Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Gŵyl y Sblash Mawr ar ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Gorffennaf.

 

Ynglŷn â Gŵyl y Sblash Mawr

Mae'r Sblash Mawr yn ŵyl sy'n addas i deuluoedd sy'n digwydd yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ac ar strydoedd dinas Casnewydd, dros benwythnos 23-24 Gorffennaf 2022.

Mae'r penwythnos yn llawn perfformiadau theatr stryd cyffrous a llawn cyffro gan artistiaid o Gasnewydd, a gweddill Cymru a'r DU yn ogystal â gweithdai, cerddoriaeth fyw, stondinau a pherfformiadau cymunedol. Cynhelir yr ŵyl rhwng 11am a 5pm. 

Trefnir y Sblash Mawr gan dîm Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon sy'n rhan o'r ymddiriedolaeth elusennol, Casnewydd Fyw. Fe'i hariennir gan Casnewydd Fyw, Cyngor Celfyddydau Cymru ac fe'i noddir gan Friars Walk ac Ardal Gwella Busnes Casnewydd.

 

Manteision Gwirfoddoli

  • Bod yn rhan o dîm lleol o bobl frwdfrydig ac angerddol mewn digwyddiad sydd wrth galon y ddinas

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn y sector celfyddydau awyr agored

  • Ennill profiadau newydd a chefnogi eich datblygiad gyrfa

  • Helpu i roi cyfle gwych a chelfyddydol i bobl Casnewydd

  • Cefnogi lles pobl Casnewydd

 

Beth fydd angen ei wneud fel gwirfoddolwr

Mae gwirfoddolwyr yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno gŵyl y Sblash Mawr.  Byddwch wedi'ch lleoli mewn parth (sy'n debygol o fod yn yr awyr agored) ar safle'r ŵyl a byddwch yn cael eich rheoli gan Arweinydd Parth dynodedig a fydd yn rhoi amrywiaeth o wahanol weithgareddau i chi eu gwneud i gefnogi'r ŵyl gan gynnwys:

  • Cynorthwyo perfformwyr i leoliadau

  • Monitro eich ardal a gweithio gydag Arweinydd y Parth, stiwardiaid a chydweithwyr eraill i sicrhau bod y parth yn rhedeg yn esmwyth

  • Rhannu gwybodaeth gyda mynychwyr a chynulleidfaoedd yr ŵyl a'u helpu

  • Cynrychioli Glan yr Afon a Chasnewydd Fyw

  • Rhoi gwybodaeth am yr ŵyl i aelodau'r cyhoedd

Bydd angen i chi fynychu sesiwn hyfforddi 2 awr yn gynnar ym mis Gorffennaf. Bydd angen i chi fod ar gael am 4 awr dros benwythnos y Sblash Mawr.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio?

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig, gyfeillgar a dibynadwy 18 oed a hŷn i fod yn rhan o'n tîm gwirfoddolwyr.

Os hoffech fod yn rhan o dîm gwirfoddolwyr y Sblash Mawr eleni, llenwch ffurflen gais gyda'ch manylion a'ch argaeledd a'i hanfon i'r riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk.

 

lawrlwytho ffurflen gais