Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o roi croeso nôl i un o berfformwyr mwyaf annwyl de Cymru, Richard Elis, ar gyfer pantomeim eleni, Rapunzel, sy'n rhedeg o 27 Tachwedd 2025 i 4 Ionawr 2026.
Nawr yn dathlu ei bedwerydd pantomeim ar ddeg yng Nglan yr Afon, mae Richard wedi dod yn gonglfaen go iawn i draddodiad Nadoligaidd Glan yr Afon. Gyda'i hiwmor nodweddiadol, ei gynhesrwydd, a'i gysylltiad dwfn â chynulleidfaoedd, mae'n dod â hwyl y panto nôl flwyddyn ar ôl blwyddyn.
"Rwy'n hapus iawn i fod yn ôl yn Glan yr Afon eto - mae'r theatr a'r staff fel teulu," meddai Richard. "Ychwanegwch hynny at gynulleidfaoedd anhygoel Casnewydd ac rwy'n sicr o gael tymor Panto gwych yma, fel bob amser.
Y goron ar gacen y Panto eleni yw cael whare biti gyda... o mae’n ddrwg gen i… gweithio'n galed iawn i greu cymeriadau gwych gyda Gareth Tempest eto!"
Mae’r pantomeim eleni, Rapunzel, yn adrodd stori hudolus tywysoges dan glo mewn tŵr, dihangfa feiddgar, a chwest hudolus yn ddwfn yng nghoedwigoedd Cymru. I Richard, mae'n golygu paratoi i ychwanegu 'Dringo Gwallt' i’w CV – os fydd Rapunzel yn gadael iddo!
“Rapunzel fel mae'n digwydd yw un o hoff straeon fy merched erioed, felly rwy'n siŵr y byddan nhw wrth eu bodd gyda'r cynhyrchiad hwn. Mae'r Nadolig a'r panto yn rhan enfawr o'n bywydau fel teulu, ac mae'n bleser bod yn rhan o rywbeth mor arbennig unwaith eto."

I Richard, mae pantomeim yn fwy na thraddodiad: "Mae Panto yn rhan mor bwysig o'r byd theatr. Mae'n cyflwyno cymaint o bobl, yn enwedig plant, i berfformiad byw, ac mae'n un o'r ychydig droeon y bydd cynulleidfaoedd yn teimlo'n hollol rhydd i chwerthin, gweiddi, ac ymuno yn yr hwyl. Dyma i chi adrodd straeon ar ei fwyaf bywiog."
Meddai Jamie Anderson, Rheolwr Datblygu Creadigol yn Theatr Glan yr Afon, "Mae Richard Elis yn un o hoelion wyth pantomeim Glan yr Afon – mae ei bresenoldeb yn dyrchafu'r sioe flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac rydym yn ffodus i'w gael yn ôl gyda ni ar
gyfer ein 20fed tymor pantomeim. Dydw i ddim yn siŵr os yw rhoi Richard a Gareth yn ôl gyda’i gilydd ar y llwyfan yn syniad da, ond mae'n sicr yn lot o hwyl.”
Peidiwch â cholli'r cyfle i weld Richard Elis yn goleuo'r llwyfan yn yr hyn sy'n addo bod yn gynhyrchiad ysblennydd, chwerthin-lond-eich-bol, a thwymgalon o Rapunzel. Gyda pherfformiadau bythgofiadwy, setiau disglair, a digon o hwyl Nadoligaidd, mae pantomeim Glan yr Afon yn parhau i fod yn draddodiad anhepgor yng nghalendr Nadolig Casnewydd.
Mae pantomeim 2025/2026 Glan yr Afon yn un na ddylid ei golli. Archebwch eich tocynnau heddiw: newportlive.co.uk/rapunzel