Reidio'r Trac

Ga i fynd ar y trac os nad ydw i’n feiciwr proffesiynol?

Cewch, cyhyd ag y gallwch reidio beic, mae gennym gyfleoedd i chi fynd ar y trac yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas Cymru. Ewch i'n tudalen Beicio i Ddechreuwyr i weld pa sesiynau sydd ar gael i chi.

 

Oes rhaid i mi gael fy achredu i reidio'r trac?

Oes, oni bai eich bod yn mynychu cwrs i ddechreuwyr neu sesiwn flasu, bydd arnoch angen yr achrediad cam priodol gan Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas o Gymru er mwyn mynychu un o'n sesiynau. Os byddwch yn reidio'r trac yn rheolaidd gyda sefydliad arall neu'n mynychu felodrom arall, ffoniwch 01633 656757 i siarad â'n Tîm Datblygu’r Trac a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi.

 

A oes gofyn bod hyfforddwr yno ym mhob sesiwn?

Oes, mae gan Gasnewydd Fyw dîm gwych o hyfforddwyr, er y gallwch ddefnyddio eich hyfforddwr eich hun os yw ei holl gymwysterau yn gyfredol.

 

A ellir trosglwyddo fy achrediad yn y felodrom er mwyn i mi allu reidio mewn felodromau eraill yn y DU?

Os oes gennych achrediad gyda ni ac yr hoffech i hwn gael ei gynnwys ar gofrestr y DU gyfan, rhowch eich cyfeiriad, dyddiad geni, rhif ffôn cyswllt a rhif trwydded BC i ni a gallwn eu hanfon i Fanceinion i'w cynnwys ar gofrestr y DU, sy’n cael ei chadw yno. 
 
Anfonwch fanylion at enquiries@newportlive.co.uk a fydd yn eu trosglwyddo i'r tîm datblygu beicio.

Erbyn pa amser mae angen i mi gyrraedd fy apwyntiad?

Rhaid i feicwyr gyrraedd ar gyfer o leiaf 30 munud cyn i’w sesiwn ddechrau gan ganiatáu amser i baratoi'r offer a nhw eu hunain.

Cyn i'r sesiwn ddechrau, rhaid i bob cyfranogwr gofrestru yn Ardal Beicio D. Yma, byddant yn cwblhau’r cofrestru ac yn derbyn briff diogelwch gan yr hyfforddwr.

Mae cyrraedd yn brydlon yn hanfodol er mwyn sicrhau presenoldeb yn y sesiwn friffio diogelwch, sy'n hanfodol ar gyfer diogelwch yr holl gyfranogwyr.

Beics a Llogi beics

A oes rhaid bod fy meic fy hun gennyf? A oes offer ar gael i’w rentu?

Na, mae beiciau ar gael i'w llogi yn y Felodrom. Mae llogi beiciau wedi'i gynnwys yn y rhan fwyaf o'n sesiynau i ddechreuwyr ac mae'n cynnwys rhentu esgidiau a helmed.  Gellir gwneud trefniadau ar gyfer hyn ar y diwrnod, ac nid oes angen archebu ymlaen llaw.

Pa gêr sydd ar y beiciau llog?

84.4 modfedd (50 dant ar y olwyn ddanheddog flaen x 16 dant ar y sbroced ôl)

 

Pa glemiau gellir eu defnyddio ar feics llog?

Look Keo yw’r unig glemiau a fydd yn ffitio’n pedalau ni

 

Allaf i roi fy mhedalau fy hun ar y beic?

Na, mae polisi caeth gennym na chaniateir newid neu gyfnewid unrhyw gydran ar y beics llog. Dim ond addasu uchder y sedd gyda’r lifer rhyddhau cyflym. caiff y beicwyr wneud. 

 

A ellir defnyddio unrhyw deiars ar y trac?

Na, ni chaniateir teiars cyfansawdd deuol na theiars Michelin ar y trac. 

Dillad ac Offer Arall

Gaf i wisgo fy helmed fy hun?

Cewch os oes nod CE arni ac mae’n briodol i’r sesiwn. Ni ddylid defnyddio helmedau aero mewn sesiwn grŵp.

Gaf i ffilmio fy sesiwn ar Go-Pro?

Na chewch. Ni chaniateir ffilmio gyda chamera yn sownd i’r beic na’ch corff. Gall gwyliwr ddefnyddio camera mewn ardal ddiogel os yw pawb yn gytûn ac os yw’r ffurflen briodol wedi ei chwblhau yn y dderbynfa.

 

Gaf i gysylltu fy Garmin â’r beic llog?

Ni ellir ychwanegu unrhyw ddyfais at feic llog. Mae modd gosod dyfeisiau tebyg i Garmin ar feic trac personol ond ni chaniateir iddo ymestyn allan o flaen pen uchaf y cyrn blaen. Ffefrir defnyddio gosodiad o dan y sedd. 

 

A oes rhaid i mi wisgo menig?

Oes, mae’n orfodol gwisgo menig/mits drwy’r adeg wrth feicio ar drac y Felodrôm

 

Beth dylwn i ei wisgo i reidio'r trac?

Dyma rai canllawiau i sicrhau eich bod wedi gwisgo'n briodol ar gyfer eich sesiwn trac:

Mae'n ddoeth gwisgo dwy haen o ddillad, yn enwedig ar ran uchaf y corff.

Gall siorts beicio wedi'u padio wella eich cysur wrth reidio ar y trac trwy leihau ffrithiant a chynnig clustog ychwanegol.

Mae helmedau yn orfodol i bob beiciwr.  Rhaid tynnu pigyn blaen helmedau MTB cyn y sesiwn. Mae helmedau yn cael eu darparu am ddim wrth logi beic.

Mae dillad rhydd yn peri risg o gydio ar wrthrychau wrth reidio. Gwisgwch wisg tynn am eich coesau a chuddiwch unrhyw lasys esgidiau o’r golwg yn eich esgidiau neu sanau.

Mae pob beic ar y trac yn gofyn defnyddio esgidiau â chlemiau (cleats) KEO y gellir eu rhentu mewn gwahanol feintiau. Fel arall, gall beicwyr ddewis defnyddio eu hesgidiau clemiau KEO eu hunain.

Mae menig neu fenig cau trac (track mitts) yn orfodol. Gall beicwyr ddod â'u rhai eu hunain neu eu prynu o'r dderbynfa.

Ynghylch y Trac

Beth yw pellter y trac?

250m (llinell ddu)

Pa mor serth yw’r trac?

Ar ei serthaf mae’r trac yn 42 gradd

Eisiau dod yn aelod?

Beth bynnag eich oedran, eich rhyw, eich nodau neu’ch gallu, mae Casnewydd Fyw am i chi fod yn hapusach ac yn iachach. Rydym ni yma i'ch cefnogi a'ch ysgogi. Gwell gennych weithio ar eich pen eich hun? Mae hynny’n iawn hefyd.

Aelodaeth