Mae dosbarthiadau awyr agored wedi cyrraedd!

Bydd dosbarthiadau awyr agored yn cael eu cynnal ym Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd!

Maer'r sesiynau cynnwys Gwersyll Boot Pwysau'r Corff, Zumba a Pilates. Rhaid cadw lle ar gyfer dosbarthiadau ymlaen llaw a bydd cyfyngiad ar y niferoedd.

Gallwch chi weld ein hamserlen a chadw lle trwy ein app neu ar ein gwefan.

Mae dosbarthiadau ar agor i bawb am £4.50 y sesiwn.

DOSBARTHIADAU

Cynhelir dosbarthiadau awyr agored ar yr ardaloedd awyr agored ym Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd gan gynnwys Stadiwm Casnewydd a'r Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA).

Mae cyfarwyddiadau ar gael yma

Ni fydd y sesiynau hyn dan orchudd a byddant yn mynd rhagddynt ym mhob tywydd cyn belled â'i bod yn ddiogel gwneud hynny. Dewch yn barod am hyn.
Cofrestrwch gyda’ch hyfforddwr dosbarth wrth gyrraedd.

Os ydych yn mynychu dosbarth lle mae angen mat, dewch â’ch mat eich hun os bydd modd (bydd rhai ar gael).

Peidiwch â chyrraedd yn rhy gynnar ar gyfer eich sesiwn. Rydym yn gofyn i chi gyrraedd tua 5 munud cyn dechrau eich dosbarth.

 

CADW LLE

Os oes gennych gyfrif ar-lein neu os ydych wedi derbyn cerdyn Casnewydd Fyw o'r blaen, gallwch archebu eich dosbarth ar-lein neu drwy ein ap Casnewydd Fyw. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein gyda ni, gallwch gofrestru.

archebwch neu cofrestru yma

lawrlwythwch app casnewydd fyw

Cliciwch yma i weld ein fideos gyda mwy o fanylion am sut i sefydlu eich ap Casnewydd Fyw.

Gwnewch yn siŵr pan fyddwch yn cadw lle fod eich manylion cyswllt yn gyfredol. Mae'r rhain yn ofynnol rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi ynglŷn â'ch sesiwn neu os bydd angen i ni gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Os oes angen help arnoch gyda’r dosbarth rydych wedi cadw lle ynddo, cysylltwch ag enquiries@newportlive.co.uk.

 

CANLLAWIAU COVID-19

Rydym wedi cyflwyno rheolau a chanllawiau newydd i sicrhau bod ein cyfleusterau’n ddiogel i chi a’n staff pan fyddwch yn dychwelyd. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r rhain cyn i chi gyrraedd ar gyfer eich sesiwn.

ein canllawiau COVID-19 


Telerau ac Amodau Cadw a Chanslo Lleoedd Ychwanegol

  • I sicrhau ein bod yn cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol, rhaid cadw lle ym mhob sesiwn ymlaen llaw ar-lein/ar ein app.

  • Gall cwsmeriaid cadw lle yn un dosbarth y dydd yn unig.

  • Ni ellir ad-dalu costau lleoedd wedi’u cadw os byddwch yn eu canslo gyda llai na 24 awr o rybudd neu os nad ydych yn dod i’ch dosbarth. Os bydd angen i chi ganslo, e-bostiwch enquiries@newportlive.co.uk

  • Rhaid cadw at y canllawiau COVID-19 sydd wedi’u cyflwyno.

  • Os na fydd modd cynnal y sesiwn, byddwn yn ei symud i amser mwy addas neu’n rhoi ad-daliad.  

Gweld Dosbarthiadau

Llwytho…

Sgroliwch i lawr am fwy o sesiynau