Casnewydd Fyw yn cyflawni The Active Standard, gan roi hyder ac ymddiriedaeth i gwsmeriaid yn niogelwch a chynhwysiant ei gyfleusterau
Casnewydd Fyw: Mae Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd a champfa Gorsaf wedi cyflawni The Active Standard, ardystiad sy'n caniatáu i weithredwyr ffitrwydd a hamdden ddangos diogelwch ac ansawdd eu cyfleusterau.
Trwy gael ardystiad The Active Standard, mae Casnewydd Fyw yn cadarnhau ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth diogel, cynhwysol ac o ansawdd uchel i'w gwsmeriaid.
Dyluniwyd y safon gan ukactive, corff masnach y DU ar gyfer y sector gweithgarwch corfforol, gyda chefnogaeth gan weithwyr proffesiynol a sefydliadau safonau blaenllaw ledled y DU ac Ewrop.
Ei nod yw cefnogi campfeydd, canolfannau hamdden, pyllau nofio a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd eraill i godi safonau ac annog mwy o bobl i fod yn egnïol.
Fel rhan o'r broses ardystio, aseswyd Casnewydd Fyw ar ei arferion iechyd a diogelwch, safonau proffesiynol, gweithdrefnau diogelu, a phrosesau diogelu data, gan roi mwy o hyder i ymwelwyr a chwsmeriaid wrth ddefnyddio ei gyfleusterau.
Cynhaliwyd yr asesiad gan Right Directions, corff asesu trydydd parti annibynnol, yn erbyn meini prawf llym. Bydd yr ardystiad yn para am dair blynedd cyn bod angen ailasesiad.
Mae The Active Standard yn cyd-fynd yn ofalus â chynlluniau diwydiant mawr eraill, gan gynnwys, FITcert a Quest, i sicrhau bod y sector yn parhau i wella a thyfu.
Dywedodd Neil Sargeant, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Casnewydd Fyw:
"Fe wnaethon ni weithio'n galed i gyflawni'r ardystiad hwn ar draws safleoedd y Pentref Chwaraeon a Gorsaf oherwydd roeddem eisiau dangos ein hymrwymiad i iechyd, diogelwch a chynhwysiant yn arbennig. Mae'n bwysig i ni bod aelodau yn deall cymaint yr ydym yn eu gwerthfawrogi a bod enwebiadau fel hyn yn rhoi dilysrwydd allanol i’r ymrwymiad hwnnw”
Dywedodd Huw Edwards, Prif Swyddog Gweithredol ukactive: "Mae'r galw am gyfleusterau ffitrwydd a hamdden ein cenedl yn tyfu'n gyflym wrth i fwy a mwy o bobl ledled y DU flaenoriaethu gweithgarwch corfforol ar gyfer eu hiechyd a'u lles. Bydd The Active Standard yn helpu mwy o bobl i deimlo'n hyderus eu bod yn gallu mwynhau holl fanteision bod yn egnïol mewn amgylchedd diogel a chynhwysol."