Mewn partneriaeth â Tennis Cymru a Rhaglen Cyrtiau Agored yr LTA, ein nod yw cynnig Rhaglen Tennis gwbl gynhwysol.  Ochr yn ochr â'n rhaglen gynhwysol rydym yn cynnig sesiynau Tennis Cyfeillgar i Awtistiaeth a sesiynau Tennis Cadeiriau Olwyn.

Er mwyn cynnig y profiad gorau i bob chwaraewr, mae ein hyfforddwyr LTA cymwys yn mynychu sesiynau uwchsgilio DPP perthnasol yn barhaus, wedi eu cyflwyno gan bartneriaid fel Tennis Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru.  

LTA open court disability tennis logoTennis Wales Logo

Wheelchair Tennis

Tenis Cadeiriau Olwyn i Chwaraewyr Iau

Mae ein Sesiynau Tenis Cadeiriau Olwyn i Chwaraewyr Iau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Tenis Casnewydd ac maent yn addas ar gyfer chwaraewyr 6+ oed ag anabledd neu nam corfforol sy'n gallu hunan-yrru cadair olwyn. 

Nid oes angen i chi fod yn ddefnyddiwr cadair olwyn i gymryd rhan, mae gennym nifer gyfyngedig o gadeiriau olwyn tenis ar gael i'w defnyddio yn y sesiwn. I gael gwybod mwy e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk.

Mae’r sesiynau'n cael eu cynnal bob dydd Iau rhwng 4:30pm a 5:20pm. 

£28.95 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Archebwch Nawr
LTA Open Court - Learning Disability Tennis.jpg

Tennis Cyfeillgar i Awtistiaeth

Mae ein Sesiynau Tenis Cyfeillgar i Awtistiaeth yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Tenis Casnewydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag awtistiaeth 5+ oed. Mae'r sesiynau’n 30 munud ar yr hiraf, gyda grwpiau llai o faint a dull hamddenol. 

Cynhelir sesiynau i Oedrannau 5 - 10 oed bob dydd Iau, 5 - 5:30pm 

Cynhelir sesiynau i Oedrannau 10+ bob dydd Iau, 5:30 - 6pm 

£14 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.
 

Archebwch Nawr
Red and yellow tennis ball sitting on a raquet

Tenis Cwrt Agored

Mae ein sesiynau Tenis Cwrt Agored yn gyflwyniad perffaith i dennis.  Bydd defnyddio peli meddal, racedi a chyrtiau llai yn helpu chwaraewyr i wella eu cydbwysedd, eu hystwythder, a’u cydsymud. Mae'r sesiynau’n 30 munud ar yr hiraf, gyda grwpiau llai o faint a dull hamddenol.

Mae’r sesiynau ar gyfer plant a phobl ifanc 5 - 10 oed sydd ag anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol.

Dydd Iau: 5:30-6pm

£14 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Archebwch Nawr

Gwers Flasu

Am wers flasu AM DDIM ac i gael rhagor o wybodaeth ffoniwch ni ar 01633 656757 neu e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk.

Contact Us