Mae amrywiaeth eang o feiciau ar gael i'w defnyddio yn ystod y sesiynau gan gynnwys cludwr cadair olwyn, beiciau llaw sengl a dwbl, beiciau gorwedd tair olwyn, tandem Roam, beiciau tair olwyn i oedolion a phlant, beiciau tandem â gyriant cefn a beiciau hybrid.

wheelsforall2021kirstenmcternan167-min.jpg

Beic Tandem Roam

Beic â dwy sedd, gall y ddau feiciwr bedlo ond y beiciwr ar y dde sy’n rheoli’r llywio a’r brecio felly gall y beiciwr ar y chwith feicio mewn gêr sefydlog, olwyn rydd neu niwtral.

Addas ar gyfer:

  • Beicwyr sy’n dysgu pedlo.
  • Beicwyr nad ydynt yn hyderus yn llywio neu’n brecio.
  • Beicwyr nad ydynt yn gallu beicio'n annibynnol.

 

 

wheelsforall2021kirstenmcternan175-min.jpg

Tandem Cyfochrog

Beic tandem cyfochrog â dwy sedd; mae gan y ddau feiciwr yr opsiwn i bedlo ond mae llywio a brecio’n cael eu rheoli gan un o’r beicwyr yn unig.

Addas ar gyfer:

  • Beicwyr sy’n dysgu pedlo.
  • Beicwyr nad ydynt yn hyderus yn llywio neu’n brecio.
  • Beicwyr nad ydynt yn gallu beicio'n annibynnol.
wheelsforall2021kirstenmcternan159-min.jpg

Cludwr Cadair Olwyn

Beic cludo ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn sy'n caniatáu iddo reidio'r beic heb adael ei gadair olwyn.

Addas ar gyfer:

  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn nad ydynt yn dymuno gadael eu cadeiriau olwyn.

Sylwch fod terfyn pwysau ar y beic hwn.

wheelsforall2021kirstenmcternan145-min.jpg

Beic Gorwedd Tair Olwyn

Beic tair olwyn sy'n rhoi'r beiciwr mewn siâp lle mae’n gorwedd yn ôl ychydig, sy’n rhoi’r gallu iddo ddosbarthu ei bwysau’n gyfforddus ar draws ardal ehangach.

Hwn yw’r dewis gorau ar gyfer:

• Y rhai sydd angen rhagor o gynhaliaeth i’w cefnau neu sedd fwy.

• Y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cydbwyso ar feic tair olwyn.

 

wheelsforall2021kirstenmcternan078-min.jpg

Beic Tair Olwyn i Oedolion

Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch ei gydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.

Hwn yw’r dewis gorau ar gyfer:

  • Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
  • Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.

 

wheelsforall2021kirstenmcternan169-min.jpg

Beic Tair Olwyn i Blant/Bobl Ifanc

Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.

Hwn yw’r dewis gorau ar gyfer:

  • Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
  • Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.
wheelsforall2021kirstenmcternan173-min.jpg

Beic Tair Olwyn i Blant

Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.

Hwn yw’r dewis gorau ar gyfer:

  • Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
  • Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.
wheelsforall2021kirstenmcternan171-min.jpg

Beic Llaw Dwbl

Beic â dwy sedd sy'n cael ei yrru gan y breichiau.

Addas ar gyfer:

  • Y rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i yrru'r beic.
  • Beic cymdeithasol.
  • Y rhai sy'n ei chael hi’n rhy anodd defnyddio pedalau â'u traed.
  • Y rhai sydd am ddatblygu cryfder rhan uchaf y corff.
  • Beicwyr nad ydynt yn gallu beicio'n annibynnol.
wheelsforall2021kirstenmcternan163-min.jpg

Beic Llaw Unigol

Beic tair olwyn sy'n cael ei yrru gan y breichiau.

Addas ar gyfer:

  • Y rhai sy'n ei chael hi’n rhy anodd defnyddio pedalau â'u traed.
  • Y rhai sydd am ddatblygu cryfder rhan uchaf y corff.
Tots Trike

Treics Twdlod

Beic bach â thair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.

Gorau ar gyfer:

  • Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
  • Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.
  • Y rhai sydd angen cefnogaeth gyda llywio/brecio.
Child Trike-min.jpg

Treics Plant

Beic bach tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.

Gorau ar gyfer:

  • Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
  • Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.
  • Y rhai sydd angen cefnogaeth gyda llywio/brecio
Junior Trike 2-min.jpg

Treics Plant Iau

Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.

Gorau ar gyfer:

  • Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.
  • Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.
  • Y rhai sy'n cael trafferth pedlo.

CP_logo_MONO.jpgNewport Live logo Newport City Council.jpg