don-letts.jpeg   pressure-ep-bfi.jpeg

Ym mis Mehefin eleni mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn cael yr anrhydedd o fod yr unig leoliad yng Nghymru i gynnal Gŵyl Ffilm Caribïaidd Windrush (WCFF). Mewn partneriaeth â Canolfan Ffilm Cymru a Cinema Golau, o ddydd Gwener 17 i ddydd Sul 19 Mehefin bydd Glan yr Afon yn cynnal yr ŵyl ffilm uchel ei pharch hon, sydd eleni ar thema O’r Ymerodraeth i'r Gymanwlad: Etifeddiaeth Cenhedlaeth Windrush

Trwy adrodd straeon ymdrochol, cynnal gweithdai rhyngweithiol a digwyddiadau sy'n ysgogi'r meddwl, bydd yr ŵyl eleni’n tynnu sylw at gyfraniad artistig, gwleidyddol a chymdeithasol yr arloeswyr gwreiddiol a gyrhaeddodd Prydain yn ystod y 1940au yn ogystal â'u disgynyddion sy'n llunio Prydain heddiw, gan ffurfio eu naratifau a'u hunaniaethau diwylliannol a gwleidyddol eu hunain. Dyma rai uchafbwyntiau na ellir eu hosgoi sy'n cael eu sgrinio dros y penwythnos.

Yn lansio gweithgaredd y penwythnos ddydd Gwener 17 Mehefin bydd y ffilm Rebel Dread sy'n archwilio stori Don Letts, gwneuthurwr ffilmiau chwedlonol, DJ, cerddor a sylwebydd diwylliannol. Mae'r ffilm yn cyflwyno stori Don fel un am ddyn du o’r genhedlaeth gyntaf a aned ym Mhrydain o fewn sîn pync y 1970au a'r 80au. Yn dilyn y ffilm bydd sesiwn holi ac ateb gyda Don Letts y cyfwelir ag ef gan Aleighcia Scott, a pherfformiad cerddorol gan Aleighcia.

Ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin bydd dangosiadau o ffantasi gwyddonias animeiddiedig cyntaf Caribïaidd, Battledream Chronicle. Mae'r ffilm epig hon yn adrodd hanes caethwas ifanc o Martinique sy'n ymladd dros ei rhyddid mewn byd Affro-ddyfodolaidd. 

Bydd June Campbell Davies, Annetta Laufer ac Yvonne Connike yn dod at ei gilydd i sgrinio tri darn byr y maent wedi'u creu ac arwain sesiwn holi ac ateb yn Eye-Lash Focus on Women in Filmmaking ar brynhawn Sadwrn a Sul. Wedi'i ffilmio yng Nghasnewydd, mae darn Yvonne yn amlygiad arbrofol sy'n pontio'r cenedlaethau o freuddwydion cenhedlaeth Windrush yng Nghymru sy'n cynnwys cymysgedd o ddeunydd archifol a thystiolaeth newydd.

Mae Generation Revolution yn cyflwyno stori bwerus cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr du a brown sy'n newid y dirwedd gymdeithasol a gwleidyddol yn Llundain a’r tu hwnt. Mae'r darn yn dilyn brîd newydd cyffrous o sefydliadau yn ogystal â'r Llundeinwyr ifanc sy'n rhan ohonynt ac ar ôl y ffilm bydd trafodaeth banel gyda Fez Miah ac Andrew Ogun o Gasnewydd.

Bydd dydd Sadwrn yn dod i ben gyda Pressure. Wedi'i alw'n ffilm ddu gyntaf Prydain, mae Pressure yn ddogfen onest, ddiarbed ynghylch trafferthion pobl ifanc ddu Prydeinig sydd wedi'u dadrithio. A hithau’n ffilm ddig ond diffuant a chytbwys, mae Pressure yn delio â'r trafferthion hunaniaeth y mae'n rhaid i blant mewnfudwyr eu hwynebu.

Mae uchafbwyntiau o ddydd Sul yn cynnwys A Raisin in the Sun, y ddrama gyntaf gan fenyw ddu i'w pherfformio ar Broadway. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, daeth y cynhyrchiad i'r sgrin, dan gyfarwyddyd Daniel Petrie. Mae’r ffilm yn gwneud arsylwadau personol ar anghydfod rhyng-genedlaethol a gwahaniaethu o ran tai, gan gyfleu’r risgiau mawr, y sefyllfaoedd newidiol a’r amrywiaeth o brofiad o fewn bywyd pobl ddu yn America yng nghanol y ganrif. Yn dilyn y ffilm byddwn yn dathlu bywyd Actor Caribïaidd Sidney Poitier gyda thrafodaeth banel dan arweiniad Vanesta Cyril a Mrs Roma Taylor.

Yn dod â'r ŵyl i ben nos Sul bydd African Redemption: The Life and Legacy of Marcus Garvey.Yn ei fywyd byr daeth Marcus Mosiah Garvey y dyn Affricanaidd mwyaf blaenllaw yn y byd ac yn llygaid rhai, yn arweinydd hawliau sifil gorau’r ugeinfed ganrif. Mae’r cyfarwyddwr Roy T. Anderson yn dadansoddi’r holl haenau yn ei gyflwyniad o'r ffigwr dadleuol hwn sy'n aml yn cael ei gamddeall, gan gyfuno drama fyw gyffrous a ffotograffau trawiadol â chyfweliadau a sgyrsiau diarbed.

Am yr ŵyl, mae Danielle Rowlands, Swyddog Addysg a Chyfranogiad Glan yr Afon a chyd-gysylltydd WCFF, yn dweud, 'Mae'n anrhydedd i ni fod y lleoliad Cymreig a ddewiswyd ar gyfer Gŵyl Ffilm Caribïaidd Windrush eleni. Ar Lan yr Afon rydym yn gweithio gyda chymuned hynod amrywiol ac rydym yn ddiolchgar iawn i fod mewn partneriaeth â Canolfan Ffilm Cymru a Cinema Golau ac i anrhydeddu ein cymuned Caribïaidd trwy ddathlu a choffáu rhan mor bwysig o'u hanes.'

Mae etifeddiaeth Cenhedlaeth Windrush yn stori barhaus, wedi'i seilio o fewn cyd-destun ehangach yr Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad. Mae cyfraniadau cymdeithasol a diwylliannol gwledydd blaenorol a phresennol y Gymanwlad at Brydain yn bellgyrhaeddol. Ond mae'r berthynas hon rhwng hunaniaethau cenedlaethol a chyfunol yn fater sensitif a ddiffinnir gan hanes cyffredin o wladychiaeth a gormes, ond hefyd o gymundodaeth, diwylliant a dathlu.

Mae thema’r ŵyl eleni, sef Y Tu Hwnt i'r Gymanwlad, yn archwilio'r berthynas gymhleth hon trwy adrodd straeon Cenhedlaeth Windrush a hen drefedigaethau eraill, gan holi "beth mae'n ei olygu i rannu hanes y Gymanwlad".

Mae tocynnau penwythnos ar gael am £15, gan roi alluogi cynulleidfaoedd gael mynediad i’r holl ffilmiau sy'n cael eu sgrinio yn ystod yr ŵyl. Fel arall, mae opsiwn hefyd i archebu fesul dangosiad unigol. I gael gwybod mwy neu i archebu tocynnau i unrhyw un o'r dangosiadau ysbrydoledig ac addysgol hyn, ewch i https://www.newportlive.co.uk/en/theatre-arts/festivals-events/windrush-film-festival/ neu ffoniwch 01633 656757.