Lady in orange sequin outfit with yellow feathered  headress  Man dressed as a large kangaroo

 

Ar ôl bwlch o ddwy flynedd, mae Casnewydd Fyw a Glan yr Afon wrth eu bodd yn cyhoeddi y bydd eu gŵyl theatr stryd deuluol boblogaidd Sblash Mawr yn dychwelyd i strydoedd Casnewydd yr haf hwn ar ddydd Sadwrn 23 a Dydd Sul 24 Gorffennaf.

Bydd yr ŵyl unwaith eto'n rhyfeddu, yn difyrru ac yn diddanu pobl leol ac ymwelwyr o bob oed gyda'r gweithgaredd celfyddydol gwych sydd ar gael gan gynnwys theatr stryd, bysgio, gweithdai a gweithgareddau celf a chrefft, i gyd i’w mwynhau am ddim.

Bydd perfformiadau mewn nifer o barthau ar hyd a lled canol y ddinas gan gynnwys rhodfa'r afon, Sgwâr John Frost a Commercial Street wrth i Gasnewydd gael ei thrawsnewid yn llwyfan awyr agored mawr. Fel bob amser bydd Glan yr Afon ei hun yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan deuluol Splashtonbury, yn annog y teulu cyfan i gymryd rhan yn y celfyddydau a chreadigrwydd.

Ymhlith uchafbwyntiau'r ŵyl yn 2019 roedd Dizzy O'Dare yn bownsio y tu mewn i'w falŵn gwyrdd enfawr, crwban enfawr cyfeillgar iawn o'r enw Zelda, a Whimsy, darn dawns hyfryd gan Krystal S Lowe. Cafodd cynulleidfaoedd eu swyno wrth i'r Band at the End of the World berfformio set o gerddoriaeth egnïol, bywiog a theimladwy ar adegau, ac fer berodd dau jukeboxes dynol enfawr i ymwelwyr ganu a dawnsio i amrywiaeth o alawon clasurol.

Bydd gwybodaeth am yr holl berfformwyr fydd yn y Sblash Mawr  2022 yn cael ei rhyddhau cyn bo hir, ond mae Glan yr Afon a'u phartneriaid yn addo dod â rhai ffefrynnau Glan yr Afon yn ôl yn ogystal â pherfformiadau newydd a chyffrous i'w mwynhau. Bydd cerddoriaeth fyw, gweithdai, perfformiadau cymunedol ac wrth gwrs amrywiaeth eang o weithgareddau theatr stryd amrywiol yn diddanu pobl a phlant o bob oed.  Unwaith eto, mae Glan yr Afon yn falch iawn o fod yn bartner gyda Le Pub yng Nghasnewydd eleni i ddod â'r Bysg y Sblash Mawr yn ei ôl.

Mae Sblash Mawr 2022 yn bosibl diolch i gyllid hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chasnewydd Fyw, yn ogystal â nawdd gan Friars Walk ac Ardal Gwella Busnes (AGB) Casnewydd Nawr. Mae cyfleoedd noddi ar gael o hyd ar gyfer yr ŵyl eleni. Os hoffech noddi'r ŵyl, e-bostiwch marketing@newportlive.co.uk.

Dywedodd rheolwr yr AGB, Kevin Ward: 'Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r Sblash Mawr eto. Mae wedi dod yn un o brif ddigwyddiadau calendr canol y ddinas ac yn denu cwsmeriaid mawr eu hangen i’r Ardal Gwella Busnes i wylio’r perfformiadau stryd penigamp.’ Mae hiraeth mawr wedi bod am yr ŵyl dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf felly mae'n wych ei gweld yn dychwelyd eleni.'

Dywedodd Simon Pullen, Cyfarwyddwr Canolfan Friars Walk, 'Mae’r Sblash Mawr bob amser yn dod ag egni gwych i'r ddinas, ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Glan yr Afon unwaith eto i gefnogi'r gymuned greadigol yng Nghasnewydd a'r cyffiniau. Bydd Friars Walk yn ganolbwynt go iawn i'r digwyddiad, gyda Sgwâr John Frost a Plaza Brynbuga yn darparu mannau perfformio gwych ar gyfer y theatr stryd.'

Dywedodd Pennaeth Theatr, Celf a Diwylliant Glan yr Afon, Gemma Durham: 'Rydyn ni i gyd mor gyffrous i weld Sblash Mawr yn dychwelyd yr haf hwn a rhoi cychwyn ar haf llawn gweithgarwch teuluol. Ar ôl methu â chynnal yr ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at ystod wych o weithgareddau a digwyddiadau celfyddydol gyda phobl o bob rhan o Gasnewydd, ac rydyn ni mor ddiolchgar i'r arianwyr a'r partneriaid sy'n ei gwneud yn bosibl. Fel bob amser, rydyn ni’n ymfalchïo mewn rhaglen ŵyl i bawb, sydd â gweithgareddau ar gyfer plant a phobl o bob oed.  Gobeithio y gwelwn ni chi yno dros yr haf!'

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Sblash Mawr 2022 gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol, facebook.com/bigsplashnewport a Twitter @BigSplashFest, ac yn ymweld â newportlive.co.uk/SblashMawr. Bydd perfformwyr cyntaf y penwythnos yn cael eu datgelu cyn hir!