Casnewydd Fyw yw’r dewis cyntaf ar gyfer gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol yng Nghasnewydd
Fel menter gymdeithasol ac ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig, mae'r arian a wnawn yn cael ei ailfuddsoddi yn y gwasanaethau a'r cyfleusterau a ddarparwn i'r gymuned.
Ein Cenhadaeth
Bod yn ddewis cyntaf i bobl ar gyfer chwaraeon, hamdden, diwylliant ac adloniant, gan ddarparu rhaglenni a digwyddiadau ysbrydoledig mewn cyfleusterau o safon uchel, gyda staff medrus a brwdfrydig sy'n creu bywydau hapusach ac iachach.
Ein Gweledigaeth
Ysbrydoli Pobl i fod yn Hapusach ac yn Iachach
Ein Gwerthoedd
•    Gofal
•    Angerdd
•    Gwaith Tîm 
•    Busnes
•    Ysbrydoliaeth
•    Cynhwysiant
Strategaeth
Mae strategaeth Casnewydd fyw yn cyfarwyddo ein gwaith ac yn sail ar gyfer cydweithio â phob partner.
Ceisiwn fod yn:  
•    Sefydliad effeithlon 
•    Y gorau yn y sector 
•    Rhaglenni rhanbarthol a chenedlaethol arweiniol 
•    Creu a gweithredu tueddiadau sy'n dod i'r amlwg
•    Cynhyrchu dilynwyr, heb ddilyn eraill 
Bydd arloesi ac uchelgais yn llywio ein gwasanaethau, yn cyfeirio ein hegni a'n buddsoddiad.
Mae ein cynlluniau yn cynnwys:
•    Ysbrydoli mwy o bobl i fod yn hapusach ac yn iachach drwy gymryd mwy o ran 
•    Annog mwy o bobl i ddefnyddio ein cyfleusterau 
•    Mwy o weithgareddau datblygu chwaraeon a'r celfyddydau yn cael eu cynnig sy'n helpu pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau
•    Mwy o berfformiadau byw a sgriniadau sinema
•    Annog a chefnogi mwy o berfformwyr lleol
•    Mwy o bartneriaethau wedi'u creu i wella ein gwasanaethau o'r radd flaenaf 
•    Mwy o ddatblygu ein gweithwyr, ein cyfleusterau a'n rhaglenni
Cefnogwch ni
Fel elusen, rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth. Dysgwch fwy am sut y gallwch chi ein cefnogi.
Cefnogwch ni