Ym mis Mai, cyrhaeddodd tymor haf Glan yr Afon ei anterth gyda mis llawn sioeau, dangosiadau sinema a gweithdai, gan ddod â chynifer o bobl o bob oed i mewn i'r adeilad.

Sioeau

Black and white image featuring a trio of dancers

Dechreuodd mis Mai gyda dwy sioe o Anturiaethau Anifeiliaid i ddifyrru’r teulu a oedd yn llawn dop o anifeiliaid, cerddoriaeth a chwerthin wrth i bypedau trawiadol ac effeithiau arbennig mesmerig ddod ag anifeiliaid maint bywyd yn fyw o flaen llygaid y gynulleidfa.

Aeth Mark Billingham, cyn-arweinydd a saethwr cudd medalog gyda’r SAS, i'r llwyfan ar gyfer An Audience with Mark 'Billy' Billingham i roi cipolwg i gynulleidfaoedd ar ei yrfa yn yr SAS yn ogystal â’i gyfnod fel gwarchodwr personol i nifer o sêr gan gynnwys Angelina Jolie a Tom Cruise.

Dathlwyd y cewri cerddoriaeth y Bee Gees wrth i You Win Again feddiannu’r llwyfan, dychwelodd Showaddywaddy i berfformio eu holl ffefrynnau, a chafodd 28 o artistiaid o'r 80au eu hail-greu yn y sioe llawn dop, 80s Mania. Daeth mwy o gerddoriaeth ym mis Mai o The Simon & Garfunkel Story a oedd ar daith i ddathlu eu hanner canmlwyddiant, Fastlove: A Tribute to George Michael y gwerthwyd bron pob tocyn ar ei chyfer a The Sound of Springsteen gyda pherfformiadau o waith ‘y bos.'

Yn ystod mis Mai roedd yn anrhydedd hefyd i Lan yr Afon groesawu Marcus Jarrell Willis am ddwy noson wrth iddo berfformio ei ddarn newydd The Sanctuary yn y theatr stiwdio am y tro cyntaf. Roedd y ddawns ddeuawd un-act hon yn gwahodd y gynulleidfa i fynd ar daith fewnol i chwilio am eu noddfa – lle personol ar adeg pan fo lloches a llonyddwch yn bethau prin i’r ddynolryw. Roedd The Sanctuary yn cynnwys cyfansoddiadau ysgrifennu gwreiddiol gan yr awdur newydd o Gymru, Tomos O'Sullivan, a cherddoriaeth wreiddiol gan y canwr Americanaidd, Lashondra Lankford. 

 

Sinema

Ym mis Mai, cafodd amrywiaeth o ffilmiau eu dangos yn Sinema Glan yr Afon. Yn dechrau’r rhaglen brysur roedd The Worst Person in the World a oedd yn croniclo pedair blynedd ym mywyd Julie, menyw ifanc sy'n gwau ei ffordd trwy ddyfroedd cythryblus ei bywyd cariad ac yn ei chael yn anodd dod o hyd i'w llwybr gyrfa. Gwahoddwyd teuluoedd i fwynhau dwy ffilm, The Bad Guys, yn dilyn nifer o anifail-droseddwyr diwygiedig sydd wedi'u camddeall yn eu hymgais i wella eu hunain, a Sonic the Hedgehog 2, gyda Sonic a'i ffrind newydd Tails yn cychwyn ar daith i ddod o hyd i'r emerald cyn i’r dwylo anghywir gael gafael arno.

Ymhlith y dangosiadau eraill roedd The Phantom of the Open, stori wir dwym-galon am Maurice Flitcroft, a ymunodd â Thwrnamaint Agored 1976 er nad oedd erioed wedi chwarae rownd o golff o'r blaen; ffilm newydd The Batman gyda Robert Pattinson yn y brif rôl a The Outfit sy'n dilyn teiliwr Saesneg sy'n gorfod meddwl am ffordd o dwyllo grŵp peryglus o gangsters er mwyn goroesi noson dyngedfennol.

 

Gweithdai

SC Riverfront Square LOGO.jpg

Dechreuodd dau weithdy newydd ym mis Mai, y  Clwb Sgratsio a Creadigrwydd mewn Natur.

Mae’r Clwb Sgratsio yn her 11 wythnos i blant 9 i 16 oed lle bydd pobl ifanc yn cael cyfle bob wythnos i feistroli techneg sgratsio newydd er mwyn symud ymlaen i'r lefel nesaf. Bydd y gyfres o weithdai’n dod i ben gyda pherfformiad terfynol.

Mae Creadigrwydd mewn Natur yn gyfres o weithdai anffurfiol gyda'r artist Sarah Goodey sy'n defnyddio natur a'r tu allan fel ysbrydoliaeth ar gyfer prosiectau creadigol syml gan gynnwys arlunio a gwneud marciau, ffotograffiaeth a chrefft wlân. Mae'r sesiynau hyn yn archwilio gwahanol dechnegau gan weithio dan do a thrwy fynd am droeon arsylwi y tu allan.

Yn ystod hanner tymor mis Mai cafodd pobl ifanc gyfle i ymuno â’r Clwb Drama, Disgo Tots a Chlwb Gwnïo O Susannah! i ddysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd.

Yn parhau hefyd trwy gydol mis Ebrill roedd gweithdai wythnosol poblogaidd Glan yr Afon, sef Cerddoriaeth a Symud Hubble, Theatr Ieuenctid Hatch, Cerameg i Oedolion, Dosbarthiadau Rubicon Dance, Lle Creu a Capoeira.

 

Gweithgareddau Eraill

I ddathlu Jiwbilî'r Frenhines daeth timau Datblygu Celfyddydol a Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Live at ei gilydd i gynnal prynhawn o weithgarwch i deuluoedd o Ysgol Gynradd Maendy. Roedd y prynhawn yn cynnwys gweithgareddau celf a chrefft, gemau, chwaraeon a chinio picnic ac fe'i hwyluswyd trwy gyllid hael gan Casnewydd yn Un, Cyngor Dinas Casnewydd a GAVO.

Y mis hwn, ymunodd Glan yr Afon hefyd â Rhaglen Hyfforddi Cymru Gyfan Rubicon Dance. Wrth ymuno, dywedodd Gemma Durham, Pennaeth Theatr, y Celfyddydau a Diwylliant, "Rydym wrth ein boddau o ymuno â Rhaglen Hyfforddi Cymru Gyfan Rubicon. Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon wedi gweithio gyda Rubicon Dance ers blynyddoedd lawer ac mae'n wych gallu datblygu ein perthynas ymhellach. Edrychwn ymlaen at y cyfleoedd a ddaw yn sgil y rhaglen, gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid a pharhau i gefnogi datblygiad y sector dawns ledled Cymru."

Yn ystod mis Mai, ymwelodd y Coach Tourism Association hefyd â Glan yr Afon fel rhan o'u digwyddiad rhwydweithio yn y Gwanwyn, sef dechrau partneriaeth newydd a fydd, gobeithio, yn denu cynulleidfaoedd newydd i Lan yr Afon o ganlyniad i deithiau grŵp o bob cwr o'r wlad.