Yn 2026, caiff y sesiynau eu cynnal bob dydd Mercher a dydd Sadwrn rhwng 10am a 3pm, yn ogystal â sesiwn ychwanegol bob dydd Llun (10am - 3pm) yn ystod yr haf. I gadw lle, defnyddiwch ap Casnewydd Fyw, ffoniwch ni ar 01633 656757 neu galwch heibio ar y diwrnod (yn amodol ar argaeledd).

 

Mae gennym ystod eang o feiciau ar gael - gweler isod.

wheelsforall2021kirstenmcternan167-min.jpg

1 x Beic Tandem Roam

Beic â dwy sedd, gall y ddau feiciwr bedlo ond y beiciwr ar y dde sy’n rheoli’r llywio a’r brecio felly gall y beiciwr ar y chwith feicio mewn gêr sefydlog, olwyn rydd neu niwtral.

Addas ar gyfer:

·       Beicwyr sy’n dysgu pedlo.

·       Beicwyr nad ydynt yn hyderus yn llywio neu’n brecio.

·       Beicwyr nad ydynt yn gallu beicio'n annibynnol.

 

wheelsforall2021kirstenmcternan175-min.jpg

1 x Beic Tandem Tair Olwyn Cyfochrog

Beic tandem cyfochrog â dwy sedd; mae gan y ddau feiciwr yr opsiwn i bedlo ond mae llywio a brecio’n cael eu rheoli gan un o’r beicwyr yn unig.

Addas ar gyfer:

·       Beicwyr sy’n dysgu pedlo.

·       Beicwyr nad ydynt yn hyderus yn llywio neu’n brecio.

·       Beicwyr nad ydynt yn gallu beicio'n annibynnol.

wheelsforall2021kirstenmcternan159-min.jpg

1 x Beic Cludo Cadair Olwyn

Beic cludo ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn sy'n caniatáu iddo reidio'r beic heb adael ei gadair olwyn.

Addas ar gyfer:

·       Defnyddwyr cadeiriau olwyn nad ydynt yn dymuno gadael eu cadeiriau olwyn.

Sylwch fod terfyn pwysau ar y beic hwn.

wheelsforall2021kirstenmcternan145-min.jpg

2 x Feic Tair Olwyn Tom Cat (Gorweddol)

Beic tair olwyn sy'n rhoi'r beiciwr mewn siâp lle mae’n gorwedd yn ôl ychydig, sy’n ei alluogi i ddosbarthu ei bwysau’n gyfforddus ar draws ardal ehangach.

Gorau ar gyfer:

• Y rhai sydd angen rhagor o gynhaliaeth i’w cefnau neu sedd fwy.
• Y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cydbwyso ar feic tair olwyn.

wheelsforall2021kirstenmcternan078-min.jpg

1 x Beic Tair Olwyn Jorvic (canolig)

Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.

Gorau ar gyfer:

·       Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.

·       Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.

 

wheelsforall2021kirstenmcternan169-min.jpg

2 x Feic Tair Olwyn Jorvic (bach)

Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.

Gorau ar gyfer:

·       Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.

·       Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.

·       Perffaith ar gyfer plant iau neu oedolion ifanc

wheelsforall2021kirstenmcternan173-min.jpg

1 x Beic Tair Olwyn Genie Coch Iau

Beic tair olwyn sy'n caniatáu i feiciwr fod yn hyderus ynghylch cydbwysedd a chanolbwyntio ar lywio a phedlo.

Hwn yw’r dewis gorau ar gyfer:

·       Y rhai sy'n ei chael hi’n anodd cydbwyso neu gydsymud.

·       Y rhai sydd am ganolbwyntio ar lywio a phedlo heb boeni am gydbwysedd.

·       Yn addas ar gyfer plant 

wheelsforall2021kirstenmcternan171-min.jpg

1 x Beic Llaw Dwbl

Beic â dwy sedd sy'n cael ei yrru gan y breichiau.

Addas ar gyfer:

·       Y rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i yrru'r beic.

·       Taith feicio gymdeithasol.

·       Y rhai sy'n ei chael hi’n rhy anodd defnyddio pedalau â'u traed.

·       Y rhai sydd am ddatblygu cryfder rhan uchaf y corff.

·       Beicwyr nad ydynt yn gallu beicio'n annibynnol.

wheelsforall2021kirstenmcternan163-min.jpg

1 x Beic Llaw Unigol

Beic tair olwyn sy'n cael ei yrru gan y breichiau.

Addas ar gyfer:

·       Y rhai sy'n ei chael hi’n rhy anodd defnyddio pedalau â'u traed.

·       Y rhai sydd am ddatblygu cryfder rhan uchaf y corff.

Yn ogystal â'r beiciau wedi'u haddasu uchod, mae gennym hefyd stoc o'r canlynol:

 

2 Feic Cydbwyso (meintiau plant bach)

1 Beic Broga Ieuenctid (Bach - 52cm y tu mewn i'r goes)

1 Beic Broga Ieuenctid (Canolig - 62cm y tu mewn i'r goes)

1 Beic Broga Ieuenctid (Mawr - 69cm y tu mewn i'r goes)

1 Beic Mynydd Oedolyn (Bach)

1 Beic Mynydd Oedolyn (Canolig)

1 Beic Mynydd Oedolyn (Mawr)

3 Beic Hybrid Oedolyn (Canolig)

Mae'r rhain i gyd ar gael i’w harchebu ar gyfer y Sesiynau Olwynion i Bawb (ac eithrio'r Beiciau Cydbwyso)

CP_logo_MONO.jpgNewport Live logo Newport City Council.jpg