Mae ceisiadau hydref CULTIVATE ar agor
Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan artistiaid a grwpiau (cydweithfeydd, cwmnïau, parau ac ati) sydd â syniad y credant fyddai'n elwa o breswylfa wythnos o hyd a chyfle sgratsh-berfformio fel rhan o dymor hydref CULTIVATE yng Nglan yr Afon.
Beth yw CULTIVATE?
CULTIVATE yw rhaglen Preswylfa Artist/Noson Sgratsh newydd Glan yr Afon. Mae'n digwydd ddwywaith y flwyddyn yn y gwanwyn a'r hydref. Mae pob digwyddiad yn cynnig preswylfa wythnos o hyd i 3 Artist/Grŵp a fydd yn dod i ben gyda'r cyfle i hawlio lle ar lwyfan y stiwdio gan rannu darnau bras o waith gyda chynulleidfa fyw.
Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd gyffrous ac arbrofol i berfformwyr rannu syniadau newydd â chynulleidfaoedd. Yn eu tro gwahoddir y cynulleidfaoedd hyn i roi adborth ar bopeth maen nhw'n ei weld, gan helpu'r artist i ddatblygu’r gwaith ymhellach.
Mae'r gwaith rydym yn ei gefnogi yn amrywiol a gallai fod yn rhywbeth cerddorol, rhywbeth wedi'i sgriptio, rhywbeth corfforol, rhywbeth digidol neu unrhyw beth yn y canol. Gyda CULTIVATE, hoffem gynnig llwyfan agored ar gyfer syniadau newydd radical, annodweddiadol a blaengar.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan Artistiaid a Grwpiau (cydweithfeydd, cwmnïau, parau ac ati) y mae ganddynt syniad a fyddai'n elwa yn eu barn nhw o gael ei ddatblygu ymhellach fel rhan o MEITHRIN.
Mae gennym ddiddordeb mewn gwaith o unrhyw ffurf a genre, ond dylai allu cael ei rannu mewn lleoliad theatr/stiwdio draddodiadol am oddeutu 10mun - 25mun. Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu cefnogi ceisiadau gan Artistiaid a allai fod am rannu gwaith mewn gofodau/ffyrdd eraill.
Rydym am gefnogi pobl i archwilio syniadau a naratifau penodol wedi'u llywio gan eu profiadau a phroffil Artistiaid/Grwpiau y gall eu gwaith ddylanwadu ar sgwrs ehangach â’n cynulleidfaoedd a chymunedau. Oherwydd hyn mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy'n mynd i'r afael â themâu brys a/neu sy'n cael ei arwain gan Artistiaid o grwpiau sydd fel arfer ar yr ymylon. Gallai fod yn ddefnyddiol sôn yn eich cais am grwpiau cymunedol penodol y gallai eich gwaith fod o fudd iddynt/fod ar eu cyfer.
Yn y ffurflen isod mae adran sy'n gofyn i chi nodi unrhyw anghenion allai fod gennych.
Yn achos gwaith a arweinir gan Bobl Anabl, rydym yn awyddus i gyd-ddatblygu ychwanegiad mynediad wedi'i deilwra i'ch anghenion penodol, os bydd eich cais yn llwyddiannus.
Beth gewch chi?
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael:
- 5x diwrnod o ofod ymarfer yng Nglan yr Afon
- Cefnogaeth gan Gynhyrchydd Creadigol llawrydd (Justin Teddy Cliffe)
- Cymorth technegol ar gyfer perfformiad fel rhan o Noson Sgratsh MEITHRIN
- £350 (fesul Artist/Grŵp) am dreuliau
- Adborth y gynulleidfa o'r digwyddiad
- Fersiwn wedi'i ffilmio o'r gwaith i’w ddatblygu yn y dyfodol.
Beth sydd angen i chi ei wneud?
P'un a ydych chi'n grëwr newydd neu’n artist sefydledig, os ydych chi'n teimlo y gallai wythnos o gefnogaeth a chyfle sgratsh fod o fudd i chi, y cyfan sydd ei angen arnoch i wneud cais yw syniad.
Dyddiad cai: Dydd Iau 21 Medi,12pm
Bydd y Noson Sgratsh CULTIVATE nesaf: Dydd Iau 12 Hydref, 7pm