Gweithiwr annibynnol 12 mis: Cyflog oddeutu £12,000 y flwyddyn (£150 y dydd am tua 80 diwrnod. Un diwrnod a hanner yr wythnos i'w ddarparu'n hyblyg.)

Mae Gweithredu dros Blant, Maethu Cymru mewn partneriaeth â Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy Gronfa Loteri'r Celfyddydau, Iechyd a Lles ar gyfer prosiect celfyddydau arloesol i bobl ifanc sydd wedi profi trawma yn y blynyddoedd cynnar.

Nod y prosiect hwn yw cyflwyno pobl ifanc sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod i gyfleoedd celf a chrefft sy'n cyfoethogi eu creadigrwydd. Mae'r profiadau hyn yn hanfodol ar gyfer datblygiad iach, gan ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc hunanreoli a darganfod creadigrwydd eu hunain.

Mae rôl y Cydlynydd Creadigol yn gyfle 12 mis llawrydd, ac mae'n swydd allweddol o fewn y prosiect, yn gyfrifol am ddatblygu a chydlynu'r rhaglen gelfyddydau efo neu gyda’r gwasanaeth maethu. Bydd y gwasanaeth maethu yn darparu hyfforddiant therapiwtig, cefnogaeth a goruchwyliaeth wrth weithio gyda'r grŵp agored i niwed hwn.

Cynhelir y gweithgaredd yn yr 'Arts Space' Gweithredu dros Blant ym Mharc Beechwood ac yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd.

 

Disgrifiad Swydd:

· Trefnu, amserlennu a chydlynu rhaglen o weithgareddau celfyddydol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd maeth.

· Cyflwyno sesiynau celf / crefft yn eich set sgiliau creadigol eich hun.

· Trefnu bod atgyfeiriadau yn rhan o brosiect a chysylltu ag arweinwyr therapiwtig y gwasanaeth maeth wrth ddylunio'r prosiectau creadigol.

· Sicrhau bod gan artistiaid y profiad priodol a bod ganddynt wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon cywir.

· Darparu cefnogaeth i werthuswr y prosiect, a chasglu, olrhain a choladu set ddata y cytunwyd arni.

· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer casglu a dosbarthu gwybodaeth am y prosiect.

· Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y gwasanaeth maethu wrth ddylunio prosiectau

· Gweithio o fewn fframwaith Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. (Darperir hyfforddiant gan y gwasanaeth maethu)

 

Manyleb y Person:

· Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol

· Gallu cydlynu prosiect sydd â sawl agwedd iddo

· Gallu meddwl yn greadigol a meddu ar brofiad o drefnu gweithdai a gweithgareddau creadigol.

· Dull cynhwysol a llawn egni o weithio gyda phlant a theuluoedd

· Gwybodaeth am brosesau gweinyddu a gwerthuso.

· Ymarfer celfyddydol personol a'r gallu i gyflwyno sesiynau celf/crefftau creadigol

· Gwybodaeth am y sector celfyddydau

· Gwybodaeth am iechyd a diogelwch, diogelu, cynaliadwyedd a GDPR

· Ymrwymiad i ddysgu a gweithio o fewn dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma Gweithredu dros Blant.

· Yn fodlon teithio ar draws Casnewydd a'r ardal gyfagos yn ôl yr angen

 

Crynodeb o’r Telerau:

Lleoliad Gwaith: 'Arts Space' Gweithredu dros Blant ym Mharc Beechwood, Casnewydd NP19 8AJ ac yn Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd, NP20 1HG.

Yn atebol i: Martine Palmer

Oriau: 1.5 diwrnod yr wythnos (neu 12 awr)

Cyflog: £150 am ddiwrnod llawn / £75 am hanner diwrnod (tua £12,000 o fewn cyfnod 12 mis).

Yn cynnwys teithio i'r gweithle

I wneud cais am y swydd, anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich sgiliau a'ch profiad, gan gyfeirio at fanyleb y person, i FosteringWales@actionforchildren.org.uk erbyn 17 Awst 2025.

Cynhelir cyfweliadau ar 25th – 29th Awst 2025

Mae'r swydd yn amodol ar archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a dau eirda.

I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag Martine Palmer neu Matt Lewis ar 01633 420422