Cost y Rhaglen: £20.00

Rhaglen 6 wythnos sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu i fagu hyder, ffitrwydd a dygnwch cerdded yn raddol, gan weithio tuag at allu cwblhau 5km yn gyfforddus. P'un a ydych chi'n newydd i gerdded yn rheolaidd neu'n dychwelyd i ymarfer corff ar ôl seibiant, mae'r rhaglen yn eich cefnogi i symud ymlaen ar eich cyflymder eich hun.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 2 sesiwn yr wythnos dan arweiniad dros gyfnod o 6 wythnos, gyda'r wythnos olaf, yn cynnwys taith gerdded ychwanegol ar hyd Park Run Glan yr Afon.  Mae'r rhaglenni sydd ar ddod yn dechrau ar y dyddiadau canlynol:

 

 

 901 Walk you way to 5k TAble Welsh (1).png

 

Ni fydd Cerdded i 5k yn digwydd ar Ŵyl y Banc, bydd eich arweinydd cerdded yn cyfathrebu unrhyw newidiadau os bydd gwyliau banc yn digwydd yn eich rhaglen.

Cadwch eich lle ar-lein, drwy ap Casnewydd Fyw, neu ffonio 01633 656757.

Mae’r gallu i gadw lle yn agor 3 wythnos cyn dyddiad dechrau pob rhaglen. Os hoffech ymuno â rhaglen ddiweddarach, anfonwch e-bost i Momentwm@casnewyddfyw.co.uk i gael eich ychwanegu at restr aros a bydd rhywun yn cysylltu â chi pan fydd lle ar gael.

Join Our Newsletter

Stay informed with the most recent news and updates regarding Momentwm, including sessions, events, and help for businesses wanting to be a cycling friendly employer.

Sign Up Now