Ym mis Mehefin rydym yn cynnig Rhaglen AM DDIM sy'n ffordd wych o strwythuro'ch cynlluniau ymarfer corff, lleihau'r siawns o gael anaf a sicrhau'r canlyniadau gorau oll!
Rhaglen yw cynllun ffitrwydd digidol personol wedi'i deilwra i'ch nodau chi a grëir gan ein timau ffitrwydd cymwys.
Bydd y cynllun ffitrwydd personol yn manylu ar y math o ymarferion sy'n briodol i chi, faint o bwysau i'w rhoi ar y peiriannau, nifer yr ymarferion a’r cyfresi, y dechneg a’r camau cynyddu. Bydd ein fideos arddangos yn dangos i chi sut i wneud yr ymarferion yn ddiogel a sut i gael y gorau o'ch sesiynau yn y gampfa i gyflawni eich nodau. Gallwn hefyd eich helpu gyda ffyrdd newydd o hyfforddi, o gynllun hollt i ymarfer ar batrwm pyramid.
Cewch weld eich rhaglen ar yr App Healthy and Active , gwefan MyWellness neu gallwn roi copi print digidol i chi. Gall eich rhaglen hefyd gynnwys prawf iechyd sydd AM DDIM i aelodau neu sy’n £15 y sesiwn i bobl nad ydyn nhw’n aelodau.
Cynhelir y rhaglenni yn y lleoliadau canlynol: y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Chanolfan Casnewydd.
Gelli archebu profion iechyd ar-lein a thrwy app Casnewydd Fyw dan ‘cymorth â’r gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656757.
Gwobrau! Gwobrau! Gwobrau!
Caiff pawb sy’n archebu ac yn cwblhau rhaglen ym mis Mehefin eu cynnwys mewn raffl i ennill Huawei Band 4.
Mae'r traciwr gweithgareddau yn cyfrif eich camau, curiad y galon, y calorïau a losgwch, a'r pellter a deithiwch i roi syniad clir i chi o'ch iechyd a'ch ffitrwydd i greu trefn hyfforddi fwy effeithiol.
Gallwch archebu profion iechyd ar-lein a thrwy app Casnewydd Fyw dan ‘cymorth â’r gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656757.