Mae Casnewydd Fyw yn rholio'r carped coch ar gyfer cymunedau lleol i ddathlu gosod taflunydd sinema newydd sbon yn Theatr Glan yr Afon drwy gynnal eu dangosiadau ffilm am ddim eu hunain.

Mae'r uwchraddio, a fu’n bosibl drwy gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn gam cyffrous tuag at raglen sinema hirdymor Theatr Glan yr Afon. Mae grwpiau cymunedol ledled y ddinas yn cael eu hannog i gymryd rhan drwy ddewis ffilm sy'n adlewyrchu eu cenhadaeth, yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol, neu'n dod â phobl at ei gilydd i rannu profiad.

Dadorchuddiwyd y taflunydd newydd mewn digwyddiad lansio arbennig ac yn bresennol roedd gwesteion gan gynnwys Maer Casnewydd, y Cynghorydd Kate Thomas, y Cynghorydd James Clarke, a chefnogwyr Theatr Glan yr Afon. Roedd y noson yn cynnwys y dangosiad cymunedol cyntaf, A Bunch of Amateurs, gyda chroeso carped coch a digon o bopcorn.

Dywedodd Sharon Casey, Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant Casnewydd Fyw: "Mae'r uwchraddiad hwn yn ein helpu i barhau i gynnig dangosiadau fforddiadwy, o ansawdd uchel yng nghanol y ddinas ac yn dod â phobl at ei gilydd drwy hud ffilm. Diolch yn fawr iawn i Gyngor Dinas Casnewydd, Llywodraeth Cymru, a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU am ei wneud yn bosibl.

Mae sinema yn Theatr Glan yr Afon wedi parhau ers dros 20 mlynedd oherwydd ei fod yn fforddiadwy, yn canolbwyntio ar y gymuned, ac yn gynhwysol. Rydyn ni wedi cynnal miloedd o ffilmiau, o Ŵyl Ffilm Garibïaidd Windrush i gynyrchiadau lleol, ac rydyn ni wrth ein bodd bellach i gynnig 50 o ddangosiadau am ddim i grwpiau cymunedol eu mwynhau gyda'i gilydd."

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Gall grwpiau cymunedol gymryd rhan drwy ddewis ffilm sy'n bwysig iddyn nhw a llenwi ffurflen gyflwyno fer.

Trwy'r prosiect hwn, mae Theatr Glan yr Afon yn sicrhau bod sinema yn parhau i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. Gall dangosiadau gynnwys sain is, goleuadau wedi’u pylu, ac amgylchedd hamddenol. Mae ffilmiau â disgrifiad sain a chapsiynau ar gael ar gyfer cynulleidfaoedd ag amhariad ar eu golwg, byddar neu drwm eu clyw, a darperir mannau gweddi a thawel.

Nod y rhaglen yw chwalu rhwystrau i gyfranogiad, gan gynnig dangosiadau wedi'u teilwra a'u rhaglennu ar y cyd â grwpiau lleol ac amrywiol sy'n helpu i adlewyrchu a chodi ymwybyddiaeth o'r diwylliannau, yr ieithoedd a’r traddodiadau yn ein cymunedau.

Dysgwch fwy a gwnewch gais yma