
Mae gŵyl gelfyddydol awyr agored am ddim fwyaf Cymru, 'Y Sblash Mawr', yn dychwelyd yr haf hwn!
Paratowch ar gyfer gŵyl gelfyddydol awyr agored am ddim fwyaf Cymru, sy’n dychwelyd i Gasnewydd ddydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Gorffennaf 2025!
Mae Glan yr Afon yn cyflwyno’r ‘Sblash Mawr’, gŵyl flynyddol sy’n denu miloedd i’r ddinas, sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw, theatr stryd, perfformiadau dawns, gweithdai, gweithgareddau a chrefft i'r teulu cyfan.
Gyda’r cyfan yn rhad ac am ddim, y digwyddiad deuddydd yw’r profiad perffaith i’r teulu ac i bob oed. Wedi'i ddisgrifio fel "Covent Garden Casnewydd", bydd strydoedd Casnewydd yn troi'n lwyfan awyr agored enfawr. Cadwch y dyddiad yn rhydd ac ymunwch â ni yn yr ŵyl eleni. I gymryd rhan yn Sblash Mawr 2025, cysylltwch â artsdevelopment@newportlive.co.uk.
Galwad i’r Gymuned
Rydym yn cynnig cyfle gwych i berfformio yn y Sblash Mawr 2025, ac rydym yn chwilio am grwpiau cymunedol ac artistiaid a hoffai gymryd rhan ar y Llwyfan Dathlu, Llwyfan y Doc, ac Ardal Usk Plaza.
Rydym yn galw ar gorau, grwpiau dawns, cerddorion, beirdd, storïwyr, perfformwyr syrcas, digrifwyr ac unrhyw un arall lleol sydd am berfformio a dangos eu creadigrwydd i'r ddinas i gysylltu â ni, gan y byddem wrth ein bodd yn eich arddangos chi neu'ch sefydliad.
Mae Sblash Mawr wedi ymrwymo i gynrychioli grŵp mor amrywiol â phosibl o gymunedau. Yn benodol, rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob rhywedd ac o bob oed, perfformwyr Cymraeg eu hiaith, pobl ag anableddau, a chynrychiolwyr o gymunedau LHDTCRhA+ ac o’r mwyafrif byd-eang.
Bydd y llwyfannau'n fyw – dydd Sadwrn 19 Gorffennaf 11am-5pm a dydd Sul 20 Gorffennaf 12pm-16:30pm. Rhaid i'ch act gyfan fod yn addas i deuluoedd a phobl o bob oed.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: Dydd Sul 1 Mehefin 2025.
Dyma beth fyddwn yn ei ddarparu ar gyfer pob parth:



Bydd yn ofynnol i bob perfformiwr sicrhau:
· Yswiriant dilys a digonol
· Asesiad risg ar gyfer eich perfformiad neu grŵp.
· Gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) dilys os ydych chi'n gweithio gyda phobl ifanc neu bobl sy’n agored i niwed.
· Os bydd plant yn perfformio, bydd angen y drwydded briodol arnoch gan eich awdurdod lleol (BOPA) – mae rhagor o wybodaeth ar gael yma, a sylwch fod angen o leiaf 21 diwrnod i brosesu hyn: Children's performance licensing | Newport City Council
· Rhaid i unrhyw offer trydanol fod wedi’i brofi o fewn y flwyddyn ddiwethaf ac yn arddangos y labelu priodol.
NODDWYR A PHARTNERIAID
Diolch yn fawr iawn i'n cyllidwyr, noddwyr a phartneriaid am helpu i wneud Sblash Mawr yn bosibl: Eisiau cymryd rhan a dod yn noddwr i Sblash Mawr Edrychwch ar ein pecyn noddi yma!
Mae'r partneriaid blaenorol yn cynnwys:
