newportlive.co.uk/RhannuCariadShare the Love graphic

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn ystod y cyfnod presennol sy’n heriol i bawb, mae timau Datblygu’r Celfyddydau a Chwaraeon Casnewydd Fyw yn gweithio i gefnogi lles pobl, lledaenu hapusrwydd a rhannu cariad a charedigrwydd ledled Casnewydd. 

Rhwng Diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr a Dydd Sant Ffolant ar 14 Chwefror, bydd y timau’n llunio ac yn anfon pecynnau lles i gefnogi unigolion sy’n ynysig er mwyn eu helpu i fod yn greadigol a chadw’n heini. Gan weithio gyda disgyblion yng nghynllun Addysg Amgen Casnewydd Fyw, bydd Tîm Datblygu’r Celfyddydau sydd yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn creu pecynnau a fydd yn cynnwys adnoddau gan artistiaid lleol a phlant ysgol, gweithgareddau crefft, bwlb a phot er mwyn tyfu planhigyn, danteithion melys a hefyd dolenni i adnoddau ffitrwydd a lles.  

Mae Danielle Rowlands o Dîm Datblygu’r Celfyddydau Glan yr Afon yn dweud 'Mae Timau ledled Casnewydd Fyw yn gweithio ar Rhannu’r Cariad, sef prosiect sy’n gobeithio dod ag ychydig o hwyl mewn cyfnod tywyll a diflas a thynnu sylw at gyfleoedd i gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau hyfryd a lleoedd i gael cymorth, ac atgoffa pobl o’r gofal a’r cariad sy’n cael eu rhannu yn ein cymuned. Dyluniwyd y prosiect yn bennaf ar gyfer oedolion hŷn sy’n ynysig ond gyda’r gobaith ehangach ein bod yn cysylltu â chynifer o bobl â phosibl a’u hannog i rannu’r cariad.’

Dywedodd Richard Dale, Swyddog Datblygu Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol Casnewydd Fyw, 'Dyma gyfle arall i gefnogi lles cymuned Casnewydd yn ystod y pandemig. Mae’r myfyrwyr ar ein rhaglen Addysg Amgen yn chwarae rôl wych wrth lunio a dosbarthu’r pecynnau i bobl sydd yn anffodus yn cael eu hunain yn fwy ynysig oherwydd y pandemig presennol.  Mae'r sesiynau ar-lein hyn yn ategu ein prosiectau eraill a’n gweithgarwch digidol i helpu pobl i aros yn Hapus ac yn Iach Gartref a rhoi cyfleoedd i wneud ymarfer corff a gweithgareddau celfyddydol mewn ffordd ddiogel a chyfrifol tra byddant gartref.'

Yn ogystal â’r pecynnau hyn, bydd ystod o weithgareddau yn cael eu cynnal i helpu pobl Casnewydd i Rannu’r Cariad. 

Mae’r timau’n galw ar bawb i fod yn greadigol, wedi’u hysbrydoli gan waith CONSUMERSMITH sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd yng Nghlan yr Afon. Mae'r darn hwn, 'May Love Be What You Remember Most,' yn sefyll fel cofeb am fywyd a gollwyd yn ddiweddar. Fel rhan o Rhannu’r Cariad, mae tîm Glan yr Afon yn annog pobl o bob oedran i fod yn greadigol ar yr un thema â’r paentiad ac i arlunio, ysgrifennu, peintio, rapio, dawnsio, neu ddefnyddio unrhyw fformat arall ac anfon yr hyn rydych yn ei greu fel y gellir ei rannu a’i arddangos yng Nglan yr Afon. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am waith CONSUMERSMITH a sut i gymryd rhan ar newportlive.co.uk/oriel.

Mae Rhannu’r Cariad hefyd yn cysylltu a grwpiau lleol i ddathlu hanes Casnewydd, yn benodol prosiectau Folk on the Footbridge a Memories of the Transporter Bridge. Mae’r ddau brosiect yn ymchwilio i hanes dau o dirnodau mwyaf eiconig Casnewydd ac maent yn galw ar bobl i rannu eu ffotograffau a’u hatgofion o’r tirnodau er mwyn bod yn rhan o hanes y pontydd.

Ar 1 Chwefror bydd her lles 28 diwrnod yn dechrau, gan annog cyfranogwyr i gwblhau gweithgaredd gwahanol sy’n gysylltiedig a lles bob dydd yn ystod y mis hwnnw. Mae’r gweithgareddau i gyd yn seiliedig ar ddwlu ar agwedd wahanol ar fywyd, gan gynnwys eu cymuned, eu ffrindiau, eu planed a chadw’n greadigol. Caiff yr her ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, a byddai staff Glan yr Afon wrth eu boddau o glywed sut mae pethau’n mynd gyda’r her a gweld unrhyw luniau.

Bydd Rhannu’r Cariad hefyd yn cynnwys dolenni i ddosbarthiadau ffitrwydd byw newydd Casnewydd Fyw a fydd yn dechrau o 1 Chwefror a bydd modd ymuno â nhw trwy Zoom. Hefyd mae Glan yr Afon am dynnu sylw at rai o’u partneriaid a’r ffyrdd maent yn cadw’r cyfranogwyr yn heini ac yn creadigol, gan gynnwys Naz yn y Clwb Celf, y Tin Shed Theatre Co a’u prosiect Gefeillio a Ballet Cymru. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ac adnoddau ar gyfer Rhannu’r Cariad a manylion llawn y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal trwy fynd ar-lein i ​​​​​​​newportlive.co.uk/RhannuCariad.

Hwyluswyd Rhannu’r Cariad trwy’r rhoddion a dderbyniwyd gan aelodau Casnewydd Fyw, cwsmeriaid a chynulleidfaoedd yn ogystal â chyllid gan Chwaraeon Cymru. I gael gwybod mwy am sut gallwch gefnogi gweithgareddau cymunedol hanfodol a rhoi arian ar gyfer prosiectau fel hyn yn y dyfodol, ewch i newportlive.co.uk/cefnogwchni.