r cyfleusterau hamdden newydd o'r radd flaenaf tra bydd cannoedd o fyfyrwyr a staff yn dod â'r campws yn fyw.

"Bydd y datblygiadau yn fuddsoddiad mewn cyrff iach a meddyliau iach. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y ganolfan newydd yn cyrraedd safonau amgylcheddol a chynaliadwy uchel ac rwy'n siŵr y bydd Coleg Gwent yn gwneud yr un peth ar gyfer y campws.    

"Wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen, bydd cyfleoedd pellach ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd, yn enwedig yn ystod y cam ceisiadau cynllunio. Byddwn yn parhau i weithio'n agos, gyda Casnewydd Fyw, Coleg Gwent a Llywodraeth Cymru ar y weledigaeth drawsnewidiol hon."

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw:  "Mae gweledigaeth ac ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i greu canolfan hamdden a lles newydd o'r radd flaenaf a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau cannoedd ar filoedd o bobl yn y dyfodol yn rhagorol ac yn cael ei chroesawu gan Casnewydd Fyw. 

"Bydd y cyfleuster newydd yn gadarnhaol iawn yn y blynyddoedd i ddod fel rhan o'r gwaith ailddatblygu, adfer yr economi a'r cynnig addysgol a ddarperir yng nghanol y ddinas.

"Rydym yn falch o fod yn bartner chwaraeon, hamdden a diwylliannol y cyngor a byddwn yn gweithio law yn llaw i adeiladu ar yr ymgynghoriad cymunedol i greu cyfleuster newydd anhygoel a rhaglenni cyffrous a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar les trigolion lleol.

"Ni fu erioed amser pwysicach i fuddsoddi mewn iechyd a lles ac mae'r cyngor yn hwyluso'r cyfle i fyw bywydau hapusach ac iachach. Rydym yn croesawu'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud gan bob parti ac rydyn ni’n methu aros i ddechrau ar y prosiect cyffrous a'r atyniad newydd i'r ddinas."

Ychwanegodd Guy Lacey, Pennaeth/Prif Weithredwr Coleg Gwent: "Mae'n wych bod y cyhoedd wedi dangos cymaint o gefnogaeth i'r cynigion hyn. Mae hyn yn dod â ni gam mawr yn nes at gyflawni cynllun pwysig ar gyfer twf a datblygiad canol y ddinas yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan i greu adnodd dysgu newydd anhygoel er budd pobl a busnesau Casnewydd." 

Mae'r cytundeb i fwrw ‘mlaen â'r ganolfan hamdden a lles newydd yn amodol ar gael yr holl ganiatâd angenrheidiol.

Bydd y gost o £19.7 miliwn yn cael ei thalu drwy gyfuniad o gyllid y cyngor, arbediad yn y cymhorthdal sy’n cael ei dalu i Casnewydd Fyw a grant gan Lywodraeth Cymru (yn amodol ar gymeradwyaeth).

Bydd safle presennol Canolfan Casnewydd yn cael ei waredu drwy brydles ddatblygu 250 mlynedd, ar werth y farchnad, yn amodol ar gytuno ar delerau ac amodau.

Mae’r Cabinet wedi awdurdodi swyddogion i gymryd y camau nesaf mewn perthynas â'r brydles.