
Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd yn falch iawn o gyhoeddi y bydd clyweliadau i ddod o hyd i'r cwmni ifanc ar gyfer y pantomeim Robin Hood yn cael eu cynnal yng Nglan yr Afon Ddydd Sul 11 Medi rhwng 10am a 3pm gyda chofrestru am 9.30am. Croeso i bob person ifanc talentog!
Bydd Robin Hood yn cynnwys cast talentog iawn gyda rhai wynebau cyfarwydd: Ffefryn Casnewydd Richard Elis a Geraint Rhys Edwards. Bydd y pantomeim proffesiynol, safon uchel hwn sy’n addas i deuluoedd yn llawn hud, glitz a chwerthin a bydd perfformiadau i’w cael dros fis rhwng Dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022 a Dydd Sadwrn 7 Ionawr 2023. Bydd hefyd yn cynnwys tri thîm o blant mewn perfformiadau canu a dawnsio llawn hwyl, a fydd yn cael eu dewis trwy’r clyweliadau hyn.
Mae Glan yr Afon yn chwilio am 24-30 o blant a phobl ifanc i gael eu dewis, ynghyd â rhai dewisiadau wrth gefn, i ffurfio tri chwmni o 8-10 o blant, a fydd yn perfformio fesul am yn ail ddiwrnod yn ystod rhediad y pantomeim. Mae Glan yr Afon yn awyddus i weld 'personoliaethau' plant yn ogystal â'u sgiliau canu, dawnsio ac actio. Mae'n bwysig bod gan bob person ifanc sy’n mynd i'r clyweliadau sgiliau ym mhob un o’r tri maes - canu, dawnsio ac actio.
Bydd y clyweliad yn cynnwys dysgu patrwm dawns fer, a chanu fel grŵp (ac o bosib yn unigol). Efallai y byddwn ni hefyd yn gofyn iddyn nhw adrodd cerdd fer iawn neu jôc o'u dewis. Mae croeso i bob person ifanc talentog, p'un a ydynt yn mynd i ysgol ddrama, yn astudio drama neu ddawns yn yr ysgol neu'n gwbl ddibrofiad.
Dylai pobl ifanc sy’n mynd i’r clyweliadau wisgo dillad cyfforddus ac esgidiau sy'n addas ar gyfer symud a dawnsio. Ni ddylai dillad fod â brand nac wedi’i gwneud o ddeunydd sgleiniog, gan na fydd rhifau'n glynu wrth y rhain. Ni fydd angen i’r bobl ifanc sy’n mynd i glyweliadau baratoi unrhyw beth ond efallai y bydd eisiau dod â dŵr a byrbrydau. Bydd caffi Glan yr Afon hefyd ar agor ar y dydd.
Mae'r clyweliadau ar agor i blant a phobl ifanc sy'n byw ym mwrdeistrefi Casnewydd, Caerdydd a Thorfaen yn unig. Yr isafswm oedran yw 9 oed ar ddiwrnod cyntaf yr ymarfer (14 Tachwedd 2022) a'r uchafswm oedran yw 15 oed ac 11 mis ar ddiwrnod olaf y gyfres o berfformiadau (7 Ionawr 2023). Bydd rhestr o berfformiadau a’r ymrwymiadau ymarfer ar gael ar y dydd. Mae’n hanfodol bod plant a ddewisir yn gallu ymrwymo i gyfnod llawn y pantomeim, a fydd yn cynnwys nifer bychan o ddyddiadau yn ystod tymor yr ysgol ar gyfer ymarfer.
Er mwyn ein helpu i reoli amseru ar y dydd ac i roi syniad i ni o bresenoldeb, os ydych yn bwriadu ymuno â ni ar gyfer y clyweliadau, llenwch y ffurflen fer hon: https://www.surveymonkey.co.uk/r/robinhoodauditions
I gael rhagor o wybodaeth am y clyweliadau, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Glan yr Afon ar 01633 656757.
GWYBODAETH CLYWELIADAU:
Lleoliad: Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Kingsway, Casnewydd NP20 1HG
Dyddiad: Dydd Sul 11 Medi 2022
Amser: Cofrestru yn agor am 9.30am
Clyweliadau 10am – 3pm (ni fydd modd gweld unrhyw un yn y clyweliad nad yw wedi cofrestru)
Ymarferion: 14 Tachwedd 2022 tan 28 Tachwedd 2022
Dyddiadau’r sioe: 29 Tachwedd 2022 tan 7 Ionawr 2023
Cynhelir yr ymarferion ar ôl ysgol o’r wythnos sy’n dechrau ar 14/11/22 a’r wythnos sy’n dechrau ar 21/11/22 ac rhwng 10am a 6pm Ddydd Sadwrn 19 a 26 Tachwedd. Mae’r amserau galw i’w cadarnhau ar gyfer Dydd Gwener 25 a Dydd Llun 28 Tachwedd.
Sylwch nad oes lle parcio ar y safle yng Nglan yr Afon. Mae maes parcio cyhoeddus ger Glan yr Afon, yn Friars Walk a hefyd ar draws y ffordd yng Nghanolfan Kingsway.
Robin Hood
Dydd Mawrth 29 Tachwedd – Dydd Sadwrn 7 Ionawr
https://www.newportlive.co.uk/en/events/c0335bfc-4dd0-ec11-80e5-00505601006a/