CROESO I GAFFI GLAN YR AFON!

 

Mae Caffi Glan yr Afon, ar ei newydd wedd, yn fan delfrydol i gwrdd â ffrindiau, cynnal cyfarfod busnes anffurfiol neu wneud ychydig o waith hyd yn oed.  Wedi'i leoli ar y llawr gwaelod, mae gan Gaffi Glan yr Afon amrywiaeth o opsiynau eistedd o fyrddau bar uchel i fyrddau is gyda chadeiriau meddal, ac mae wi-fi am ddim a digon o socedi plygiau ar gael i'w defnyddio.  Mae yna hefyd deras awyr agored gyda seddau, lle perffaith i wylio'r byd yn mynd heibio ar noson o haf.  Gallwch fwynhau paned o goffi a chacen yn hamddenol, neu wydraid o rywbeth cryfach os dymunwch, gyda golygfeydd dros Afon Wysg yng Nghaffi Glan yr Afon.

Gweinir bwyd bob dydd rhwng 9am a 4pm, neu hyd at 45 munud cyn yr amser cychwyn ar noson sioe.

Pink logo with bilingual 'breastfeeding welcome' text    Mae Glan yr Afon yn cefnogi’r cynllun Croesewir Bwydo ar y Fron.

Mae’r cynllun yn annog sefydliadau sydd ag adeiladau sy’n agored i’r cyhoedd yng Nghasnewydd er mwyn cefnogi bwydo ar y fron trwy fod yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn gefnogol. Rydym wedi bod mewn sesiwn ymwybyddiaeth bwydo ar y fron ac rydym wedi ymrwymo i fod yn lleoliad Croesewir Bwydo ar y Fron.