ToBM_2025_stages1-6.png

 

Bydd Dinas Casnewydd yn cynnal cychwyn ras Cymal 6 Taith Dynion Prydain Lloyds rhwng Casnewydd a Chaerdydd ddydd Sul 7 Medi 2024. Bydd nifer cyfyngedig o docynnau am ddim ar gael i wylwyr gael mynediad i Felodrom Geraint Thomas, lle bydd cyflwyniadau’r timau’n cael eu cynnal cyn cychwyn cymal olaf y ras.

 

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10am, gyda'r cyflwyniad yn dechrau am 10.30am a'r ras yn dechrau am 11.45am. Bydd Casnewydd Fyw, Cyngor Dinas Casnewydd a Beicio Cymru, gyda chefnogaeth British Cycling, yn cynnal llu o ddigwyddiadau ar y diwrnod hefyd, gan gynnwys sesiynau trio’r trac, gwasanaeth gofal beiciau a mwy. Bydd manylion amdanynt yn cael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesaf – dilynwch Casnewydd Fyw ar gyfryngau cymdeithasol a chadwch lygad ar y wefan.

 

Bydd dechrau'r cymal ac ardal barcio’r timau wedi’u lleoli y tu allan i Felodrom Geraint Thomas, felly ni fydd angen tocynnau ar gyfer ardaloedd awyr agored, ond argymhellir yn gryf cael tocynnau ar gyfer y cyflwyniad gan ei fod yn addo bod yn olygfa wych ac yn gyfle unwaith mewn oes!

 

“Mae cymal 6 Taith Dynion Prydain yn cael ei gynnal gan Gyngor Dinas Casnewydd mewn partneriaeth â Chasnewydd Fyw, ac mae'n cael ei ariannu gan lywodraeth y DU drwy ei Chronfa Ffyniant Gyffredin,” eglurodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Masnachol Casnewydd Fyw. “Rydyn ni mor falch o fod yn rhan o hyn, yn enwedig ar ôl ailenwi’r Felodrom i ddathlu buddugoliaeth Geraint yn y Tour de France yn 2018, ac mae Taith Prydain eleni yn nodi ymddeoliad Geraint o feicio proffesiynol.”

Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn un o ddim ond pum felodrom dan do yn y DU, a dyma’r cyfleuster cenedlaethol ar gyfer Cymru. Mae'n cynnal llawer o ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â chyfres o sesiynau beicio i bawb – plant neu oedolion – o bob lefel, o ddysgu i  feicio hyd at feicio trac ar lefel gystadleuol uwch.

I gael gwybod mwy am feicio gyda Chasnewydd Fyw, ewch i www.newportlive.co.uk/beiciotrac

I archebu tocynnau am ddim ar gyfer cychwyn cymal 6: Cymal 6 Taith Dynion Prydain Lloyds yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas