Bws Beicio Momentwm
Gweld Amserlen y Bws Beicio
Ymunwch â'r Bws Beicio Momentwm!
Ydych chi'n meddwl am feicio i'r gwaith ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Mae Bws Beicio Momentwm yma i helpu! Gan ddechrau ddydd Llun 1 Medi 2025, mae'r daith grŵp misol hon yn cynnig ffordd ddiogel, gefnogol a hwyliog o gymudo ar feic.
Beth yw'r bws beicio?
Mae'r Bws Beicio yn grŵp o feicwyr sy'n dilyn llwybr penodol - yn union fel bws arferol! Gallwch ymuno ar safle ger eich cartref a gadael yn agos at ben eich siwrnai. Mae'n ffordd wych o fagu hyder, cwrdd â chyd-gymudwyr, a mwynhau manteision beicio heb fynd ar eich pen eich hun.
Ble a Phryd?
- Rhediadau: Dydd Llun cyntaf pob mis (Medi a Hydref ac yn ailddechrau eto ym mis Mawrth 2026).
- Llwybr: Yn dechrau yng Nghaerdydd, yn mynd trwy Dreferch, Llaneirwg, Parc Imperial, a Chanol Dinas Casnewydd, gan orffen yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.
- Gweler y map llwybr manwl, ble mae’n stopio ac amseroedd.
- Dan arweiniad: Willoughby o Dîm Momentwm – arweinydd beicio angerddol a phrofiadol.
Pam Ymuno?
- Magu hyder yn beicio mewn traffig.
- Lleihau eich ôl troed carbon, arbed hyd at 300g o CO₂ y filltir!
- Rhoi hwb i'ch hwyliau a'ch lles.
- Dod i gwrdd â phobl o'r un anian
- Cael mwy o weithgarwch i'ch diwrnod gwaith.
Pwy Gaiff Ymuno?
- Ar agor i bawb dros 16 oed.
- Croeso i e-feiciau (beicio ar gyflymder y grŵp)
Beth Fydd ei Angen Arnoch
- Beic sy'n gweithio.
- Goleuadau beic (ar gyfer gwelededd).
- Argymhellwn ddod â dŵr, helmed, a dillad gwelededd uchel.
- Dewisol: byrbrydau, meddyginiaethau, ac agwedd gadarnhaol!
Angen Help?
- Dim beic? Mae llogi beiciau ar gael gan Momentwm.
- Angen trwsio beic? Ymunwch â'n sesiwn Trwsio Beic.
- Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost i: Momentwm@NewportLive.co.uk
Cwestiynau Cyffredin
Sut mae ymuno?
Mae Bws Beicio Momentwm yn rhad ac am ddim, gallwch e-bostio neu archebu eich lle ar ein gwefan neu ap fel ein bod yn gwybod i ddisgwyl i chi. Neu dewch draw yn syth i’r "safle bws" dynodedig ac ymunwch â'r grŵp pan fydd yn pasio. Arhoswch y tu ôl i'r arweinydd taith a chadw pellter diogel.
Ydy e’n ddiogel?
Ydy! Mae'r llwybr yn cael ei asesu am risg ac yn cael ei arwain gan arweinydd hyfforddedig gyda chymorth cyntaf ac offer.
Fydda i’n gallu cadw i fyny?
Yn bendant. Mae'r cyflymder yn araf ac yn sefydlog - bws beicio yw hwn, nid ras.
Pa fath o feic sydd ei angen arna i?
Unrhyw fath, cyn belled â'i fod mewn cyflwr gweithio da.
Barod i Feicio?
Archebwch eich lle nawr neu am fwy o wybodaeth e-bostiwch Momentwm@NewportLive.co.uk.