Newport leisure steel signing-14.jpg

Nodi carreg filltir bwysig ar gyfer canolfan hamdden newydd

 

 

 

 

 

 

Cynhaliwyd seremoni llofnodi dur heddiw wrth i’r gwaith o adeiladu canolfan hamdden a lles newydd y ddinas gyrraedd ei cham diweddaraf.

 

Llofnododd cynrychiolwyr o Gyngor Dinas Casnewydd, sy'n arwain y prosiect, Llywodraeth Cymru, Wynne Construction a Chasnewydd Fyw y trawst dur terfynol a fydd yn cwblhau fframwaith metel yr adeilad.

 

“Mae'n gyffrous iawn gweld y ganolfan yn ymffurfio,” meddai'r Cynghorydd Batrouni. “Fe fydd yn gyfleuster gwych lle gall trigolion o bob oed a gallu ymlacio, cael hwyl a chadw’n heini.”

 

Mae mwy na 55 y cant o'r costau'n cael eu talu gan gyllid allanol gan gynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a chyllid gan Lywodraeth y DU.

 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros dai a llywodraeth leol, Jayne Bryant: “Mae'n wych gweld y ganolfan hamdden a lles newydd hon, wedi'i hadeiladu i'r safonau amgylcheddol a chynaliadwyedd uchaf, yn datblygu mor dda.

 

“Dyna’n union beth y sefydlwyd rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ar ei gyfer: cefnogi prosiectau cymunedol a chynaliadwy sy’n helpu i roi bywyd newydd i ganol ein trefi.”

 

Mae'r ganolfan yn cael ei hadeiladu ar safle tir llwyd yng nghanol y ddinas, ger Afon Wysg, gan y cwmni Cymreig Wynne Construction.

 

Dywedodd Chris Wynne, rheolwr gyfarwyddwr Wynne Construction: “Mae'r tîm i gyd wedi cofleidio heriau'r safle unigryw hon, gan weithio ar y cyd i symud y prosiect ymlaen yn ddiogel ac yn effeithlon. Rydym yn falch iawn o fod yn darparu cyfleuster nodedig a fydd yn cefnogi iechyd a lles Casnewydd am genedlaethau i ddod.”

 

Dywedodd Kevin Ward, cadeirydd Casnewydd Fyw: "Mae heddiw yn garreg filltir arwyddocaol i'n dinas. Mae'r ganolfan newydd hon yn cynrychioli ein hymrwymiad i greu cymunedau iachach, mwy egnïol a chysylltiedig, ac mae'n ysbrydoledig gweld y weledigaeth yn dod yn realiti. Rydym yn falch o fod yn rhan o'r cyfleuster sero-net gwych hwn, a fydd o fudd i breswylwyr am genedlaethau i ddod."

 

Mae disgwyl i'r ganolfan newydd fod ymysg y cyfleusterau sero net cyntaf o’u math yn y DU, wedi'i phweru'n gyfan gwbl gan drydan o ffynonellau adnewyddadwy.

 

Mae offer chwarae hwyliog i blant, gan gynnwys sleidiau ac afon araf wedi'u cynllunio ar gyfer y pwll hamdden, gyda gwersi nofio a sesiynau ymarfer corff yn cael eu cynnal mewn pwll dysgu ar wahân.

 

Bydd y ganolfan yn cynnwys caffi ac ardal ymlacio, ystafell ffitrwydd, cyfleusterau newid modern a gofod gweithredol mawr ar gyfer pethau fel gweithgareddau grŵp a phartïon plant.

 

Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu'r adeilad newydd gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn cyn y gwaith gosod terfynol.