Ar ôl misoedd ar gau oherwydd pandemig y coronafeirws, mae miloedd o gwsmeriaid wedi dychwelyd i gyfleusterau hamdden Casnewydd Fyw ers iddyn nhw ailagor ar 3 Mai.

Ailagorodd yr ymddiriedolaeth elusennol ei phyllau nofio, campfeydd, cyrtiau, neuaddau a dosbarthiadau chwaraeon a gwasanaethau eraill yn gynharach y mis hwn ac ers hynny mae plant ac oedolion o bob rhan o Gasnewydd wedi bod yn mwynhau bod yn gorfforol egnïol yn ei chanolfannau unwaith eto. Mae Casnewydd Fyw wedi cefnogi dychweliad cwsmeriaid i ffitrwydd drwy ddarparu’r cyfleusterau am ddim i aelodau yn ystod mis Mai. 

Mae ymchwil wedi dangos bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar gyfranogiad pobl mewn gweithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith plant, a bod y bwlch mewn anweithgarwch corfforol rhwng dosbarthiadau cymdeithasol yn lledu. O'r herwydd, mae ‘r ffaith bod cynifer o bobl yn dychwelyd i gyfleusterau Casnewydd Fyw yn helpu i wrthdroi rhai o'r patrymau hyn, ac yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr.

Mae Casnewydd Fyw yn parhau i gefnogi mynediad cwsmeriaid at weithgarwch corfforol gyda chynnydd yng nghapasiti dosbarthiadau  yn dilyn y canllawiau diweddar gan Lywodraeth Cymru a thrwy gyflwyno gweithgareddau hanner tymor newydd i blant gan gynnwys sesiynau blasu tenis a beicio, gyda’r Beiciwr BMX proffesiynol Matti Hemmings, yn rhoi gwersi triciau beicio.  Gall trigolion Casnewydd hefyd gael Archwiliad Iechyd am ddim o hyd yn ystod mis Mai i helpu i ailasesu eu lefelau iechyd a gweithgarwch corfforol a'u cefnogi i ddychwelyd i weithgarwch corfforol. 

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw "Mae'n wych gweld cynifer o gwsmeriaid a staff yn dychwelyd i'n cyfleusterau. Mae'r pandemig wedi dangos mor bwysig yw bod yn gorfforol egnïol i'n hiechyd a'n lles ac rydyn ni am gefnogi cynifer o bobl ag y gallwn ni.

"Mae'n addawol bod nifer ein haelodau wedi cynyddu gan dros 30% ers dechrau'r mis ac rydyn ni wrth ein bodd bod cwsmeriaid yn ymuno â ni ac yn manteisio ar y cymorth ffitrwydd personol wedi'i deilwra y gallwn ei gynnig iddynt. Rwyf hefyd wrth fy modd yn cael cynifer o bobl ifanc yn ôl ac yn cael hwyl mewn gwersi nofio a tenis. Rydyn ni wedi cael adborth gwych gan gwsmeriaid hapus sydd wrth eu bodd eu bod yn gallu dychwelyd ac rydyn ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth a roddwyd i ni gan gwsmeriaid a phartneriaid wrth baratoi i ailagor.

"Os yw cwsmeriaid yn ansicr ynghylch dychwelyd, rydyn ni’n barod iawn i’ch tywys drwy’r cyfleusterau ac esbonio’r mesurau diogelwch sydd gennym ar waith. Mae diogelwch ein cwsmeriaid a'n staff o'r pwys mwyaf ac mae gennym Ymrwymiad Covid ar waith fel y gall pawb gael tawelwch meddwl wrth ymarfer yn ein cyfleusterau." 

Ceir gwybodaeth fanylach am ailagor cyfleusterau Casnewydd Fyw a'r hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl yn casnewyddfyw.co.uk.