Mae'r gampfa Pwll Rhanbarthol a'r Ganolfan Tenis yn cynnwys offer Technogym o'r radd flaenaf i'ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd!

Melinau rhedeg, peiriannau ymwrthedd wedi'u llwytho â phin, traws-hyfforddwyr a beiciau â sgriniau integredig sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd... a chymaint mwy.

Perffaith i unrhyw un sydd am wneud bach o gardio, Biocircuit, pwysau rhydd neu ddosbarthiadau. 

Bydd hyfforddwyr ffitrwydd bob amser yn y gampfa i gynnig arweiniad ac i'ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd! 

Mae’r peiriannau i gyd 2m ar wahân i sicrhau y gallwch gadw pellter diogel oddi wrth eraill a helpu i gadw pawb yn ddiogel. 

Archebwch sesiwn yn y gampfa

Ynglŷn â Technogym 

Mae Technogym yn adnabyddus ledled y byd fel y "Cwmni Lles". Cenhadaeth Technogym yw helpu pobl i fyw'n well ac i wneud hyn maent yn harneisio pŵer technoleg i greu offer a rhaglenni ffitrwydd o'r radd flaenaf. Mae technolegau Technogym yn cysylltu â’i gilydd; dyma’r profiad Cyswllt Lles. Gall defnyddwyr ddod o hyd i'w rhaglenni cynnwys a hyfforddi eu hunain ar unrhyw offer Technogym ac ar unrhyw ddyfais bersonol.


Cyfarpar

Mae newydd Casnewydd Fyw yn cynnwys offer SKILLINE Technogym gan gynnwys:

SKILLRUN - Nid melin redeg gyffredin mo hon! Mae ganddi osodiadau rhithwir i dynnu'r diflastod allan o gyfrif – gallwch ei rhaglennu i redeg ar draeth, yng nghefn gwlad neu lan mynyddoedd. Mae moddau hyfforddi sled a pharasiwt y felin redeg yn cynnig ymwrthedd rheoledig i wella cyflymder, perfformiad a chryfder.

SKILLBIKE - Y beic dan do cyntaf â gerau! Gall beicwyr wrthsefyll y newid mewn ymwrthedd a chynnal y pŵer a'r cadens cywir i sicrhau effeithlonrwydd. Mae'r consol yn dangos y dewisiadau gêr a’r gymhareb gerau mewn amser real.

SKILLROW - Rhwyfwyr o’r radd flaenaf a ddyluniwyd i wneud i chi deimlo eich bod chi’n rhwyfo cwch go iawn! Dewiswch lefel yr ymwrthedd ar gyfer ffrwydradau o bŵer pur neu datblygwch ddygnwch gydag ymwrthedd is. 

SKILLMILL - Melin redeg hwyl sy'n eich galluogi i fynd o gerdded i wibio mewn ychydig eiliadau.  Mae gennych yr opsiwn i redeg, sgipio, neidio i’r ochr ac yn ôl, gan efelychu symudiadau ymarferol. Mae hefyd yn cynyddu ymwrthedd gan eich galluogi i ymarfer ymarferion pŵer fel symudiadau sgrym rygbi

Ap Iach ac Actif / Band Garddwrn Casnewydd Fyw  

Ewch â'ch profiad hyfforddi i'r lefel nesaf gydag Ap Iach ac Actif Casnewydd Fyw a band garddwrn Casnewydd Fyw. 

Wedi'i ddarparu gan MyWellness Technogym, mae'r ap yn bartner perffaith i'ch helpu i wneud ymarfer corff a gwella eich lles yn y cartref, yn yr awyr agored neu gyda ni yn ein canolfannau. 

Mae bandiau garddwrn Casnewydd Fyw yn harneisio Technoleg MyWellness ac wedi'u cynllunio i alluogi mewngofnodi hawdd i'r ystod newydd o beiriannau ffitrwydd yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol. 

Mae'r ap yn tracio gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud yn y gampfa ac yn yr awyr agored, gan fesur cilometrau a deithiwyd a chalorïau a losgwyd.
Os hoffech gael eich band garddwrn eich hun, maent yn costio £11.65 a gellir eu prynu wrth ddesg derbynfa'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol.
 

 

Pwysau a Beicio Dan Do

Mae pwysau rhydd hefyd ar gael yn y gampfa, gan gynnwys peiriannau llwyth plât, hanner rac, a dymbels 1kg – 30kg. Mae ardal ymestyn / swyddogaethol hefyd ar gael o amgylch ochr y cwrt tennis os oes angen mwy o le arnoch i wneud mwy o ymarferion pwysau’r corff.  

Mae 10 beic dan do y gallwch eu defnyddio ar unrhyw adeg, neu ymunwch â dosbarth - gallwch gadw lle ynddynt drwy ap pinc Casnewydd Fyw.

 

Biocircuit

Mae Biocircuit yn rhaglen hyfforddiant gyflawn sy’n gweddu i’ch corff a'ch amserlen yn berffaith. Mae'r ymarfer unigol yn cymryd 45 munud ac nid oes unrhyw addasiadau i’w gwneud, nac amser aros. Mae'n ymarfer corff llawn cyflym ac effeithlon!

Mae Biocircuit yn addas i bawb o bob gallu gan fod y rhaglen a'r offer addasu i'ch anghenion penodol pan fyddwch yn mewngofnodi. 

Dysgwch Fwy

Aelodaeth y Campfa

Fel aelod o Gasnewydd Fyw gallwch ddefnyddio unrhyw un o'n campfeydd, fynd I dosbarthiadau ymarfer grwp a chymaint mwy, neu fel arall mae cost o £5.55 y sesiwn.

Gweld aelodaeth