Mae Canolfan Tennis Casnewydd yn cynnal cyrsiau i blant 4-18 oed, sy’n llawn gemau hwyl a hyfforddiant deinamig.

Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal gan hyfforddwyr LTA cwbl gymwysedig sy'n sicrhau bod taith tennis pob plentyn yn digwydd mewn amgylchedd diogel a chynhwysol. Mae'r sesiynau'n darparu ar gyfer pob gallu, cymerwch olwg ar y gwahanol gamau Ieuenctid isod:

Tennis pathway
939A8477-min.JPG

Tenis i'r Rhai Bach

Mae tenis tots yn ffordd hwyliog o gyflwyno plant i raced denis a hanfodion y gamp gan ddefnyddio gweithgareddau, ymarferion a gemau hwyliog.

Mae sesiynau wedi'u hanelu at ddatblygu ystwythder, cydbwysedd a chydlyniant, gan ganolbwyntio ar fwynhad.

Caiff chwaraewyr gyfle i gwrdd â phlant eraill ac annog rhyngweithio cymdeithasol.

Bydd rhieni/gwarchodwyr yn cael eu hannog i ddod ar y cwrt i helpu eu plant gydol y sesiynau, felly gwisgwch esgidiau ymarfer os gwelwch yn dda. Mae'n ffordd wych i chi fod yn actif gyda'ch gilydd!

Cynhelir sesiynau ar Dydd Llun am 1:15pm, ar Dydd Iau am 11:15am ac ar Dydd Sul am 9am, £4.70 y plentyn.

Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbyn fa i sicrhau lle.

*Offer wedi'i ddarparu.  Rhaid i oedolion fod yn bresennol yn ystod sesiwn. 

Archebwch Nawr
LTA Youth Start

Rhaglen Youth Start y Gymdeithas Tenis Lawnt

A yw eich plentyn erioed wedi codi raced? A ydyw’n 4-8 mlwydd oed? Os felly, Rhaglen Youth Start y Gymdeithas Tenis Lawnt yw'r ffordd berffaith o'u cyflwyno i'r 'gêm hardd'.

Bydd tennis yn helpu eich plentyn i wella ei gydbwysedd, ei gyflymder a hyd yn oed ei allu i ganolbwyntio. Bydd eich plentyn hefyd yn dysgu am barch, gwaith tîm a chwarae teg wrth iddo ddatblygu ei sgiliau tennis.

Mwy o Wybodaeth
LTA Blue Youth

Cam Glas (4 – 6 oed)

Mae'n rhoi'r cyflwyniad perffaith i fyd tennis, nid yr ennill na'r colli sy’n bwysig, ond dysgu'r sgiliau tennis sylfaenol. Bydd defnyddio peli meddal, racedi llai a chyrtiau llai yn helpu plant i wella eu cydbwysedd, eu hystwythder a'u cydsymudiad, wrth ddysgu popeth am y gamp rydym yn ei charu!

£30.25 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Ymuno!
LTA Red Youth

Cam Coch (6 – 8 oed)

Bydd y cam hwn yn edrych ychydig yn debycach i'r tennis rydych chi'n ei adnabod, serfiadau dros yr ysgwydd, ralïau, folïau a sgorio pwyntiau. Bydd cystadlaethau hamddenol yn cael eu cyflwyno, ond peli meddal a chyrtiau bach fydd yn cael eu defnyddio o hyd. Bydd plant yn dysgu popeth sydd angen ei wybod am y gêm sydd o'u blaenau. Bydd hyfforddwyr yn helpu plant i ddatblygu eu cydsymudiad, eu cydbwysedd a'u cyflymder ymhellach.

£30.25 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Ymuno!
LTA Orange Youth

Cam Oren (8- 9 oed)

Mae’n bryd paratoi’r plant at ddod yn bencampwyr tennis y dyfodol drwy ddefnyddio’r holl sgiliau y maent wedi'u dysgu hyd yn hyn yn ogystal â rhywfaint o dactegau, sgiliau datrys problemau, a chanllawiau ar chwarae teg ac arweinyddiaeth yn y gamp. Ar y cam hwn bydd plant yn gwybod yr holl reolau a byddant yn serfio ac yn dychwelyd mewn gemau.

Bydd y gwersi'n dal i ddefnyddio peli meddal, racedi llai a chyrtiau llai.

£31.15 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbynfa i gadw lle.

Ymuno!
LTA Green Youth

Cam Gwyrdd (9 - 10 oed)

Mae'n bryd i blant fynd i'r cwrt maint llawn wrth iddynt fynd ati i ddatblygu eu gêm drwy fireinio’r technegau maen nhw wedi'u dysgu hyd yn hyn. Bydd hyfforddwyr yn helpu plant i ddatblygu serfiadau mwy cyson, sgiliau rali a sgorio pwyntiau.

£31.15 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbynfa i gadw lle.

Ymuno!
LTA Yellow Youth

Cam Melyn (10+ oed)

Gan chwarae ar gwrt llawn gyda pheli’r un maint â’r rhai mae’r chwaraewyr proffesiynol yn eu defnyddio, bydd plant yn parhau i archwilio gwahanol ddulliau gêm ar y cwrt ac yn dechrau dod o hyd i’w harddull eu hunain.

Mae gwersi'n dilyn dull sy'n seiliedig ar gemau a bydd chwaraewyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn twrnameintiau drwy gydol y flwyddyn.

£31.15 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Ymuno!

Cynhyrchion Tenis

Cymerwch olwg ar yr amrywiaeth wych o gynhyrchion tenis rydym yn eu gwerthu yn lleoliadau Casnewydd Fyw.

Gweld Cynhyrchion Tenis