Mae ein cwrs 3 Diwrnod Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr sy'n cael rôl Swyddog Cymorth Cyntaf yn y gwaith. Mae'n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i chi am gymorth cyntaf a'r hyder i'w ddefnyddio. 

Ymdrinnir ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:

  • Gallu asesu digwyddiad 

  • Rhoi cymorth cyntaf i glaf sy’n anymwybodol (gan gynnwys trawiad)

  • Gallu adnabod rhywun sydd ag anaffylacsis

  • Gallu defnyddio chwistrellwr awto yn ddiogel ar gyfer trin rhywun gydag anaffylacsis

  • Gweinyddu cymorth cyntaf i rywun ag anafiadau i esgyrn, cyhyrau a chymalau, gan gynnwys anafiadau tybiedig i'r asgwrn cefn

  • Adfywio cardio-pwlmonaidd. (CPR)

  • Rheoli gwaedu difrifol

  • Rheoli anafiadau i'r asgwrn cefn

  • Rheoli tagu ymwybodol ac anymwybodol

Mae'r cwrs yn defnyddio cyfuniad o ddatblygu gwybodaeth, datblygu sgiliau ac arfer senario realistig i sicrhau bod gan gyfranogwyr yr hyder yn eu gallu i ddarparu gofal pan fydd sefyllfaoedd brys yn codi.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys asesiad ymarferol ac arholiad amlddewis. 

Dyddiadau'r Cwrs

Dydd Mercher, 30 Awst 2023

10am - 6pm

Canolfan Byw'n Egnïol 

Dydd Iau, 31 Awst 2023

10am – 6pm

Canolfan Byw'n Egnïol 

Dydd Gwener, 1 Medi 2023

10am – 6pm

Canolfan Byw'n Egnïol 

Dylai dysgwyr wisgo dillad priodol a chyfforddus fel trowsus ac esgidiau gwastad, ac mae'n ofynnol cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ymarferol a chymhwyso sgiliau.

Mae'r cymhwyster hwn yn ddilys am gyfnod o 3 blynedd.  Dylai'r ymgeiswyr ail-gymryd y cymhwyster hwn cyn i'r dystysgrif ddod i ben er mwyn parhau'n gymwys. Er nad yw'n orfodol, argymhellir bod dysgwyr yn diweddaru eu gwybodaeth yn flynyddol.

Cost y cwrs: £220

Gofynion ymgeiswyr:

  • Rhaid bod yn 16 oed ar ddyddiad yr asesiad.

  • Rhaid cwblhau'r cwrs llawn a'r holl oriau dysgu.

  • Cânt eu hasesu yn erbyn yr holl ganlyniadau dysgu yn yr unedau a gymerir.

I archebu lle ar y cwrs ffoniwch 01633 656757 neu e-bostiwch andrew.mort@newportlive.co.uk.