Reality Theatre.jpeg

Clwb Drama gyda Reality Theatre

Clwb cymdeithasol a drama i bobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Drama ar gyfer theatr neu ffilm, cerddoriaeth, canu, dawnsio, monologau/barddoniaeth. Croeso i rieni, gofalwyr a theuluoedd!

Lleoliad: Stiwdio Ddawns

Diwrnod: Dydd Llun 

Oedran & Amser:

16 – 24, 5pm-6.30pm

25 years +,  6.30pm-8pm

Pris:  Am ddim

Sut i gadw lle: therealitytheatrecompany@gmail.com 

Crafty Saturday Sponsors (3).png

Cymryd Saib: Sesiwn 1 Côr Cymunedol

Yn ystod y sesiwn hon, ein nod yw cael hwyl wrth ganu mewn lleoliad grŵp croesawgar nad yw’n barnu, a herio'n hunain ychydig gyda chaneuon newydd a harmonïau.

Byddwch yn synnu cystal y gall hyn ddigwydd hyd yn oed i'r rhai heb fawr o brofiad canu neu a allai fod ag ofn canu oherwydd bod rhywun neu rywrai wedi dweud wrthynt yn y gorffennol, athro neu ffrind, neu aelod o’r teulu - yn anghywir ac yn niweidiol - nad ydynt yn ‘Gallu canu’. 

Os oes gennym lais - yna gallwn ganu. Mae pawb yn haeddu'r hawl i’m fynegi eu hunain drwy ddefnyddio ein lleisiau a pheidio â theimlo bod rhaid i ni guddio ein llais.

Mae canu rheolaidd mewn ffordd hamddenol yn ffordd wych o ddatgloi ein lleisiau a byddwn i gyd yn datblygu gyda'n gilydd fel grŵp gyda ffocws ac anogaeth ar y cyd.

Byddwn ni'n cynhesu ein lleisiau, yn agor ein hysgyfaint ac yn ymlacio ein cyrff gydag ymarferion ysgafn ar ddechrau'r sesiynau.

Lleoliad: Stiwdio Ddawns

Diwrnod: Dydd Mercher

Amser: 1pm - 1.50pm

Oedran: 18+

Pris:  Am ddim

Sut i gadw lle: Dewch draw ar y diwrnod

Grey haired lady in apron working at a potters wheel

Clwb Crochenwaith Cerameg i Oedolion

Clwb crochenwaith "Chwarae â Chlai" .... noson hwyliog a hamddenol! Dewch draw i weld sut i greu rhywbeth ar gyfer y cartref neu’r ardd gan ddefnyddio technegau syml.

Does dim dysgu strwythuredig ond mae ein tiwtor a'n cyfranogwyr yn rhannu syniadau ac yn rhoi awgrymiadau ac arweiniad ar wneud, sychu, tanio odyn a gwydro.

Bydd yr holl ddeunyddiau yma i chi.

Lleoliad: Gweithdy 1 a 2

Diwrnod: Dydd Llun & Dydd Mercher

Amser: 5:30pm – 7:30pm

Oedran: 14+

Archebwch Nawr
mice ladies crafts

Mice Ladies

Bob dydd Iau mae grŵp o wragedd gwych yn dod i Glan yr Afon i eistedd gyda'i gilydd, cael sgwrs a photshan gyda chelf a chrefft. Dros y blynyddoedd mae'r grŵp yma wedi bod yn gefn enfawr i dîm Glan yr Afon, yn creu propiau ar gyfer sioeau, addurniadau ar gyfer yr adeilad a mwy.

Nid yw'r sesiynau'n cael eu harwain gan diwtoriaid, maent yn gyfle i bobl fwynhau cwmni ei gilydd a rhannu eu syniadau crefft.

Mae croeso i chi ddod ag unrhyw ddeunyddiau a llyfrau crefft.

Lleoliad: Gweithdy 2

Diwrnod: Dydd Iau

Amser: 10am-12pm

Oedran: 21+

Pris:  Am ddim

Sut i gadw lle: Dewch draw ar y diwrnod

1004004.png

Dawns i bobl dros 60 oed

Mae hon yn sesiwn gyfeillgar, lawn hwyl, lle byddwch yn dysgu coreograffi i gerddoriaeth. Rydym yn canolbwyntio ar wella cydlyniad, ymwybyddiaeth o'r corff, symudedd a stamina mewn amgylchedd cefnogol. Dewiswch y gerddoriaeth, dewiswch yr arddull, mae croeso i bawb ymuno a dawnsio!

Lleoliad: Stiwdio Ddawns

Diwrnod: Dydd Iau

Amser: 1pm – 2.30pm

Oedran: 60+

Pris:  £5

Archebwch Nawr
Two people doing martial arts

Capoeira

Capoeira

Mae Capoeira yn grefft ymladd Affro-Brasilaidd sy'n cyfuno cerddoriaeth, symudiad ac acrobateg. Mae’n tarddu o ddawnsfeydd rhyfeloedd a ddygwyd i Frasil gan gaethweision Affricanaidd ac mae wedi'i lunio i'r ffurf sy’n gyfarwydd i ni heddiw gan boblogaeth ethnig gymysg Brasil.

Ei nod yw gwella hyblygrwydd, rheoli'r corff mewn gofod, datblygu cydsymudiad, ymwybyddiaeth o'r amgylchoedd, cryfder y corff a gwella'r hunanhyder.

Lleoliad: Stiwdio Ddawns

Diwrnod: Dydd Gwener

Pris:  £5

Archebwch Nawr: 6 -10 oed, 4.30pm – 5.30pm

Archebwch Nawr: 11+ oed, 6.15pm – 7.15pm

inside out cymru - crafts.jpg

Tu Fewn Tu Fas Cymru: Crefft gyda Lisa

Ymunwch â'r gwneuthurydd propiau Lisa Floyd am fore o hwyl gyda chrefft, a sgwrs! 

Bob dydd Iau rhwng 10am a 12pm, mae Lisa a'r grŵp yn cymryd rhan mewn celf a chrefft.  Mae Lisa'n dangos sgiliau fel decoupage, gwneud masgiau neu gerflunio gyda gwifrau.  Gallwch chi a'r grŵp hefyd ddal pen rheswm a sgwrsio am fywyd bob dydd a rhannu prosiectau a syniadau celf.

Ar ben hyn, mae Lisa a rhai o’r cyfranogwyr yn cwrdd ar-lein am 6.30-7.30pm drwy Zoom i rannu prosiectau, syniadau a diweddariadau dros baned o de.

  • Ymunwch i gwrdd ag eneidiau hoff gytûn.
  • Bydd Lisa yn darparu’r deunyddiau cyffredinol.
  • Dewch ag unrhyw syniadau neu ddeunyddiau penodol y mae gennych ddiddordeb ynddynt!

Lleoliad: Gweithdy 1

Diwrnod: Dydd Iau

Amser: 10am-12pm

Oedran: 18+

Pris:  Am ddim

Sut i gadw lle: E-bostiwch engage@inside-out-cymru.org i gael gwybod mwy a chadw lle.