Artist Cysylltiol Glan yr Afon

Y gwanwyn hwn mae'n bleser gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gael lansio perthynas Artist Cysylltiol newydd ag actor a llenor o Gasnewydd, Connor Allen, y mae'r ganolfan wedi bod yn gweithio gydag ef ers 2018. 

Fel Artist Cysylltiol bydd y ganolfan yn gweithio'n agos gyda Connor, a fydd yn elwa o becyn o gefnogaeth bwrpasol gan y ganolfan flaenllaw hon yng Nghymru.  Bydd cymorth yn cynnwys bod yn fentor creadigol parhaus, yn ogystal â chymorth mwy ymarferol fel help gyda cheisiadau am gyllid, lle ymarfer, cynhyrchu, cymorth technegol a marchnata. Mae'r ganolfan hefyd yn gobeithio dysgu gan arbenigedd y gronfa gynyddol o bartneriaethau cysylltiol. Bwriedir i'r perthnasoedd hyn arwain at gynhyrchiad neu raglen arall o waith ymgysylltu â'r gynulleidfa er budd cynulleidfaoedd y ganolfan.

Mae Glan yr Afon yn ymrwymo i gefnogi artistiaid, yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn ne Cymru ac y mae’n credu bod eu gwaith yn bwysig i'w chynulleidfaoedd, ei rhaglenni artistig a'i blaenoriaethau.  Y berthynas Artist Cysylltiol newydd rhwng Glan yr Afon a Connor Allen yw'r gyntaf o lawer ar gyfer y ganolfan gelfyddydau sy'n ymrwymo i amrywiaeth o wahanol bartneriaethau bob tymor er mwyn helpu i gefnogi a meithrin artistiaid newydd yn y diwydiant celfyddydau. 

Mae'r ganolfan hefyd yn cefnogi drama gyntaf Connor, Working not Begging, a fydd yn un o uchafbwyntiau tymor y gwanwyn, a drama gyntaf Connor gyda'r ganolfan fel Artist Cyswllt. 

Wrth sôn am ei berthynas Artist Cysylltiol, dywed Connor: 'Dim ond bachgen o stad cyngor yng Nghasnewydd ydw i, felly dw i wedi cyffroi’n lân am y cyfle yma. Mae teulu Glan yr Afon yn griw mor groesawgar a chefnogol sydd, yn ogystal â’m helpu i wneud fy ngwaith creadigol gorau, wedi fy nghefnogi a'm meithrin ers amser maith erbyn hyn. Rwyf wrth fy modd yn cydweithio a rhannu fy mrwdfrydedd ac ymwneud â chynhesrwydd a dwyster y teulu celfyddydol yng Nglan yr Afon. Mae’r posibiliadau y bydd y swydd hon yn eu cynnig a'r cyfleoedd a ddaw nid yn unig i fi, ond i'r tîm cyfan yng Nglan yr Afon a chymuned Casnewydd, yn hynod gyffrous. Dwi’n gwybod beth mae'n ei olygu i blant ac artistiaid eraill yng Nghasnewydd i weld rhywun fel fi yn y rôl hon, a gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ac yn meithrin ton newydd o dalent i ymgysylltu â'r adeilad a'i dîm i ddod â lleisiau eang ac amrywiol Casnewydd i’r amlwg.’

Meddai Cynorthwy-ydd Rhaglen Glan yr Afon, Leah Robert: 'Rydym yn falch iawn o groesawu Connor fel ein Artist Cysylltiol newydd cyntaf, ac o’i wneud yn rhan o'r teulu yma yn Glan yr Afon.'

Mae perfformiad Working Not Begging yn mynd i'r afael mewn modd deimladwy â themâu digartrefedd, galar a gobaith a chafodd ei ysbrydoli gan fenyw ddigartref y cyfarfu Connor â hi ar y stryd yng nghanol Dinas Casnewydd. Roedd hi’n eistedd yn gwehyddu breichledi plastig gydag arwydd oedd yn dweud ‘Gweithio rydw i, NID cardota’. Gwraig yn ceisio dal dau ben llinyn ynghyd roedd hi.

Wedi ei hysbrydoli gan hyn, mae’r ddrama yn dilyn Joanne, menyw ddigartref y trodd ei bywyd a’i ben i lawr wrth iddi ystyried gwneud penderfyniad fydd yn newid ei bywyd, a phwyso a mesur gadael yr hyn sy’n gartref iddi wrth ymdopi â galar colli ei mam-gu. 
 
Dywed Leah Roberts am y sioe: "Ers i Connor ddod yma yn gyntaf yn 2018 gyda cham cyntaf datblygiad Working not Begging, rydym wedi ei weld yn tyfu gymaint fel artist.  Mae ganddo lais unigryw, ac edrychwn ymlaen at ei gefnogi ymhellach a gweld y cynhyrchiad yn dod yn fyw y gwanwyn hwn."

Bydd Working not Begging ar y llwyfan nos Fawrth 5 Mai a nos Fercher 6 Mai ac mae tocynnau ar gael nawr o newportlive.co.uk/riverfront, neu drwy ffonio 01633 656757. 

Cafodd Working not Begging ei chefnogi gan Shelter Cymru, Pobl, y Wallich, Crisis (Abertawe) ac
Edengate Casnewydd, gyda chyllid trwy garedigrwydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Carne, Dearborn Consulting Ltd a Transporter Productions.

Rhagor o wybodaeth am y rhaglen Artist Cysylltiol