Riverfront summer season artwork

 

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o allu croesawu eu Tymor yr Haf gyda rhaglen wych ac amrywiol o weithgareddau yn cael eu cynnal rhwng Mai ac Awst 2022!

Gyda’r Tymor yr Haf cyntaf ers 2019, mae tîm Glan yr Afon wedi gwneud yn siŵr fod y misoedd nesaf yn orlawn o sioeau a digwyddiadau ar gyfer pob oedran ac o amrywiaeth o genres gan gynnwys comedi, dawns, drama, cerddoriaeth ac adloniant i'r teulu.

 

Mai

Yn lansio'r tymor Ddydd Sul 1 Mai fydd y cyflwynwyr anifeiliaid yr Animal Guyz a'u sioe deuluol ddoniol, ddifyr ac addysgol Animal Antics. Bydd eu sioe yn llawn effeithiau anifeiliaid, cerddoriaeth a chwerthin wrth i bypedau syfrdanol ac effeithiau arbennig ddod ag anifeiliaid hynod realistig a dinosoriaid anhygoel yn fyw ar y llwyfan.

I'r rhai sy'n hoff o gerddoriaeth, mae amrywiaeth o sioeau cerdd byw wedi'u trefnu gydol mis Mai a fydd yn cyflwyno nosweithiau o adloniant cerddorol o bob math o genres. I ffans cerddoriaeth yr '80au mae 80s Mania, Fastlove: Teyrnged i George Michael, You Win Again: Celebrating the Music of the Bee Gees a Showaddywaddy. Ni fydd selogion y Gitâr am golli Stori'r Guitar Heroes neu The Sound of Springsteen, ac mae yna hefyd nosweithiau gwych o gerddoriaeth gan The Simon & Garfunkel Story a Hello Again: A Tribute to Neil Diamond

Dau gomedïwr a fydd yn troedio'r llwyfan ym mis Mai eleni fydd Sean McLoughlin a Scott Bennett.  Gall y byd fod yn lle rhyfedd a brawychus ond nid oes angen i hynny eich digalonni. Dewch i eistedd mewn ystafell dywyll a gwrando ar jôcs gan "dalent unigryw a gwych" (The List) gyda Sean McLoughlin:  Mae Scott Bennett wedi ysgrifennu ar gyfer llawer o berfformwyr uchel eu proffil fel Chris Ramsey a Jason Manford, ac yn ddiweddar gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar Live at the Apollo ar BBC 1. Gyda galw mawr amdano fel awdur comedi a gydag ymddangosiadau rheolaidd ar The News Quiz a The Now Show ar BBC Radio 4, nid yw Scott Bennett: Great Scott yn sioe i'w cholli.

I gefnogwyr dawns, mae dwy noson o waith o ansawdd uchel gyda The Sanctuary neu Y Noddfa, a grëwyd gan y coreograffydd o Gymru Marcus Jarrell Willis.  Bydd y gwaith hwn yn ddawns ddeuawd un-act sy'n gwahodd y gynulleidfa ar daith fewnol i gofleidio eu noddfa – lle personol ar adeg pan fo lloches a llonyddwch yn bethau prin i’r ddynolryw. Bydd Y Noddfa yn cynnwys cyfansoddiadau ysgrifennu gwreiddiol gan yr awdur newydd o Gymru, Tomos O'Sullivan, a cherddoriaeth gan amryw o artistiaid o'r gwledydd hyn ac yn rhyngwladol, gan gynnwys cerddoriaeth wreiddiol gan y lleisydd Americanaidd, Lashondra Lankford.

Ym mis Mai eleni bydd sgwrs hefyd gan y saethwr a’r arweinydd SAS mwyaf profiadol, uchaf ei reng a mwyaf addurnedig ar y teledu yn An Audience with Mark ‘Billy’ Billingham.

 

Mehefin

Yn lansio mis Mehefin fydd Graeme Hall: The Dogfather. Am y tro cyntaf erioed, bydd perchnogion cŵn a chŵn bach yn cael cyfle i ofyn am gyngor gan 'hyfforddwr cŵn gorau gwledydd Prydain' (The Telegraph) ynglŷn â’u holl bryderon am gŵn. Mae'r sioe grefftus hon yn llawn triciau, atgofion, pethau annisgwyl i gynhesu'r galon, a holi ac ateb, oll wedi'u cyflwyno mewn lleoliad byw agos atoch a hamddenol.

Bydd cwmni theatr Arad Goch yn cyflwyno gwaith Cymraeg Twm Sion Cati. Bydd y cynhyrchiad yn mynd â chynulleidfaoedd ysgol ar daith i gyfnodau peryglus yr 16fed ganrif gyda chaneuon, cleddyfa a chwerthin. Bydd pobl ifanc hefyd yn mwynhau Twisted Tales, comedi wreiddiol newydd sbon gan Terry Deary (awdur Horrible Histories). Bydd hon yn sioe llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau annisgwyl, newid gwisgoedd cyflym a ffraethineb, wrth i’r gynulleidfa fwynhau’r straeon troellog hyn o gyfnodau a fu mewn un corwynt gwyllt

Wedi'i sbarduno gan ddarganfyddiad cyfres o lythyrau gan ei dad yn Nigeria i'w fam yng Nghymru mae drama The Gods Are All Here, yn berfformiad un dyn cymhellol, telynegol a chynnes gan y storïwr o'r radd flaenaf, Phil Okwedy.  Mae'r adrodd stori yma yn plethu myth, cân, llên gwerin a chwedlau’r diaspora Affricanaidd yn hynod fedrus gyda stori bersonol syfrdanol sy'n datguddio profiadau Phil o dyfu i fyny fel plentyn o dras ddeuol yng Nghymru’r 1960au a’r 70au.   

Ym mis Mehefin bydd Ballet Cymru yn dychwelyd gyda'u cynhyrchiad newydd sbon Dream. Bale newydd bywiog, ffres ac arloesol yw Dream sy'n seiliedig ar A Midsummer Night's Dream gan Shakespeare. Gan weithio gyda'r offerynnwr a'r cyfansoddwr arobryn Frank Moon, mae Ballet Cymru wedi creu byd o wyro rhywedd hudolus, o dylwyth teg, cariadon, a swyn hudol. Bydd yna berfformiad hamddenol a disgrifiad sain o Dream pan ddaw i Glan yr Afon ar 27 – 29 Mehefin.

Ar gyfer cefnogwyr comedi, bydd Alfie Moore: Fair Cop Unleashed yn ticio'r holl flychau cywir. Mae Fair Cop Unleashed yn seiliedig ar ddigwyddiad dramatig go iawn o lyfr achosion heddlu Alfie. Cyfle i ail-fyw gydag ef y noson lan a lawr llawn cyffro pan ddaeth clown dirgel i’r dref, gyda mwy nag un bywyd o’r herwydd yn y fantol. Mwynhewch frand unigryw Alfie o hiwmor wedi'i blethu'n ddoniol ynghyd â'i ddirnadaethau personol yn codi o’i fywyd ar reng flaen yr heddlu.

Bydd Cerddorfa Opera Canolbarth Cymru yn dychwelyd i'r llwyfan am y tro cyntaf ers tair blynedd gyda'u cyngerdd Dathliad Ganol Haf. Bydd y gerddorfa'n perfformio rhaglen o ffefrynnau hafaidd oesol o Mendelssohn i Finzi, Owain Llwyd a Vaughan Williams.

Bydd perfformiad matinee o A Day to Remember, i ddathlu bywyd a cherddoriaeth Doris Day. Gyda’r gantores arobryn Lynda Radford, mae'r cynhyrchiad canmlwyddiant arbennig hwn yn cynnwys ei pherfformiadau gyda rhai o ddynion mwyaf blaenllaw Hollywood, gan gynnwys Frank Sinatra, Dean Martin a Perry Como a John Denver

Daw mwy o gerddoriaeth fyw ym mis Mehefin gyda Back to Bacharach, Walk Right Back, Fleetwood Bac, The Upbeat Beatles, Ansell’s Les Musicals a Sun Records: The Concert.

 

Gorffennaf

Mae gorffennaf yn dechrau gyda gwahoddiad i gamu'n ôl i 1938 i glywed mam chwedlonol Ivor Novello yn canu ei ganeuon mwyaf poblogaidd ... ac ail-fyw'r digwyddiadau poenus a siapiodd ei bywyd a'i pherthynas ddiddorol â'i mab yn Novello & Son.

Daw ail ddrama An Indian Abroad gan Pariah Khan.Wedi'i fygu gan fywyd yn India’r dosbarth canol, mae Krishnan yn cymryd blwyddyn i ffwrdd er mwyn dod i Brydain i ganfod ei hun. Beth mae ei daith yn ei ddysgu iddo amdano’i hun ac am y byd? A beth fydd yn digwydd pan fydd yn cwympo mewn cariad ag un o’r brodorion?

I deuluoedd mae dwy sioe gyffrous iawn ym mis Gorffennaf eleni.  Milkshake! Mae Monkey yn ôl ac yn methu aros i gyflwyno sioe newydd gyda rhai o'i hoff Ffrindiau  Sgytlaeth! gan gynnwys Paddington, Daisy & Ollie, Noddy, Blues Clues & You ac wrth gwrs y Milkshake Monkey yn Milkshake Live! Daw stori dau fachgen ifanc nodweddiadol ddrygionus sy'n chwarae yn eu hystafell wely flêr yn fyw yn Chores sy'n cyflwyno dogn helaeth o gomedi ac acrobatics di-drefn.

Bydd yna noson arbennig iawn, i ddathlu brenhines canu gwlad, Dolly Parton a'r diweddar Kenny Rogers mawr yn Island in the Stream. Bydd y Bowie Experience yn gyngerdd ysblennydd i ddathlu sain a gweledigaeth David Bowie a bydd Total 90s yn gwasgu'r cyfan a oedd yn dda ac yn wych o siartiau pop y degawd yn brofiad llawn egni unigryw.

Gan rannu straeon doniol o reng flaen y byd addysg, bydd Two Mr P’s in a Podcast yn hel atgofion am ddyddiau ysgol y ddau Mr P ac yn bwrw golwg dros fyd gwych a doniol addysg. Bydd unrhyw un a aeth i'r ysgol yn mwynhau ac yn ymuniaethu â'r sioe newydd wych hon.

 

Awst

Bydd mis Awst yng Nglan yr Afon yn llawn gweithdai a dangosiadau sinema wrth i'r prif theatrau gael eu hailosod ac wrth i’r gwaith cynnal a chadw hanfodol fynd rhagddo er mwyn paratoi ar gyfer Tymor yr Hydref prysur a fydd yn cynnwys y panto cyntaf ers 2019!

Gall teuluoedd fwynhau Stars Live! a bydd y llwyfan yn cael ei osod ar gyfer y sioe dalent fwyaf erioed wrth i rai o'ch hoff sêr teledu plant droedio i'r llwyfan gan gynnwys Ben a Holly, PJ Masks, My Little Pony, Mr Monopoly a Mr & Mrs Potato Head!

Bydd digwyddiadau misol Glan yr Afon yn parhau yn ystod Tymor yr Haf. Cyngherddau Cinio yn arddangos cerddorion clasurol ifanc o Sinfonia Cymru a Cerdd Fyw Nawr ar ddyddiau Mercher cyntaf y mis mewn cyngherddau awr o hyd yn arddangos cerddorion sy'n cynnwys cantorion, feiolinwyr a thelynorion. I rieni newydd mae Aftermith ar ddydd Mawrth olaf y mis.  Mae'r clwb comedi hwn yn ystod y dydd wedi'i anelu'n benodol at rieni plant dan 18 mis oed, gan ddarparu adloniant comedi y mae mawr ei angen arnynt a hynny yn ystod y dydd heb orfod poeni am ddod o hyd i warchodwr. Bydd ein clwb comedi misol gyda'r hwyr Comedy Shed yn parhau ar ddydd Gwener olaf y mis wrth i gomedïwyr gan gynnwys Eleri Ward, Tom Morgan, Raj Poojara ac Elliot Steel fentro i'r llwyfan.

Yn ogystal â'r holl sioeau gwych hyn, bydd gan Glan yr Afon weithdy a rhaglen sinema wythnosol brysur hefyd a bydd yn parhau â'i raglenni allgymorth cymunedol yn ystod y Tymor yr Haf hwn. I gael gwybod mwy am bopeth sydd ar y gweill yng Nglan yr Afon ac i archebu eich tocynnau ewch i Canolfan Theatr a Chelfyddydau Glan yr Afon | Calon byd celfyddydol Casnewydd (newportlive.co.uk).