Wrth i dymor bywiog a chyffrous yr haf ddirwyn i ben, rydym yn edrych yn ôl ac yn dathlu'r holl sioeau, digwyddiadau a gweithgareddau gwych a gynhaliwyd yng Nglan yr Afon yn ystod mis Gorffennaf ac Awst. Roedd yr haf yn llwyddiant ysgubol a ddaeth â chymunedau, creadigrwydd ac achosion ynghyd drwy berfformiadau gwefreiddiol ac allgymorth cymunedol wrth i Glan yr Afon ddangos unwaith eto ei hymrwymiad i feithrin y celfyddydau, adloniant a chynwysoldeb ledled Casnewydd.

 

Perfformiadau

Cafwyd llawer o adloniant amrywiol yn nwy theatr Glan yr Afon yr haf hwn. Cyflwynodd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru noson wych o gerddoriaeth glasurol yn eu cyngerdd Music from the Heart a oedd yn llawn arias, deuawdau a pherfformiadau cerddorfaol gwych gan Verdi, Puccini, Tchiakovsky a mwy. Cyflwynodd Keith James gyngerdd i ddathlu caneuon Leonard Cohen, a rhoddodd Aulus Duo o Live Music Now berfformiad ffliwt a gitâr hudol yng Nghyngerdd Amser Cinio olaf yr haf. Cawsom ymweliad gan Dragma a'i Hwyresau o House of Deviant, unig griw drag Cymru ag anabledd dysgu sy'n defnyddio perfformiad drag fel cyfrwng i archwilio hunan-barch ac ymreolaeth gydag oedolion sydd ag anableddau dysgu, ar gyfer noson wyllt a hynod ddifyr arall o gomedi. Nid oedd teuluoedd yn brin o adloniant drwy gydol mis Awst oherwydd cafwyd amrywiaeth o berfformiadau addas i blant o bob oed gan gynnwys yr hudol a'r rhyfeddol Dragons and Mythical Beasts, sioe CBeebies Sarah and Duck sydd wedi ennill BAFTA, ac addasiad gwyllt o stori dylwyth teg annwyl Sleeping Beauty a Super Sheep Adventure.

 

Cyd-gynhyrchu

Roedd Glan yr Afon yn falch iawn o gydweithio â Catherine Dyson, Hannah McPake a Dyfan Jones i gyd-gynhyrchu a chyflwyno drama newydd gyda chaneuon o'r enw Bitcoin Boi, fis Gorffennaf. Yn agos at galon llawer o aelodau staff, dechreuodd y prosiect hwn yng Nglan yr Afon yn 2020 a daeth yn fyw eleni yn y theatr stiwdio. Gyda gemau, arian crypto, cerddoriaeth electro wreiddiol gan Dyfan Jones, roedd y stori hon a dyfwyd yng Nghasnewydd yn archwilio themâu galar, gobaith a gwir bris y breuddwydion a werthir i ni. Roedd y cynhyrchiad yn ddarn hynod o effeithiol o waith a gyfareddodd aelodau o'r gynulleidfa.

Roedd yn bleser cynnal lansiad y sioe a chroesawu gweithwyr proffesiynol amhrisiadwy y diwydiant i wylio talent anhygoel y cast a'r tîm creadigol. Mae dyfodol Bitcoin Boi yn bendant yn un i'w wylio!

 

Sinema

Unwaith eto, rhaglennodd Sinema Glan yr Afon ystod amrywiol o ffilmiau dros yr haf. Roedd cefnogwyr cyffro-antur wrth eu bodd gyda Spider-Man: Across the Spider-verse, Transformers: Rise of the Beasts, Mission Impossible: Dead Reckoning Part One ac Indiana Jones and the Dial of Destiny. Cafwyd dangosiadau llawn o ffilm fyw Disney The Little Mermaid, dangosiadau o ffilm newydd sbon Disney, Elemental, ac i ddathlu pen-blwydd Disney yn 100 oed y clasur Cinderella. Cafwyd dangosiadau o Asteroid City a osodwyd mewn tref ddiffaith Americanaidd ffuglen tua 1955 a darganfu Ruby Gillman, Teenage Kraken ei bod yn ddisgynnydd uniongyrchol i freninesau’r rhyfelwr Kraken ac mae disgwyl iddi etifeddu'r orsedd oddi wrth ei mam-gu, Brenhines Ryfelgar y Saith Môr.

 

Sblash Mawr

Yn ôl eto ar gyfer 2023, dychwelodd Sblash Mawr i strydoedd Casnewydd ddiwedd mis Gorffennaf am benwythnos gwych o weithgareddau i'r teulu, theatr stryd, cerddoriaeth fyw, celf a chrefft a chymaint mwy. Gŵyl Sblash Mawr yw'r ŵyl gelfyddydol awyr agored AM DDIM fwyaf yng Nghymru ac unwaith eto denodd filoedd o ymwelwyr i'r ddinas.

Trodd Glan yr Afon yn Splashtonbury a chafodd ei llenwi â gweithdai, celf a chrefft, cerddoriaeth fyw, paentio wynebau, modelu balŵns a mwy. Denodd The Celebrate Stage yn y Big Wave dorfeydd i wylio cerddorion lleol, grwpiau dawns, arddangosiadau Zumba, gan arwain at ddiweddglo gan yr anhygoel Aleighcia Scott. Yn newydd sbon ar gyfer 2023, roedd pabell gloch wych draw yn PDC a ddaeth yn gartref i Fardd Plant Cymru, Connor Allen a'i sesiynau adrodd straeon. Croesawodd John Frost Square ac Usk Plaza ystod o berfformwyr anhygoel a chyffrous o Hello Buoys! i'r Giant Balloon Show, Swan in Love i The Man on the Moon. Draw ar Commercial Street fe allech chi weld perfformwyr gan gynnwys y band pres anhygoel, Wonderbrass a'r bobl ifanc wych o G Expressions yn perfformio fel rhan o Ganu Stryd Sblash Mawr. Roedd The Place yn rhan fawr eleni. Trodd y lleoliad yn ganolfan celf a chrefft dros dro a daeth yn gartref i nifer o berfformiadau gan Defying Gravity Academy hyd yn oed.

Hoffai Glan yr Afon ddiolch unwaith eto i gyllidwyr a phartneriaid Casnewydd Fyw, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Newport Now, Friars Walk, Le Pub, Loyal Free, Newport Bus, Alacrity Foundation, Articulture, Tin Shed Theatre Co, Mercure Hotel a The Place am eu cefnogaeth i wneud i wireddu Sblash Mawr eleni.

 

Digwyddiad Hinsawdd

Canol Gorffennaf gwahoddodd Glan yr Afon y gymuned a gweithwyr proffesiynol diwydiant i ddod at ei gilydd i drafod sut y mae'r diwydiant theatr yng Nghymru yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn y digwyddiad Theatr Cymru a'r Argyfwng Hinsawdd cyntaf erioed. Daeth ystod o siaradwyr gwadd ynghyd â straeon am lwyddiannau a methiannau, cynnydd a heriau, wrth i bawb rannu eu meddyliau a'u syniadau o greu theatr wrth gadw cynaliadwyedd wrth wraidd y gwaith.

 

Gweithdai’r Haf

Ar gyfer pobl ifanc sy’n dymuno mireinio’u sgiliau creadigol, cynhaliodd Glan yr Afon amrywiaeth o weithdai, o Sesiynau Ysgrifennu Dramâu Cymraeg a Saesneg gyda Theatr Iolo i’r Tots Disco wythnosol ar thema arbennig a sesiynau crefft. Roedd Gweithdai Gwnïo Oh Susannah yn llawn unwaith eto ac roedd gweithgareddau celf a chrefft am ddim yn yr oriel bob dydd Iau. Cynhaliodd Nomah Dance sesiwn blasu ar gyfer eu dosbarthiadau dawnsio cyfoes. Roedd y sesiwn yn llawn o gerddgarwch a hwyl ac yn lle gwych i bobl ifanc ddechrau ar eu taith i fyd dawns neu ddatblygu eu sgiliau ymhellach a dysgu rhywbeth newydd. Mae dosbarthiadau Nomah Dance yn dechrau yn yr hydref gyda dosbarth wythnosol ar gyfer plant 7 – 11 oed.

Cynhaliodd Tin Shed Theatre Co a Glan yr Afon wythnos o Ysgol Haf Theatr Ieuenctid HATCH yn The Place. Roedd y gweithdai dyddiol llawn hwyl a chreadigrwydd yn cynnwys dysgu sgiliau wrth chwarae gemau a pherfformio, gan roi lle i bobl ifanc fynegi eu hunain, magu hyder, gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl. Cynhaliodd Tin Shed Lle Creu hefyd, sef grŵp ymgynghorol Cymraeg gyda phwyslais penodol ar y celfyddydau a gweithgareddau creadigol drwy'r Gymraeg, diwylliant Cymraeg, y celfyddydau gweledol a Cherddoriaeth Werin Cymru. Bydd Lle Creu yn parhau ar 23 Medi a 31 Hydref.

 

Diwrnod y Wasg ar gyfer y Panto

Ganol mis Awst, daeth cast pantomeim Glan yr Afon Beauty and the Beast at ei gilydd am y tro cyntaf erioed ar gyfer diwrnod cyffrous o weithgareddau. Treuliodd y tîm y diwrnod yn ffilmio cynnwys ac yn tynnu lluniau ar gyfer y poster a'r rhagflas newydd a fydd yn cael eu rhyddhau yn fuan iawn! Yn y cyfamser, gallwch ddarllen y cyfan am bwy yw cast y panto eleni ar ein gwefan yma: https://www.newportlive.co.uk/cy/Newyddion-a-Digwyddiadau/riverfronts-2023-pantomime-cast-has-been-announced/

 

Merched yn Meddiannu’r Haf

Croesawodd Glan yr Afon gyfranogwyr timau Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw Merched yn Meddiannu... yr Haf ar gyfer amrywiaeth o sesiynau chwaraeon, ffitrwydd a lles dros yr haf. Roedd y sesiynau hwyliog a grymusol hyn ar draws y 6 wythnos o wyliau haf yn benodol ar gyfer merched ifanc 12 - 18 oed. Yng Nglan yr Afon cymerodd y merched ifanc ran mewn sesiynau Pound Fit a Kettlebells, gwnaethant ymuno â sesiwn grefftau gwneud pompom ac yna mynd ar daith gerdded 3k ar hyd glan yr afon.

 

Allgymorth cymunedol

Estynnodd effaith Glan yr Afon yr haf hwn ymhell y tu hwnt i'r llwyfan a'r adeilad ei hun o ganlyniad i ystod o weithgareddau allgymorth a gynhaliwyd ar draws y gymuned gydag amrywiaeth o wahanol grwpiau.

Cynhaliodd Heidi Mehta, ymarferydd celfyddydau Glan yr Afon, sesiynau celf yr haf yn ffair haf Canolfan Blant Seranau, ac yng Ngŵyl Maendy cafwyd gweithgareddau celf a chrefft yn ogystal â gweithdy DJ Hip hop gyda Tommy Boost a Dj Bad Meaning Good.

Cynhaliodd Glan yr Afon gyfres o 6 gweithdy gweithgareddau celfyddydol yng nghanolfan Llamau yng Nghasnewydd, elusen sy'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd. Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys gwneud baneri ar linyn, cerfluniau bach a gwaith dyfrlliw. Cynhaliodd y cwmni theatr Flossy and Boo sesiynau drama allgymorth gyda Llamau hefyd.

Wrth arwain at Sblash Mawr cafwyd sesiynau côr yn y Ganolfan Gap yn benodol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, dan arweiniad arweinydd côr a oedd yn y system lloches ei hun. Cefnogir y sesiynau hyn gan diwtor Côr Take a Breath Laura, a byddant yn parhau i'r hydref. Parhaodd sesiynau côr wythnosol eraill gyda Cascapella a Chôr Byd-eang Oasis dros yr haf.

Ymunodd Glan yr Afon â Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd hefyd i redeg clwb ffilmiau dydd Sadwrn drwy gydol yr haf, gan gynnig cyfle i'r grwpiau hyn ddod draw i fwynhau ffilm newydd ei rhyddhau na fyddant fel arall yn cael cyfle i'w gweld.

 

Cefnogaeth Ymchwil a Datblygu

Parhaodd Glan yr Afon i gynnig eu cefnogaeth a'u harweiniad i dri artist lleol dros fisoedd yr haf, a oedd yn preswylio yn yr adeilad i weithio ar ymchwil a datblygu darnau theatrig newydd.

Gweithiodd yr artistiaid lleol Laura, Carla, Lubi a Gareth o'r cwmni Heinecke/Clark ar eu darn newydd o'r enw "Feierlichkeiten zur Beerdigung des Kapitalismus" / "Celebrations at The Funeral of Capitalismus", cydweithrediad Cymru / Yr Almaen. Yn dilyn eu cyfnod Ymchwil a Datblygu, cynhaliodd y grŵp ddigwyddiad rhannu a gwahodd eu cynulleidfa i rannu eu meddyliau drwy drafodaeth dywysedig am sut rydym yn symud ymlaen, rhyddhau gafael a meddwl am fyw'n wahanol.

Artistiaid lleol eraill a gefnogwyd gan Glan yr Afon yr haf hwn oedd Jeremy Linnell gyda'i ddarn Truthformation a Justin Teddy Cliffe gyda'i ddarn Happinessless.

 

Gallwch ddysgu mwy am yr holl sioeau, dangosiadau, digwyddiadau a gweithdai gwych sy'n dod i Glan yr Afon yn yr hydref ac archebu’ch tocynnau yn https://www.newportlive.co.uk/cy/Theatr-a-Chelfyddydau/Perfformiadau/