Mae Casnewydd Fyw a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) i ddatblygu a threialu rhaglen Atgyfeirio'r Celfyddydau sydd wedi'i hintegreiddio i'r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Ymarfer Corff (CCAYC) yng Nghasnewydd.
Bydd y prosiect yn cwmpasu, dylunio a phrofi llwybr iechyd creadigol o fewn CCAYC, gan gynnig gweithgarwch creadigol therapiwtig dan oruchwyliaeth i oedolion sydd â heriau iechyd meddwl neu sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd cysylltiedig. Bydd y cynllun peilot yn cynhyrchu tystiolaeth ynghylch a all ymyriadau creadigol ddod yn elfen hyfyw y gellid ei hymestyn o fewn CCAYC yng Nghymru.
Mae hwn yn brosiect arloesol — hyd y gwyddom, nid yw'r celfyddydau wedi'u hymgorffori'n ffurfiol o fewn CCAYC yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gwerthuswr Llawrydd
Rydym yn chwilio am Werthuswr Llawrydd profiadol i ddylunio a chyflwyno fframwaith gwerthuso dull cymysg cadarn ar gyfer y rhaglen beilot hon.
Bydd y gwerthusiad yn tynnu ar:
· Fesurau Canlyniad yn ôl Claf a (Mesurau Profiad yn ôl Claf).
· Cyfweliadau ansoddol a/neu grwpiau ffocws
· Dysgu adfyfyriol gyda phartneriaid ac artist
Prif Gyfrifoldebau
Dylunio’r Gwerthusiad
· Datblygu fframwaith gwerthuso wedi'i deilwra, mewn cydweithrediad â phartneriaid
· Alinio â mesurau canlyniadau presennol CCAYC lle bo'n briodol
· Adnabod offer meintiol ac ansoddol priodol
Casglu Data a Dadansoddi
· Dylunio a goruchwylio mesurau gwaelodlin a dilynol
· Cynnal cyfweliadau/grwpiau ffocws gyda chyfranogwyr a rhanddeiliaid
· Dadansoddiadau data meintiol ac ansoddol
Dysgu ac Adrodd
· Cynhyrchu adroddiadau gwerthuso interim a therfynol
· Adnabod canfyddiadau allweddol ynghylch:
o Effaith gymharol llwybrau creadigol a llwybrau ymarfer corff
o Rhwystrau a chymhellion ar gyfer cyfranogiad
o Y potensial i ymestyn a bod yn gynaliadwy
· Darparu argymhellion ar gyfer datblygiad yn y dyfodol
Cyfraniad y Sector
· Cefnogi’r gwaith o ledaenu canfyddiadau
· Cyfrannu at ddysgu sy'n berthnasol i ymarfer Celf ac Iechyd ehangach
Manyleb Person
Hanfodol:
· Profiad o werthuso ymyriadau iechyd, celf neu gymunedol
· Dealltwriaeth gref o ddylunio ymchwil dulliau cymysg
· Profiad o weithio gyda mesurau lles
· Y gallu i gynhyrchu adroddiadau clir, hygyrch ar gyfer cynulleidfaoedd lluosog
Dymunol:
· Profiad o werthuso rhaglenni’r GIG neu iechyd cyhoeddus
· Gwybodaeth am iechyd creadigol/celfyddydau ar bresgripsiwn
· Bod yn gyfarwydd â dulliau gwerthuso cyfranogol fel Newidiadau Mwyaf Arwyddocaol
Manylion y Contract
· Contract llawrydd
· Tua 10 diwrnod
· Ffi: £2,500
· Cyfuniad o weithio wyneb yn wyneb (Casnewydd) a gweithio o bell
· Dyddiadau'r prosiect: Mawrth - Hydref 2026
Sut i wneud cais
Cyflwynwch CV ac e-bost byr yn mynegi eich diddordeb i Sharon Casey yn sharon.casey@newportlive.co.uk. Os yw'n well gennych, mae croeso i chi gyflwyno fideo byr yn hytrach nag e-bost ysgrifenedig.
Dyddiad cau: Dydd Sul 15fed Mawrth 2026
CYDLYNYDD PROSIECTAU LLAWRYDD
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Prosiectau Llawrydd profiadol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r rhaglen beilot hon o'r cychwyn i'w chwblhau.
Bydd y Cydlynydd yn gweithio'n agos gyda Chasnewydd Fyw (Prif bartner Celf), tîm CCAYC yn BIPAB, yr artist arweiniol, a'r gwerthusydd allanol a benodir i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gynnal yn ddidrafferth, bod gweithio mewn partneriaeth gref a monitro effeithiol ar waith.
Prif Gyfrifoldebau
Cydlynu a Chyflawni’r Prosiect
· Datblygu a rheoli cynllun manwl ac amserlen ar gyfer y prosiect
· Cydlynu cyfarfodydd rhwng partneriaid (celf, iechyd, gwerthuso)
· Cefnogi sesiynau ymgynghori gyda grwpiau cleifion a rhanddeiliaid
· Goruchwylio taith cyfranogwyr o'r atgyfeiriad gwreiddiol tan ei gwblhau
Cydlynu Gweithrediadau
· Cysylltu â staff CCAYC ynghylch atgyfeiriadau ac amserlennu
· Cefnogi'r artist arweiniol gyda logisteg, trefniadau o ran lleoliad, deunyddiau ac anghenion mynediad
· Sicrhau y dilynir gweithdrefnau diogelu, iechyd a diogelwch
Monitro ac Adrodd
· Goruchwylio’r gwaith o gasglu data monitro (mewn cydweithrediad â'r gwerthusydd)
· Sicrhau bod monitro amrywiaeth a chynhwysiant wedi'i ymgorffori yn y data
· Helpu gydag adroddiadau interim a therfynol ar gyfer cyllidwyr a phartneriaid
Partneriaethau a Chyfathrebu
· Bod yn bwynt cyswllt allweddol rhwng partneriaid celf ac iechyd
· Cefnogi cyfathrebu mewnol
· Cyfrannu at ddogfennu dysgu, a’u lledaenu
Manyleb Person
Rydym yn chwilio am rywun sy’n meddu ar y canlynol:
· Profiad o reoli prosiectau traws-sector (celf/iechyd/cymunedol yn ddymunol)
· Dealltwriaeth ddofn o weithio mewn partneriaeth
· Profiad o weithio gydag artistiaid a chyfranogwyr o’r gymuned
· Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol
· Gwybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymarfer cyfranogol
· Hyderus wrth ddelio â fframweithiau monitro ac adrodd ar ganlyniadau
Dymunol:
· Profiad o lwybrau presgripsiynu cymdeithasol neu atgyfeirio
· Gwybodaeth am iechyd creadigol / ymarfer y Celfyddydau ac Iechyd
· Profiad o weithio gyda chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli.
Manylion y Contract
· Contract llawrydd
· Tua 16 diwrnod
· Ffi: £4,000
· Wedi'i leoli yng Nghasnewydd gyda rhywfaint o waith hyblyg
· Dyddiadau'r prosiect: Mawrth - Hydref 2026
Sut i wneud cais
Cyflwynwch CV ac e-bost byr yn mynegi eich diddordeb i Sharon Casey yn sharon.casey@newportlive.co.uk. Os yw'n well gennych, mae croeso i chi gyflwyno fideo byr yn hytrach nag e-bost ysgrifenedig.
Dyddiad cau: Dydd Sul 15fed Mawrth 2026