Unwaith eto, mae Casnewydd Fyw yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am gyllid i gefnogi Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, gan helpu i sicrhau dyfodol ei weithgarwch a chadw staff.

Derbyniodd Casnewydd Fyw gwerth £250,000 o Gylch 2 y Gronfa Adfer Diwylliannol, a gyflwynwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol, i helpu'r sector yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae'r cyllid hanfodol hwn, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng Mawrth a Medi 21, wedi helpu i gefnogi costau busnes hanfodol i alluogi'r theatr i barhau i ysbrydoli pobl ledled Casnewydd ac adeiladu ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon wedi gallu ailagor ei drysau a pharhau i swyno cwsmeriaid a chynulleidfaoedd, gan eu helpu i fod yn greadigol, artistig a chael hwyl. Gyda chymorth oddi wrth Haf o Hwyl roedd ariannu hyn yn cynnwys gweithgarwch celfyddydol am ddim dros yr haf i bobl ifanc fel rhan o'i ŵyl “Splashtonbury” gyda gweithdai, crefft a cherddoriaeth fyw gan gynnwys perfformiadau am ddim o “Baby, Bird and Bee” Theatr Iolo.

Mae perfformiadau byw, dangosiadau sinema a gweithdai bellach wedi dychwelyd gyda ffefrynnau gan gynnwys Sinfonia Cymru, Live Music Now, Hijinx, Ballet Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru yn ymweld â'r theatr dros y misoedd nesaf.

Mae tîm Datblygu Celfyddydau Glan yr Afon wedi gweithio gydag ysgolion ac artistiaid lleol gan gynnwys Tinshed Theatre, Tu Fewn Tu Fas Cymru a Reality Theatre i ddarparu gweithdai a phrofiadau byw eraill i oedolion a phobl ifanc. Mae'r buddsoddiad yn eu hoffer ffilmio wedi cefnogi ffrydio perfformiadau'n fyw o ysgolion lleol a Theatr Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw sy'n gyfrifol am redeg Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon "Rydym unwaith eto'n hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am y cyllid hwn. Rydym wrth ein bodd ein bod o'r diwedd wedi gallu ail-agor Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ac mae'n bleser gweld cymaint o wynebau hapus yn dychwelyd ac yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, creadigol."

Daw'r arian yn dilyn cais llwyddiannus blaenorol gan Gasnewydd Fyw i gronfa Sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Sefydliadau a Chronfa Adfer Diwylliannol Rownd 1 i gefnogi'r theatr yn ystod y pandemig.

I gael gwybod mwy am Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ewch i https://www.newportlive.co.uk/cy/lleoliadau/Canolfan-Theatr-a-Chelfyddydau-Glan-yr-Afon/  neu dilynwch Glan yr Afon ar gyfryngau cymdeithasol yn @TheRiverfront ar Facebook neu @RiverfrontArts ar Twitter ac Instagram.

Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen nad yw’n dosbarthu elw sy’n cyflwyno rhaglenni chwaraeon a chelfyddydau hwyliog, cynhwysol a hygyrch yn ein cymuned ar gyfer plant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled y ddinas. Gallwch gael gwybod mwy am sut i gefnogi Glan yr Afon a Chasnewydd Fyw yma: https://www.newportlive.co.uk/cy/Amdanom-ni/Cefnogwch-ni/