summer.jpg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae gwyliau'r haf yn amser i ymlacio a chael eich gwynt yn ôl – ond nid yw hynny'n golygu y dylech chi roi seibiant i’ch ffitrwydd. Yn Casnewydd Fyw, rydyn ni’n credu y dylai symudiad gefnogi eich ffordd o fyw, nid cystadlu ag ef. P'un a ydych chi'n hedfan dramor, yn cynllunio gwyliau yn y wlad yma, neu'n jyglo plant/wyrion gartref, dyma rai ffyrdd hawdd o gadw'n actif er mwyn dod yn ôl yn teimlo wedi’ch adfywio – nid wedi rhydu.

 

 

Dyma rai awgrymiadau da ar gyfer symud yn well yr haf hwn – mwynhewch!

1. Symud gyda Phwrpas, Nid Pwysau


Anwybyddwch yr euogrwydd a chanolbwyntiwch ar symudiad dyddiol, nid ymarfer corff perffaith. Mae hyd yn oed 20 munud o gerdded, nofio neu sesiwn ymestyn yn cyfrif. Bydd cadw’n actif yn rhoi hwb i'ch egni, yn lleihau stiffrwydd ac yn cadw'ch hwyliau’n uchel. Beth am ystyried ein rhwydwaith cerdded Momentwm sy'n cwrdd bob dydd Mercher yng Nglan yr Afon am 12.30, am dro cymdeithasol.

2. Pacio’n Ysgafn, Hyfforddi’n Gall


Mae band gwrthiant bach neu raff sgipio yn llenwi bron dim lle – ond yn cynnig llu o opsiynau ymarfer corff. Gofynnwch i'n Hyfforddwyr Campfa am ymarfer band cyflym i’r gwyliau cyn i chi deithio!

3. Rhowch gynnig ar hyn: Cylchdaith Cyflym Casnewydd Fyw


Cwblhewch 3–4 rownd o:
• 30 eiliad o sgwatiau pwysau corff
• 30 eiliad o wthio i fyny (pengliniau neu fysedd traed)
• 30 eiliad o ddringo mynydd
• 30 eiliad o orffwys

Dim offer. Dim esgusodion.  Dim ond ffordd fer, sydyn o gadw'n actif ble bynnag yr ydych chi – yn y gampfa, gartref, mewn ystafell westy neu ar y traeth!

4. Ymarfer yn y Dŵr

Ddim yn gadael y dref? Ymunwch â'n dosbarthiadau Ffitrwydd Dŵr ar gyfer ymarfer corff llai heriol braf ac effeithiol. Neu ystyriwch ein sesiynau nofio lôn, hamdden neu deuluol.

 

5. Canolbwyntio ar y teulu

Os ydych chi'n gweld bod gennych lai o amser ar gyfer hyfforddiant neu ymarfer corff nag arfer, oherwydd bod gennych blant neu wyrion gartref yn fwy yn ystod y gwyliau, beth am ystyried un o'n gweithgareddau gwyliau y gallwch ei wneud fel teulu e.e. ein sesiynau diogelwch ffyrdd a beicio Bikeability i’r teulu, sesiwn nofio i’r teulu neu un o'r llu o weithgareddau gwyliau eraill rydyn ni’n eu cynnig yr haf hwn.


6. Cynllunio Sut i Ailgydio yn Eich Trefn ar ôl y Gwyliau


Ailgydiwch yn raddol yn eich trefn gyda sesiwn Sefydlu Campfa neu 1-2-1 am ddim. Byddwn yn asesu eich ffitrwydd ac yn helpu i greu cynllun ailgychwyn ysgafn a fydd yn eich ysgogi – nid eich llethu.

 

7. Cofiwch – Mae Symud yn Feddyginiaeth

 

Felly mae hyd yn oed taith gerdded gyda ffrindiau, ychydig o ddawnsio mewn gŵyl neu ychydig o ioga ysgafn yn yr ardd i gyd yn cyfrif tuag at eich iechyd a'ch lles!