Sharif Gemie and Dylan Moore on the set at The Riverfront.jpeg    Image of many Rivers to Cross book cover

 

 

Mae LoveReading LitFest, yr ŵyl lyfrau a llenyddiaeth ddigidol newydd ar sail tanysgrifio, wedi ffurfio partneriaeth â Casnewydd Fyw – ymddiriedolaeth elusennol sy'n darparu gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon yng Nghasnewydd – i gefnogi lansiad nofel gyntaf glodwiw Dylan Moore Many Rivers to Cross a hynny mewn digwyddiad dethol. Bydd y sgwrs yn fyw ar LoveReading LitFest yfory.

Bu’r awdur, sy'n olygydd the welsh agenda, yn destun cyfweliad gan Sharif Gemie i drafod ei lyfr newydd, gyda'r sesiwn wedi'i ffilmio yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, yng nghanol y ddinas.  Mae Sharif Gemie yn gyn-Athro Hanes. Ymchwiliodd yn bennaf i bobl oedd yn mudo, boed yn ffoaduriaid (Outcast Europe, 2011), Mwslimiaid yn Ewrop (French Muslims, 2010) neu deithwyr hippy (A History of the Hippy Trail, 2017). Mae'n byw yng Nghasnewydd ac ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu nofel sydd wedi’i lleoli ymhlith gweithwyr cymorth y Cenhedloedd Unedig yn yr Almaen, 1945-46.

Wedi ei hysgrifennu ar ôl cyfnod yn gwirfoddoli yn y Prosiect Noddfa yng Nghasnewydd, ac yn rhannol seiliedig ar gyfweliadau gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, mae Many Rivers to Cross yn olrhain cyfres o deithiau – ymfudo ar draws amser a lle – o strydoedd Pilgwenlli, Casnewydd i wersyll y 'Jyngl' yn Calais, ac o Ethiopia i ynys Lampedusa.Wedi’i disgrifio gan Siân Melangell Dafydd, y nofelydd, bardd a’r cyfieithydd o Gymru, fel 'stori hanfodol ar gyfer oes ymfudo', mae’r nofel yn mynd â'r darllenydd i lefydd nad yw'r rhan fwyaf ohonom erioed wedi bod ynddynt, ac na fydden ni fyth yn dymuno mynd iddynt.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan ddau ffoadur o Ethiopia yn wreiddiol, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd. Siaradodd Biniyam Birtukan am sut y trodd ei waith fel newyddiadurwr cylchgrawn llawrydd yn Ethiopia yn amhosibl oherwydd problemau ynghlwm â rhyddid i lefaru, ei ran wrth sefydlu Eglwys Uniongred enwog Sant Mihangel yng ngwersyll y 'Jyngl' yn Calais, a'r boddhad y mae wedi'i gael trwy weithio fel cynorthwy-ydd gofal iechyd ers cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Gyfunol. Siaradodd Yohannes Obsi am ei dras gymysg a sut cafodd ei garcharu gan y llywodraeth oherwydd ei gefnogaeth i grŵp gwaharddedig gynt yr wrthblaid, Ffrynt Rhyddid Oromo. Dihangodd i fynd ar daith beryglus trwy Swdan, Libia, yr Eidal a Ffrainc i gyrraedd y gwledydd hyn.

Dywedodd Paul BlezardCyfarwyddwr yr Ŵyl yn y LoveReading LitFest: "Mae nofel newydd bwerus Dylan yn gwneud rhywbeth anhygoel. Mae'n mynd â ni y tu hwnt i ddelweddau’r sgrîn sydd wedi ein llenwi ag arswyd a thosturi yn rhy hir ac yn syth i galonnau, meddyliau, gobeithion ac ofnau'r rhai sy'n dewis neu’n cael eu gorfodi i ymgymryd â theithiau sy'n peryglu bywyd er mwyn mynd tuag at ddiogelwch a lloches. Mae’n anrhydedd ac yn fraint arbennig i ni groesawu Dylan, Biniyam a Yohannes a'u cefnogi trwy'r digwyddiad pwysig hwn."

 

Dywedodd Alan Dear, Pennaeth Theatr, y Celfyddydau a Diwylliant yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd Fyw: "Mae'rGlan yr Afon yn falch iawn o wneud y bartneriaeth newydd hon ac wrth i ni ddechrau ar y daith adfer hir yn sgil Covid, rydym yn gobeithio y bydd llenyddiaeth yn rhan greiddiol o'n rhaglen yn y dyfodol. Bellach mae gennym y gallu i ddarparu cynnwys yn ddigidol ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi pleser i'n cynulleidfaoedd newydd a phresennol tan y daw adeg pan allwn ailagor ein drysau unwaith eto."

Mae Many Rivers to Cross gan Dylan Moore wedi’i chyhoeddi gan y cyhoeddwr lleol, Three Impostors am £10

 

 

lovereading lit fest logo  Three Impostors Logo