Dewch i gwrdd â Thîm Wonderland: Hummadruz
Fe wnaethom ni gyfweld â Hummadruz am eu rôl yn Wonderland, dyma'r hyn oedd ganddynt i'w ddweud:
Beth oedd eich rôl yn y gwaith o adeiladu / creu Wonderland?
Ni oedd yn gyfrifol am greu'r Goedwig UV, the Cheshire Cat a’r Sêr. Rydym yn gwneud Perfformiadau Seicedelig yn Wonderland ac yn cynnal gweithdai ar gyfer Sparkle.
Beth sydd ynghlwm wrth eich gwaith?
Ni yw Hummadruz – Theatr Uwchfioled Cymru.
Ni ddyluniodd ac a wnaeth y Goedwig UV, gan ychwanegu drychau i ehangu'r gofod ac rydym wedi ychwanegu manylion cudd bach y tu mewn iddi i bobl ddod o hyd iddynt. Rydym hefyd wedi ychwanegu seinwedd i ychwanegu ymdeimlad o ddirgelwch, rhyfeddod a heddwch i'r goedwig.
Crëwyd perfformiad byr gennym yn seiliedig ar y Mad Hatter ar gyfer teithiau arbennig o amgylch Wonderland ac rydym yn cynnal gweithdai o'r enw "Big Fish Little Fish, Cardboard Box" i blant greu eu Pypedau UV eu hunain i’w gorymdeithio o amgylch Wonderland o flychau cardbord wedi'u hailgylchu.
Ychwanegwyd sêr UV i'r awyr i ychwanegu elfen fertigol fawr a chreu ymdeimlad o le, tra bod ein Cheshire Cat enfawr yn goruchwylio’r holl hynt a helynt yn Wonderland.
Disgrifiwch sut deimlad yw bod yn rhan o'r prosiect hwn
Mae wedi bod yn gyfle gwych i gydweithio ar y cyd ag Escape Rooms a Glan yr Afon, ac yn gyfle gwych i chwarae, gan greu llawenydd, harddwch, hwyl a sbri!
Beth yw eich hoff ran o Wonderland?
Ymateb y cyhoedd!
Pam ydych chi'n meddwl y dylai pobl ymweld â Wonderland?
Bydd pobl yn mwynhau'r dirgelwch, yr amrywiaeth, y lliw a'r ymdeimlad o ddianc.
Mae'n hardd, yn ddoniol ac yn llawn o chwarëusrwydd plentyn.
Mae Wonderland ar agor yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydol Glan yr Afon tan 7 Mai. Dysgwch fwy ac archebwch eich tocynnau nawr ar-lein yn: Casnewydd Fyw Digwyddiadau