Isod, cewch atebion i'r cwestiynau a ofynnir amlaf am Fframwaith Dysgu Nofio Cymru a ddefnyddiwn ar gyfer ein gwersi nofio.

Pam dewis Fframwaith Dysgu Nofio Cymru?

Drwy ddewis Fframwaith Dysgu Nofio Cymru gall darparwyr a rhieni ddisgwyl rhaglen amrywiol ac felly sesiynau gwell sy'n cadw plant yn rhan o'r broses dysgu nofio.  Dysgu Nofio Cymru yw'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer Nofio yng Nghymru. Mae eu rhaglen wedi'i chynllunio gan arbenigwyr yn y diwydiant sy'n cwmpasu pob oedran a gallu. Mae'r llwybr yn ymgorffori'r holl ddisgyblaethau dyfrol ac yn ehangu'r cyfleoedd sydd ar gael i blant. 

Beth yw Fframwaith Dysgu Nofio Cymru?

Rhaglen a argymhellir yn genedlaethol ar gyfer cyflwyno gwersi dysgu nofio yw Fframwaith Dysgu Nofio Cymru. Mae'r Fframwaith yn cwmpasu'r holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gweithgareddau a disgyblaethau dyfrol, gan ddechrau gyda dosbarthiadau hyder dŵr i Oedolion a Phlant hyd at gyfranogiad cystadleuol cynnar mewn clybiau dyfrol a chyfranogiad ffitrwydd. Mae'r rhaglen yn ymgorffori'r holl sgiliau symud a dŵr sylfaenol a gydnabyddir, y pedwar strôc, goroesi personol a diogelwch dŵr.

Nod Fframwaith Dysgu Nofio Cymru yw sicrhau, waeth beth fo'r ffactorau neu'r amgylchiadau gwahaniaethol, y gall pob plentyn ddysgu sut i nofio ac felly y gall ddewis gweithgareddau dyfrol fel rhan o ffordd iach o fyw. 

Beth yw adrannau Fframwaith Dysgu Nofio Cymru?

Mae 5 adran yn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru: 

Swigod - Mae Swigod yn gyflwyniad i’r amgylchedd dŵr gyda chefnogaeth lawn i fabanod a phlant ifanc sydd yng nghwmni oedolyn, wedi’i anelu’n benodol at blant 0-3 blwydd oed.  

Sblash - Mae Sblash yn annog plant ifanc i ddod yn fwyfwy annibynnol, ac i ddarganfod yr amgylchedd dŵr dan gyfarwyddyd, er mwyn datblygu eu hyder yn y dŵr. Mae wedi’i anelu at blant 3+ oed.  

Y Don - y brif ardal 'Dysgu Nofio'. Mae plant sy'n 4/5 oed fel arfer yn cael y sgiliau nofio a dyfrol angenrheidiol i ddysgu sut i nofio, sgiliau i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyfrol eraill fel polo dŵr a hefyd maent yn cael sgiliau diogelwch dŵr hanfodol fel eu bod yn dysgu sut i fod yn ddiogel mewn dŵr ac o'i amgylch.

Sgiliau – Mae'r rhan hon o'r llwybr yn gwyro tuag at  ddisgyblaethau dyfrol amrywiol nofio, polo dŵr, plymio, nofio cydamserol ac achub bywydau. Caiff sgiliau a addysgir yn y Don eu datblygu gyda phwyslais penodol ar fod yn benodol i ddisgyblaeth. Gellir cyflwyno'r dosbarthiadau hyn naill ai mewn rhaglen Dysgu Nofio neu fel rhan o gyflwyniadau clybiau. 

Nofio Ysgol – Dyma gynllun nofio ysgolion Cymru yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae 8 lefel o asesu ar gyfer Nofio Ysgol.  Mae'r lefelau hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â Thonnau Dysgu Nofio Cymru y bydd nofwyr yn gweithio tuag atynt.

Beth yw’r cynllun gwaith ar gyfer Fframwaith Dysgu Nofio Cymru?

Wythnos         Prif Thema                                  Gweithgaredd cyferbyniol

1 a 6         Techneg nofio yn eich blaen                      Arnofio/cylchdroi/lliflinio

2 a 7         Techneg nofio ar eich cefn                         Neidio/teithio 

3 ac 8        Techneg pili-pala                                        Arnofio/Diogelwch dŵr

4 a 9          Techneg nofio ar y frest                              Rhodli/troedio dŵr

5 a 10        Techneg Ras Gymysg Unigol/Aml-strôc     Aml-sgiliau 

Faint o amser y bydd yn ei gymryd i'm plentyn ddysgu sut i nofio?

Pa mor hir yw darn o linyn?  Fel unrhyw sgiliau newydd a ddysgwn, mae gwahanol bobl yn treulio mwy o amser na’i gilydd i’w dysgu, ac yn ei chael hi'n haws dysgu rhai sgiliau nag eraill. Os bydd eich plentyn yn cael mwy o amser yn amgylchedd y pwll nofio y tu allan i wersi, mae'n debygol iawn y bydd yn symud ymlaen yn gyflymach gan y bydd yn cael cyfleoedd ychwanegol i ymarfer, ac yn y cyfnod cynnar bydd yn cynyddu ei hyder gyda’i ffrindiau a theulu agos o’i amgylch. Argymhellir bod pob canolfan yn cofnodi'r dyddiad y mae nofiwr yn dechrau pob Ton ac os oes angen, yn nodi ffyrdd o gefnogi unrhyw nofwyr sydd mewn unrhyw Un Don am fwy na 40 wythnos.

A fydd newid yng nghostau gwersi nofio?

Pris bloc 10 wythnos o wersi nofi yw £48.  Mae gennym opsiwn debyd uniongyrchol sydd yn well gan lawer o rieni a gofalwyr. Mae’n £20 y mis, sy'n daladwy ar yr 1af o'r mis; neu'r diwrnod agosaf ar ôl yr 1af os yw hwnnw ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul. Mae mantais ychwanegol o dalu drwy ddebyd uniongyrchol gan eich bod hefyd yn cael manteisio am ddim ar gadw lleoedd ar gyfer sesiynau nofio cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i ddatblygu eich sgiliau nofio ymhellach.

A fydd newid yn hyd y gwersi nofio?

Bydd gwersi nofio yn parhau yn 30 munud yn unol â chanllawiau cyfredol y diwydiant.

Sut bydd hyn yn effeithio ar Nofio i Blant Bach a Chywion Hwyaid Bach?

Bydd dosbarthiadau Nofio i Blant Bach a Chywion Hwyaid Bach yn dilyn strwythur Swigod Nofio Cymru.  Bydd hyn yn caniatáu cyflwyno meini prawf canllaw i'w dilyn ar gyfer y rhieni a'r plant. 

Sut bydd hyn yn effeithio ar Gywion Hwyaid a phob Cam arall?

Bydd Cywion Hwyaid a phob Cam arall yn awr yn dilyn strwythur Sblash Nofio Cymru.  Bydd rhai newidiadau yn y cyfnod lansio cychwynnol i helpu rhieni a phlant i gyflwyno'r rhaglen ochr yn ochr â dychwelyd at wersi nofio.

Sut bydd hyn yn effeithio ar Gyfnodau?

Bydd y camau gwersi presennol yn newid i fod yn Donnau Dysgu Nofio Cymru. Bydd rhai newidiadau i ganlyniadau presennol pob cam yn y 6 wythnos sy'n arwain at y Lansiad ar 6 Ebrill 2020. 

Sut bydd hyn yn effeithio ar y Clwb Nofio?

Bydd y Tonnau Dysgu Nofio Cymru newydd yn cefnogi pob agwedd ar gampau dŵr ac yn caniatáu i blant ddysgu'r strociau cydamserol yn gynharach yn eu datblygiad.  Bydd hyn yn eu helpu i bontio'n fwy esmwyth drwy'r llwybr cyfan.   Bydd Academi 7 ac 8 yn gweithio tuag at Donnau 7 ac 8 Tonnau newydd Dysgu Nofio Cymru.  Byddant hefyd yn gallu gweithio tuag at wobrau sgiliau a phellter. Mae Academi Nofio Casnewydd Fyw yn galluogi pob nofiwr i gael llwybr di-dor ac integredig tuag at fod yn rhan o'r clwb nofio.

Beth yw'r ystod oedran ar gyfer pob rhan o'r llwybr?

Mae Tonnau newydd Dysgu Nofio Cymru wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar gam datblygu'r nofiwr yn hytrach na'u hoedran.  Fodd bynnag, fel canllaw dyma’r ystod oedran:

Swigod – 0-3 oed 
Sblash - 3+ oed 
Ton – fel arfer o 4/5 oed a hŷn
Sgiliau – Gall nofwyr ar y lefel hon fod yn 5 oed neu hŷn yn dibynnu ar allu
Nofio Ysgol – Bydd hyn yn dilyn ein rhaglen nofio bresennol ar gyfer ysgolion yng Nghyfnod Allweddol 2

Os wyf newydd basio cam, a allai fy mhlentyn symud yn ôl?

Ein nod yw sicrhau bod pob nofiwr yn cadw ei gam presennol ar raglen newydd Ton ac felly ni ddylid ei symud yn ôl.

A fydd % cyflawniad fy mhlentyn yn newid?

Gan fod plant wedi bod allan o'r dŵr ers peth amser, yn ystod cyfnod ailgyflwyno ein gwersi nofio bydd ein hathrawon nofio yn asesu plant yn unol â'r meini prawf newydd, ochr yn ochr â chefnogi plant i ddychwelyd i'r dŵr. Efallai y gwelwn rai newidiadau yng ngallu plant, ond byddwn yn addasu rhai o'r meini prawf ar gyfer pontio i ganlyniadau Tonnau Nofio Cymru.

A fydd angen i'm plentyn newid dosbarth neu gamau?

Gyda phlant allan o'r dŵr ers peth amser, mae'n debygol y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt pan fyddant yn dychwelyd i'r dŵr. Fodd bynnag, byddwn yn ailgyflwyno plant i'r cam neu’r Don gyfatebol, a bydd eich plentyn yn symud ymlaen i'r cam neu’r Don nesaf yn unol â hynny.

A all plant symud camau tra bo'r cyfnod pontio'n digwydd?

Gallant. Ar ôl cwblhau'r meini prawf asesu, gall plant barhau i symud drwy'r camau tra bo'r cyfnod pontio'n digwydd.  Ein nod yw cael cyfnod pontio di-dor. 

A fydd llai o ganslo ar y llwybr newydd?

Rydym yn hyfforddi ac yn datblygu hyfforddwyr newydd a phresennol yn rheolaidd er mwyn sicrhau na fydd llawer o ganslo.  Rhagwelwn y bydd llai o ganslo wrth symud ymlaen ar y llwybr newydd.

A fydd y llwybr newydd yn effeithio ar ba mor gyflym y mae fy mhlentyn yn dysgu sut i nofio?

Mae'r llwybr newydd wedi'i gynllunio gan Nofio Cymru sef y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer Nofio yng Nghymru ac mae'n dilyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad nofwyr.   Felly, er y bydd nofwyr bob amser yn symud ymlaen ar wahanol gyfraddau, rydym yn rhagweld y dylent i gyd wneud cynnydd a dysgu sut i nofio yn unol â hynny.

A fydd y llwybr yn effeithio ar y gwersi Cywion Hwyaid Hŷn a Phlant Iau?

Mae rhaglen newydd Ton yn canolbwyntio ar allu’r nofiwr yn hytrach na’i oedran.  Fodd bynnag, yng Nghasnewydd Fyw gwelwn y gwerth y mae ein gwersi Iau wedi'i gael a'n nod yw parhau â'r rhain.  Bydd pob nofiwr yn cael ei ystyried ar sail unigol pan fo angen. 

A fydd hyn yn newid nifer y plant yn y grŵp?

Rydym yn dilyn canllawiau'r diwydiant o ran cymarebau nofwyr i hyfforddwyr a'r gwersi a chaiff hyn ei adolygu a'i ddiweddaru'n gyson yn ôl y gofyn. 

Sut mae defnyddio’r Porth Cartref i weld cynnydd fy mhlentyn?

Mae'r Porth Cartref yn system y gall rhieni ei defnyddio i weld cynnydd presennol eu plentyn yn eu gwersi nofio.   
 
I weld hyn bydd angen i chi gofrestru ar y Porth Cartref gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://newportlive.leisurecloud.net/Homeportal/   
 
Bydd angen y canlynol arnoch:  
-rhif cerdyn aelodaeth y plentyn   
-cyfeiriad e-bost sydd eisoes wedi'i sefydlu yn ei gofnod aelod yn Gladstone.  
Os nad oes gennych gerdyn adnabod, ewch i'n timau yn y dderbynfa ar eich ymweliad nesaf i gael cerdyn. 
 

Sut y caiff cynnydd fy mhlentyn ei asesu a'i wobrwyo?

Dylid asesu canlyniadau Fframwaith Dysgu Nofio Cymru yn barhaus wrth i'ch plentyn fynychu gwersi.  Fodd bynnag, ni ddylid cynnal asesiad terfynol er mwyn symud ymlaen i'r lefel nesaf. Mae angen cyflawni pob canlyniad yn gymwys ac yn gyson.  

Wrth i'ch plentyn fynd drwy'r rhaglen bydd ei gyflawniadau'n cael eu gwobrwyo â dyfarniadau gwahanol ar ffurf bathodynnau, tystysgrifau ac yn dibynnu ar eich sefydliad, ryngweithio ar-lein cynyddol os yw darparwr eich gwersi yn defnyddio technoleg.

Yn dibynnu ar y sefydliad, gallant ddewis rhoi gwobrau eraill ar waith i gydnabod cyflawniadau ac i wella profiad eich plentyn ac i gynyddu cymhelliant a hyder.

Beth sy'n digwydd os nad yw nofiwr wedi cyflawni'r holl ganlyniadau yn y dosbarth y maent wedi bod yn gweithio arnynt, erbyn diwedd cyfres o wersi?

Rhaid i'r plentyn gwblhau'r holl ganlyniadau er mwyn derbyn y wobr Swigod, Sblash, Ton, Sgiliau neu Bellter.  Os bydd plentyn yn parhau i'w chael hi'n anodd cwblhau'r holl ganlyniadau dros gyfnod sylweddol o amser, dylid trafod cynllun cymorth unigol rhwng yr athro a'r rhiant.

Beth gallaf ei wneud i helpu fy mhlentyn?

Gorau po gyntaf y daw plentyn yn gyfarwydd â'r amgylchedd dyfrol a bod mewn dŵr ac o'i amgylch.  Hyd yn oed os nad ydych yn nofiwr cryf, bydd mynd â'ch plentyn i'r pwll a chwarae a chael hwyl yn y dŵr yn ei helpu i ddatblygu ei hyder a mwynhau'r profiadau cadarnhaol y gall y dŵr roi iddo.  Os ydych yn gwsmer debyd uniongyrchol, byddwch yn gallu manteisio am ddim ar y sesiynau nofio cyhoeddus. 

Yn y cartref, anogwch eich plentyn i gael bath a chwarae yn y dŵr.  Anogwch ef i gael ei wallt yn wlyb a'i gyflwyno i roi ei wyneb yn y dŵr.  

A oes angen i'm plentyn ddysgu pob un o'r pedair strôc?

Oes. Defnyddir pedair strôc a gydnabyddir i symud drwy'r dŵr. Mae gwahanol bobl yn naturiol yn ei chael hi'n haws dysgu gwahanol strociau nag eraill.  Mae angen addysgu a dysgu pob un o'r pedair strôc i ddangos cymhwysedd a hyder yn y dŵr.  Er mwyn helpu i ddatblygu a chreu cynnydd yn hyn, mae strwythur newydd Dysgu Nofio Cymru yn rhoi cyfle cynharach i ddatblygu'r sgiliau cydamserol sydd eu hangen i helpu i gyflawni pob un o'r pedair strôc yn gynt. 

Sut y gellir gwarantu cysondeb pan fydd athrawon yn asesu?

Mae adnoddau athrawon yn manylu ar y safonau a ddisgwylir ar gyfer pasio prawf i gael gwobr. Mae fideos ar gael i athrawon eu gwylio i helpu i ddehongli'r meini prawf asesu.  Bydd pob athro sy'n cyflwyno Fframwaith Dysgu Nofio Cymru wedi bod i seminar DPP i sicrhau bod pob darparwr yn ymwybodol o'r gofynion cyflawni a'r safonau asesu.  Mae gan y darparwr ran i'w chwarae o ran cefnogi cysondeb rhwng safleoedd ac athrawon er enghraifft drwy gynnal cyfarfodydd athrawon, darparu hyfforddiant mewnol a chefnogi athrawon i fanteisio ar hyfforddiant DPP sy'n berthnasol i'w hanghenion.