App Healthy and Active Casnewydd Fyw  

Yng Nghasnewydd Fyw rydym am eich cefnogi i gyflawni eich nodau ffitrwydd, cefnogi eich lles a'ch ysbrydoli i fod yn hapusach ac yn iachach! 
Ers i ni lansio ein app Casnewydd Fyw mae llawer o'n haelodau a'n cwsmeriaid wedi'i ddefnyddio i archebu dosbarthiadau, cyrtiau, cadarnhau amseroedd agor ac chael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.  

I gyd-fynd â’n app Casnewydd Fyw, rydym wedi lansio ein app Healthy and Active. Wedi'i ddarparu gan Technogym MyWellness, mae'r app yn bartner perffaith i'ch helpu i wneud ymarfer corff a gwella eich lles yn y cartref, yn yr awyr agored neu gyda ni yn ein canolfannau.  

Mae app Healthy and Active Casnewydd Fyw yn eich galluogi i gael mynediad at eich data ffordd o fyw a ffitrwydd, rhaglenni hyfforddi a llawer mwy ar eich ffôn.  

Bydd yr app yn eich helpu gyda’r canlynol; 

• Rheoli eich rhaglen hyfforddi yn uniongyrchol ar-lein neu o'ch ffôn symudol. 

• Cofnodi mesuriadau’r corff a chadw golwg ar eich statws iechyd. 

• Cysylltu ag apps ffitrwydd ac olrhain maethol poblogaidd a dyfeisiau fel Polar, Garmin, Apple Health, RunKeeper, Strava, Mapmyfitness a llawer mwy. 

• Cael ymarferion ar-lein gan hyfforddwyr Casnewydd Fyw a Technogym. 

• Gwybodaeth ddefnyddiol arall a dolenni i gefnogi eich lles corfforol a meddyliol.  

 

Os ydych yn aelod o Casnewydd Fyw, pan fydd ein canolfannau yn ailagor, byddwch hefyd yn gallu; 

·       Cofnodi mesuriadau’r corff manylach drwy gael archwiliad iechyd gydag un o'n tîm.  

·       Casglu a rhannu eich hyfforddiant dan do, chwaraeon awyr agored a data symud gydag un o'n hyfforddwyr cymwys i gael cymorth personol wedi'i deilwra. 

·       Cael cymorth hyfforddiant personol gan un o'n hyfforddwyr ffitrwydd. 

I fanteisio ar y profiad anhygoel hwn y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho'r app neu ymweld â'r wefan a chreu eich cyfrif. 

Lawrlwythwch yr app ar gyfer android neu apple. Chwiliwch am Newport Live Healthy and Active.

 

Cofrestrwch drwy'r wefan yma

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae lawrlwytho'r app?

Gallwch lawrlwytho’r app trwy siop appiau Apple neu Google Play. Chwiliwch am Newport Live Healthy and Active. Mae'r app rydych chi'n chwilio amdano yn wyrdd, ein app pinc yw prif app Casnewydd Fyw ar gyfer archebion ar-lein. 

Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer app Healthy and Active Casnewydd Fyw?

Crëwch gyfrif gyda'r un cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwch i reoli eich cyfrif Casnewydd Fyw. Pan ofynnir i chi ddewis eich cyfleuster, dewiswch 'Casnewydd Fyw'. 
   
Os nad oes gennych gyfrif Casnewydd Fyw yn barod, gallwch ymuno ag app   Healthy and Active Casnewydd Fyw o hyd gydag unrhyw gyfeiriad e-bost. Mae ein hyfforddwyr hefyd yn gallu arwain yr aelod drwy'r broses sefydlu. 

Oes angen i mi fod yn aelod o Casnewydd Fyw i ddefnyddio'r app Healthy and Active?

Nid oes angen i chi fod yn aelod o'n cyfleusterau i ddefnyddio'r app ond bydd rhai o'r nodweddion yn gyfyngedig fel cymorth personol gan ein timau. 


 

Rwy'n cael trafferth creu cyfrif

Os ydych chi'n cael problemau'n cofrestru ar gyfer cyfrif, cysylltwch â'n tîm ar customerservice@newportlive.co.uk a all eich cynorthwyo ymhellach. 

 

DEFNYDDIO'R APp

Beth yw MOVEs? Sut maen nhw'n cael eu cyfrifo?

Mae MOVEs yn mesur eich lefel gweithgarwch. Po fwyaf yw'r dwyster hyfforddi, y mwyaf o MOVEs rydych chi'n eu cronni fesul munud. Gallwch weld y MOVEs yn adran canlyniadau'r app. Eich Movergy (yn y cylch melyn) yw eich targed MOVEs y dydd, ac fe'i cyfrifir yn ôl eich MOVEs cyfartalog dros bythefnos. 

Er enghraifft, mae rhedeg am 10 munud ar ddwysedd isel yn cronni tua 200 MOVEs, po fwyaf yw pellter a chyflymder eich sesiynau rhedeg, beicio, rhwyfo, neu beth bynnag yw eich hoff ymarfer, po fwyaf y MOVEs y byddwch yn eu hennill.

NODWEDDION YR APP  

Olrhain hyfforddiant awyr agored

Mae dwy ffordd i olrhain eich hyfforddiant awyr agored:  
•     Yn uniongyrchol yn yr app gan ddefnyddio’r nodwedd olrhain gweithgareddau awyr agored sydd ar gael yn y cartref 
•     Cysylltu apps trydydd parti (e.e. Garmin Connect, Strava, Polar, ac ati); bydd y data'n cael ei gysoni'n awtomatig ar ddiwedd y dasg. 

Sylwch, os byddwch yn cysylltu drwy app 3ydd parti, bydd yr ap Healthy and Active ond yn cysoni MOVEs ac nid yr ymarfer neu'r pellter penodol.

Os hoffech i hyn gael ei gofnodi, dylech fynd yn syth i mewn i'r app Healthy and Active ac olrhain eich gweithgaredd (e.e. dewiswch rhedeg yn yr awyr agored er mwyn iddo gael ei gofnodi). 

Rhaglenni wedi'u teilwra / cymorth personol

Gall aelodau Casnewydd Fyw gael rhaglenni wedi'u teilwra gan hyfforddwyr trwy Prescribe. Bydd hyn yn eich galluogi i gael mynediad i'ch rhaglen bersonol ar lechen, ffôn clyfar neu gyfrifiadur yn y gampfa, gartref neu'r tu allan!  

Bydd hefyd ymarferion cyffredinol ar gael ar yr app gan gynnwys 'ymarfer yr wythnos.'

Cysylltwch eich app neu ddyfais

Cysylltwch eich app neu ddyfais  Gallwch fewnforio'r data o apps ffitrwydd mawr i'r app; ewch i'r adran gosodiadau, a dewis cysylltu appiau a dyfeisiau. 

 

Dosbarthiadau ac ymarferion Casnewydd Fyw gartref

Mynediad at ein hyfforddwyr sy’n cyflwyno rhai o'n dosbarthiadau a'n hymarferion mwyaf poblogaidd i chi roi cynnig arnynt gartref. Mae ymarferion ychwanegol hefyd yn cael eu cynnig gan Technogym a dolen i roi cynnig ar Les Mills ar alw am ddim am 30 diwrnod.  

 

Heriau

Os ydych yn teimlo'n gystadleuol ymunwch â'n heriau ffitrwydd wythnosol i gael lle ar y bwrdd arweinydd ar gyfer hawliau brolio a gwobrau posibl. 

 

Hyfforddi

 Os oes angen hwb arnoch, dyfyniadau ysgogol, arweiniad ar ymarfer corff neu gyngor ar iechyd a maeth gall ein hyfforddwyr gynnig cyngor o bell i chi drwy ein gwasanaeth messenger.