Beth yw MEITHRIN?

MEITHRIN yw digwyddiad sgratsh-berfformio Glan yr Afon sy'n caniatáu i gynulleidfaoedd gwrdd ag artistiaid wrth iddynt rannu perfforniadau bra byr o waith newydd sbon!

Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd gyffrous ac arbrofol i berfformwyr rannu syniadau newydd â chynulleidfaoedd. Yn eu tro gwahoddir y cynulleidfaoedd hyn i roi adborth ar bopeth maen nhw'n ei weld, gan helpu'r artist i ddatblygu’r gwaith ymhellach.

Mae'r gwaith rydym yn ei gefnogi yn amrywiol a gallai fod yn rhywbeth cerddorol, rhywbeth wedi'i sgriptio, rhywbeth corfforol, rhywbeth digidol neu unrhyw beth yn y canol. Gyda MEITHRIN, hoffem gynnig llwyfan agored ar gyfer syniadau newydd radical, annodweddiadol a blaengar.

Yr Hyn Rydym yn Chwilio Amdano

Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan Artistiaid a Grwpiau (cydweithfeydd, cwmnïau, parau ac ati) y mae ganddynt syniad a fyddai'n elwa yn eu barn o gael ei ddatblygu ymhellach fel rhan o MEITHRIN.

Mae gennym ddiddordeb mewn gwaith o unrhyw ffurf a genre, fodd bynnag, dylai allu cael ei rannu mewn lleoliad theatr draddodiadol yn y stiwdio am oddeutu 10mun - 25mun. Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu cefnogi ceisiadau gan Artistiaid a allai hoffi rhannu gwaith mewn gofodau/ffyrdd eraill.

Rydym am gefnogi pobl i archwilio syniadau a naratifau penodol wedi'u llywio gan eu profiadau a phroffil Artistiaid/Grwpiau y gall eu gwaith ddylanwadu ar sgwrs ehangach â’n cynulleidfaoedd a chymunedau. Oherwydd hyn mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy'n mynd i'r afael â themâu brys a/neu sy'n cael ei arwain gan Artistiaid o grwpiau sydd fel arfer ar yr ymylon. Gallai fod yn ddefnyddiol sôn yn eich cais am grwpiau cymunedol penodol y gallai eich gwaith fod o fudd iddynt/fod ar eu cyfer.

Yn y ffurflen isod mae adran sy'n gofyn i chi nodi unrhyw anghenion all fod gennych.

Yn achos gwaith a arweinir gan Bobl Anabl, rydym yn awyddus i gyd-ddatblygu atodiad mynediad wedi'i deilwra i'ch anghenion penodol, os bydd eich cais yn llwyddiannus.

Beth Gewch Chi

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn manteisio ar:

- Hyd at 5 diwrnod o le i ymarfer.

- Mae'r cyfnodau preswyl yn gwbl hyblyg, a gall ymgeiswyr llwyddiannus ddefnyddio'r adnoddau sy'n cael eu cynnig yn ôl eu hangen.

- Gellir lledaenu amser a dreulir yn yr adeilad dros gyfnod o fis cyfan. Yn digwydd yn ystod y dydd neu gyda'r nos yn ddibynnol ar ymrwymiadau eraill yr artist.

- Cefnogaeth gan Gynhyrchydd Creadigol llawrydd (Justin Teddy Cliffe)

- Cymorth technegol ar gyfer perfformiad fel rhan o Noson Sgratsh Meithrin

- Adborth y gynulleidfa o'r digwyddiad.

- Fersiwn wedi'i ffilmio o'r gwaith ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.

Breakdown

Gallwch wneud cais fel unigolyn neu fel grŵp.

Gall cyfnodau preswyl ddigwydd unrhyw bryd rhwng: 25 Ebrill 2023 a 24 Mai 2023

Noson Sgratsh MEITHRIN y Gwanwyn ar 25 Mai 2023 - 7.00pm

Dylai pob berfformiad a rennir bara rhwng 10mun - 25 munud.

Dylai'r holl waith fod yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd 14+ oed.

DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU 23 Chwefror 2023 - 12pm