Mae Casnewydd Fyw bellach yn cynnig Biogylched

 

Mae'r rhaglen hyfforddiant gyflawn hon yn gweddu i’ch corff a'ch amserlen yn berffaith. Mae'r ymarfer corff hwn y mae modd ei deilwra i chi yn para 30 munud yn unig ac nid oes angen unrhyw amser addasu nac aros.

Mae'r rhaglen a'r offer yn addasu at eich anghenion penodol pan fyddwch yn mewngofnodi ac yn creu ymarfer penodol ar eich cyfer chi mewn ffordd ddiogel ac effeithiol, dan arweiniad, i'ch helpu i gyflawni eich nodau unigol.

ynglŷn â hyfforddiant biogylched

 

  1. Mewngofnodwch, cysonwch eich gorsaf, a dewiswch raglen.

  2. Bydd y Cynllun Biogylched yn cael ei ddangos i chi a chewch eich cyfeirio at yr gorsaf gyntaf sydd ar gael neu eich rhoi ar y rhestr aros. Gall defnyddwyr ddechrau o unrhyw orsaf sydd ar gael.

  3. Ar ôl cyrraedd pob gorsaf, dim ond dechrau ymarfer sydd angen ac ni fydd angen mewngofnodi. Bydd ymarfer 3.15-munud ar Redeg a Beicio wedi ei osod o flaen llaw ar y peiriannau a gallwch newid cyflymder, inclein neu bŵer.

  4. Ar ôl pob ymarfer, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i'r orsaf nesaf gyda 30 eiliad o bontio i orffwys.  

  5. Ar ddiwedd dau lap, mae'r gylched yn gorffen. Yna gallwch wirio eich canlyniadau ar y ciosg Unity Self neu app Iach ac Actif Casnewydd Fyw.

 
Archebwch sesiwn sefydlu i roi cychwyn arni

Lawrlwythwch app Iach ac Actif Casnewydd Fyw cyn eich sesiwn