Wheets for all Orange Background.png                 Olwynion i Bawb Orange Background.png

Mae Olwynion i Bawb yn fenter a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n annog pob plentyn ac oedolyn ag anableddau ac anghenion amrywiol i gymryd rhan yn y byd beicio. Gan ddefnyddio beiciau wedi'u haddasu'n arbennig, mae'r gweithgareddau'n hwyl i bawb sy’n cymryd rhan.

Caiff y sesiynau eu cyflwyno gan ein harweinwyr hyfforddedig Olwynion i Bawb, sydd â'r wybodaeth a'r profiad i chi, eich ffrindiau, a'ch teulu fwynhau buddion y beiciau wedi'u haddasu.

Bydd cymorth Olwynion i Bawb yn cael ei roi ond anogir rhieni, staff a gofalwyr i gymryd rhan yn y sesiynau achos na allwn gynnig cymorth 1 i 1.

Bydd sesiynau'n cael eu cynnal ar Ddydd Mercher a Dydd Sadwrn ym Mharc Tredegar, rhwng 10am a 3pm.*

Archebwch Nawr

wheelsforall2021kirstenmcternan072-min.jpg   wheelsforall2021kirstenmcternan159-min.jpg   wheelsforall2021kirstenmcternan173-min.jpg   

 

Beiciau

Mae amrywiaeth eang o feiciau ar gael i'w defnyddio yn ystod y sesiynau gan gynnwys cludwr cadair olwyn, beiciau llaw sengl a dwbl, beiciau gorwedd tair olwyn, tandem Roam, beiciau tair olwyn i oedolion a phlant, beiciau tandem â gyriant cefn a beiciau hybrid.

Gweld y Beiciau

Parc Tredegar a Llwybr Olwynion i Bawb

Mae'r llwybr yn gylch o amgylch Parc Tredegar ar arwyneb tarmac gwastad. Mae’n cael ei nodi gan arwyddion llwybr clir o amgylch y parc.

 Wheels for All Map

Ceir rhagor o fanylion am Barc Tredegar a sut mae cyrraedd yno ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd yma

Mae’r maes parcio'n gweithredu system talu ac arddangos. Rhaid i bob cwsmer dalu am barcio. Mae'r prisiau fel a ganlyn:

  • Hyd at 2 awr = £1.00

  • Hyd at 5 awr = £3.00

  • Mwy na 4 awr = £5.00

Pe bai ei angen mewn argyfwng, mae diffibriliwr ar gael ym Mharc Tredegar.  Os oes angen mynediad iddo, mae angen i ddefnyddwyr ddilyn y cyfarwyddiadau sydd ar gabinet y diffibriliwr.​​​​

Llogi Beiciau

Mae sesiwn llogi beic yn para awr ac mae AM DDIM i drigolion Casnewydd. Mae'n cynnwys potel ddŵr am ddim fel rhodd yn ystod y sesiwn sefydlu gyntaf.

Y gost am logi beiciau ar gyfer y rhai nad ydynt yn byw yng Nghasnewydd yw £5.40 y person yr awr. 

Dewch â'ch helmed eich hun i'r sesiwn oni bai ei fod wedi'i eithrio rhag gwisgo helmed am resymau meddygol neu resymau eraill. Mae gennym nifer cyfyngedig o helmedau ar gael i'w benthyg, byddant yn cael eu glanhau a'u cwarantin rhwng defnyddwyr.dwyr.

Archebwch Nawr

CP_logo_MONO.jpg Newport Live logoNewport City Council Logo