Gallai'r prosiect Sicrhau Chwarae Teg fod yn drawsnewidiol o ran deall gor-gynrychiolaeth plant ethnig amrywiol yn y System Cyfiawnder Ieuenctid, a'u tangynrychiolaeth mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl ymchwil newydd.

Heddiw, mae'r Tîm Ymchwil ym Mhrifysgol Birmingham wedi cyhoeddi ei adroddiad gwerthuso terfynol ar y prosiect, a gyflwynwyd mewn pedair ardal ledled y DU (Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr, De Swydd Efrog, a Chasnewydd) rhwng 2020 a 2023, ac mae’r gwaith o gyflwyno a datblygu’r prosiect ymhellach yn dal i fynd rhagddo.

Cafodd yr adroddiad 'Tystiolaeth Gefndir, Methodoleg a Chanfyddiadau'r Prosiect Sicrhau Chwarae Teg' ei ysgrifennu gan yr Athro Joan L Duda, Dr Hannah Hammond a Dr Paul Appleton, ac fe'i rhyddhawyd yn swyddogol mewn digwyddiad dathlu’r Prosiect Sicrhau Chwarae Teg yng Nghasnewydd.

Yn ystod y prosiect, ymgysylltodd dros 100 o sefydliadau partner Sicrhau Chwarae Teg â 35,672 o blant a phobl ifanc, gyda 63% ohonynt yn ethnig amrywiol. Ym mis Medi 2024 barnodd adroddiad y llywodraeth y prosiect yn 'addawol'.

Nododd ymchwilwyr fod y dull targedig hwn yn galluogi "lefel o benodoldeb ar ethnigrwydd" wrth fonitro a gwerthuso, sy'n ddigynsail yn y sector chwaraeon, ac sy'n golygu y gallai'r prosiect osod glasbrint ar gyfer cael "dealltwriaeth wybodus o ffyrdd o fanteisio’n llawn ar 'bŵer chwaraeon' yn fwy effeithiol i fynd i'r afael â throseddu".

Dywedon nhw hefyd: "Mae'r data demograffig a gasglwyd trwy gydol prosiect Sicrhau Chwarae Teg yn creu sylfaen hygyrch y gallwn adeiladu monitro, gwerthuso a dysgu arni, o ran anghymesuredd yn ein sectorau chwaraeon a chyfiawnder, ar raddfa, ar sail leol a rhanbarthol."

Dywedodd Justin Coleman, Prif Swyddog Gweithredu Cynghrair Chwaraeon mewn Cyfiawnder Troseddol a oruchwyliodd y prosiect: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Sefydliad Marathon Llundain, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Phrifysgol Birmingham am eu partneriaeth a'u hymroddiad hanfodol.

"Mae'r ymchwil arloesol hon, a gynhyrchwyd drwy angerdd dros 100 o sefydliadau a 1000 a mwy o staff sy'n gweithio mewn lleoliadau amlasiantaethol, yn dangos pŵer 'cysylltiad cyn cywiro' ac 'wynebau diogel mewn mannau diogel'."

Ychwanegodd Justin: "Mae'r saith argymhelliad allweddol yn yr adroddiad yn cynnig llwybr clir i gyflawni cydraddoldeb, cynyddu gweithgarwch corfforol a chryfhau cysylltiadau cymunedol gydol oes, ac yn allwedd i leihau anghydraddoldebau ac anghymesuredd mewn lleoliadau cyfiawnder ieuenctid. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n sicrhau chwarae teg."

Dywedodd Dr Hannah Hammond, o Brifysgol Birmingham: "Mae lansio'r adroddiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol, gan y bydd bellach ar gael i bawb ei ddarllen, myfyrio arno ac ymgysylltu ag ef cyn digwyddiad mwy o faint yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Rwy'n annog yn gryf yr holl randdeiliaid - boed hynny o chwaraeon, cyfiawnder ieuenctid, llunio polisïau neu ymgysylltu â'r gymuned - i ymchwilio i'r canfyddiadau, ystyried eu goblygiadau a herio eu hunain i feddwl yn feirniadol am eu hymatebion.

"Mae ein data yn darparu tystiolaeth gadarnhaol o'r beth a'r sut - gan daflu goleuni ar effeithiau Sefydliadau Cyflawni Arbenigol sy'n gweithio yn y Trydydd Sector. Mae'r ymchwil yn awgrymu bod y sefydliadau hyn, wrth weithredu o fewn fframwaith amlasiantaethol cadarn ar draws chwaraeon a chyfiawnder - fel yr un a hwylusir gan y prosiect Sicrhau Chwarae Teg - yn allweddol i 'sicrhau  chwarae teg' i bobl ifanc. Mae'r mewnwelediadau a gafwyd yn darparu sylfaen dystiolaeth hanfodol ar gyfer manteisio’n llawn ar bŵer chwaraeon i fynd i'r afael â throseddu a gwahaniaethau cymdeithasol."

Dywedodd Keith Fraser, Cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid: "Mae'r prosiect Sicrhau Chwarae Teg wedi rhoi gobaith, gan ddefnyddio chwaraeon i chwalu rhwystrau, hyrwyddo tegwch, a thrawsnewid bywydau dros 35,000 o blant—63% o gefndiroedd ethnig amrywiol. Mae'r adroddiad hwn yn darparu argymhellion i ymestyn effaith y prosiect, yr ydym yn eu harchwilio'n weithredol, gan gynnwys sut y gallwn helpu i rannu ei fewnwelediadau yn ehangach. Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn offeryn pwerus ar gyfer newid ac mae'r fenter hon yn amlwg wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant. Yn ei dro, bydd hyn yn cyfrannu tuag at gymunedau mwy diogel a thecach i bawb."

Dywedodd y Cynghorydd Laura Lacey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Mae'r dull partneriaeth a ddatblygwyd yng Nghasnewydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc ledled y ddinas. Rydym yn bendant wedi gweld bod bod yn rhan o'r prosiect wedi bod yn werth chweil, ac rydym yn gobeithio bod yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu'n eang."

Dywedodd Mike Diaper, Cyfarwyddwr Cyllido Grŵp ac Effaith Marathon Llundain: "Yn 2020, buddsoddodd Sefydliad Marathon Llundain £1 miliwn yn y rhaglen Sicrhau Chwarae Teg, ein buddsoddiad mwyaf mewn un prosiect ar y pryd. Roedd nod y rhaglen i gefnogi a gwella bywydau miloedd o blant ymylol trwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyd-fynd yn glir â'n gweledigaeth. Mae Sicrhau Chwarae Teg wedi dangos pŵer unigryw chwaraeon a gweithgarwch corfforol a'r effaith drawsnewidiol y gall ei chael ar fywydau plant a phobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl o ganlyniadau negyddol."

Yn y digwyddiad yng Nghasnewydd, rhannwyd adnoddau sydd wedi'u creu gan rwydwaith Sicrhau Chwarae Teg (gan gynnwys gweithwyr proffesiynol cyfiawnder ieuenctid a'r sector cymunedol) yn ystod y gwaith o gyflwyno'r prosiect ochr yn ochr â'r ymchwil. Mae’r rhain yn cynnwys: 

·       Pecyn Cymorth Arweinyddiaeth

·       Llyfr Chwarae Sicrhau Chwarae Teg

·       Ymchwil a phecyn cymorth

·       Ymchwil niwroamrywiaeth REDI

Diwedd

Ar gyfer golygyddion

·       Mae'r Gynghrair Chwaraeon mewn Cyfiawnder Ieuenctid yn elusen sy'n gweithio yn y DU a De-ddwyrain Asia i adeiladu systemau gwell mewn cyfiawnder troseddol a chwaraeon, gan greu bywydau iachach a chymunedau mwy diogel. Am ragor o wybodaeth ewch i allianceofsport.org neu e-bostiwch info@allianceofsport.org

·       Darllenwch adroddiad cryno ac adroddiad ymchwil Sicrhau Chwarae Teg, a chael gafael ar ffeithlun sy'n barod i'w argraffu.

·       Ewch i wefan y prosiect levellingtheplayingfield.org

·       Ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau a chyfleoedd cyfweld, gan gynnwys gyda sefydliadau cymunedol ar draws rhwydwaith AoS, cysylltwch â simon@allianceofsport.org neu ffoniwch 07736 162839